Archif Newyddion

03/11/2015 - 16:09
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg Huw Lewis i ymyrryd i atal yr hyn a alwant yn "israddio systematig o addysg Gymraeg" gan Gyngor Sir Dinbych. Yr wythnos hon, penderfynodd cabinet y Cyngor i israddio Ysgol Ardal newydd ar gyfer disgyblion Ysgol Pentrecelyn (ar y cyd gyda Llanfair Dyffryn Clwyd) o fod yn ysgol gategori 1 (cyfrwng Cymraeg) i fod yn gategori 2 (dwy ffrwd Cymraeg a Saesneg). Ond daeth i'r amlwg fod y Cyngor wedi bod yn israddio addysg Gymraeg yn y sir ers blwyddyn bellach.
26/10/2015 - 16:19
Mae Cell Caerdydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan bod angen gweithredu ar fyrder ar ddod â Safonau i rym yn y maes trafnidiaeth yn sgil eu llwyddiant i sicrhau bod Network Rail yn newid arwydd uniaith Saesneg ar orsaf yn y brifddinas. 
23/10/2015 - 17:43
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu datganiad gan Leanne Wood heddiw ynghylch symud tuag at gynnig addysg cyfrwng Cymraeg i bawb.
22/10/2015 - 16:13
Mae ymgyrchwyr iaith wedi dweud bod y cyhoeddiad am newidiadau i'r cwricwlwm heddiw yn golygu parhau â system Cymraeg ail iaith sy'n methu pobl ifanc.   
22/10/2015 - 15:26
Mae ymgyrchwyr iaith wedi mynegi pryder y gallai manylion yr hawliau iaith newydd a gafodd eu cyhoeddi'n gynharach yn y mis danseilio penderfyniad cynghorwyr Sir Gaerfyrddin i weithio'n fewnol drwy'r Gymraeg.