Heddiw, Mair Stuart oedd yr unfed aelod ar ddeg mewn cyfres o weithredwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i baentio sloganau ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad yn galw am Ddeddf Iaith newydd. Targedwyd adeilad llywodraeth y Cynulliad bron yn wythnosol ers diwedd Medi.
Yn gynharach yn yr wythnos, cyhoeddodd y Western Mail erthygl gan Alun Pugh (Gweinidog Diwylliant a'r Iaith Gymraeg) a oedd yn ymosod ar aelodau Cymdeithas yr Iaith, a'u cyhuddo o wisgo 'blinkers'. Heddiw, cyhoeddodd y Western Mail ymatebiad Steffan Cravos - Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Dros nos bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg allan yn gweithredu dros Ddeddf Iaith newydd yn Aberystwyth drwy ludio sticeri 'Ble Mae'r Gymraeg' a Deddf Iaith Newydd ar siopau a busnesau yn y dre.
Bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn bresennol yng nghyfarfod cyntaf y Fforwm Iaith newydd a gynhelir am 6pm yn y 'Ganolfan' ym Mhorthmadog heno. Dyma’r corff newydd a sefydlwyd gan Lywodraeth y Cynulliad ac sy’n cael ei gadeirio gan y Gweinidog Diwylliant, Alun Pugh.