Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cwestiynu’r penderfyniad Awdurdodau’r Steddfod i roi safle ar y maes i Sky TV. Ymddangosent gydag arddangosfa symudol mewn prif safle wrth y Pafiliwn Ddydd Sadwrn. Roedd eu harddangosfa gosod a rhyngweithiol oll yn uniaith Saesneg haeblaw am 1 poster bach o waith cartre’n gwahodd Eisteddfodwyr i wylio gemau rhyngwladol pêl-droed Cymru’n fyw ar Sky yn y dyfodol.
Bydd cychwyn trawiadol i adloniant Cymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod gyda'r gig Nos Lun "Colli Tir - Colli Iaith" yng nghlwb Pont Ebwy sydd o fewn 10 munud o gerdded i'r Maes Ieuenctid a 3 munud o'r Maes Carafannau.
Ar y dydd Iau yn ‘Steddfod Casnewydd bydd gwledd arbennig i gefnogwyr pêl-droed a cherddoriaeth fel ei gilydd. Oherwydd ar y diwrnod hwn ar gae chwaraeon maes yr Eisteddfod bydd gornest bêl-droed fawreddog yn cymryd lle wrth i dîm Bandiau Pont Ebwy herio tîm Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.