Trafod ein Cymunedau Cymraeg a degau yn gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn y LlywodraethCafodd Cymdeithas yr Iaith wythnos fyrlymus arall yn herio'r Llywodraeth am y Gorchymyn Iaith ynghyd â thrafodaeth ddeinamig ar faes yr Eisteddfod ynghylch sut i greu cymuned Gymraeg gynaliadwy.
Cyfarfod 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy', Dydd Mercher Awst 5ed:Cafwyd ymateb da iawn
Daeth dros 200 o aelodau a chefnogwyr Cymdeithas yr Iaith i brotest ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn y Bala heddiw, lle cyflwynwyd ddeiseb brys wedi'i arwyddo gan gefnogwyr yn yr wyl. Byrdwn y neges oedd yr angen i brysuro gyda'r gwaith o drosglwyddo pwerau deddfu dros y Gymraeg i Gymru.
Daeth dros 100 o bobl i Gyfarfod Cyhoeddus 'Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy' ym Mhabell y Cymdeithasau, ar Faes Eisteddfod Genedlaethol y Bala heddiw. Dywedodd Hywel Griffiths arweinydd ymgyrch Cymunedau rhydd y Gymdeithas:"Ers rhai misoedd mae rhai o swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y cyd gyda thrigolion Penllyn wedi bod yn trafod y mater hwn.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi trefnu wythnos lawn o weithgarwch gyda'r nos ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol y Bala.
Heddiw ar faes Eisteddfod yr Urdd, cyflwynodd aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg furiau yn llawn llofnodion a dyheadau bobl Cymru am fesur iaith cyflawn i Lywodraeth y Cynulliad.Casglwyd y canoedd o lofnodion dros y flwyddyn ddiwethaf, ac maent yn galw ar Bwyllgor Craffu'r Cynulliad i fynnu bod yr holl bwerau dros y Gymraeg yn cael eu trosglwyddo i Gymru.Erbyn Mehefin 5e
Bu'n wythnos fywiog a chyffrous i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn yr Eisteddfod ac fe gychwynnodd ar nodyn cwbwl arbennig wrth i'n Cadeirydd, Hywel Griffiths, ennill y goron ar y dydd Llun cyntaf.Mae'r cerddi enillodd y goron iddo yn rhai arbennig ac yn ein llenwi â gobaith am ddyfodol Caerdydd, Cymru a'r Gymraeg.
Er mwyn tynnu sylw pobol Cymru at yr argyfwng ac nad yw bellach yn bosibl i bobl ifanc fyw yn eu cymunedau fe fydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn codi 'Tŷ Unos' ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol ac yn ei gludo o'r uned i Uned Llywodraeth Cymru ar y Maes am 1 o'r gloch dydd Gwener Awst 8.