Mae Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Steffan Cravos wedi herio Prif Weinidog Cymru, Rhodri Morgan, trwy ebost i ymweld a'r carcharor Gwenno Teifi yfory yn HMP Eastwood Park ger Caerloyw i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.
Dywed Steffan Cravos:"Mae merch 19 oed yn y carchar oherwydd methiant llywodraeth y Cynulliad. Dylai Rhodri Morgan, o'i fan gyfforddus, ystyried ymweld â'r carchar."
Ymddangosodd y degfed aelod on Gymdeithas yr Iaith Gymraeg o fewn cyfnod o lai na dau fis ger bron Llys Ynadon Caerdydd heddiw am achosi difrod troseddol i adeilad Llywodraeth Cymru fel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith. Derbyniodd Gwyn Sion Ifan, rheolwr Awen Meirion, Y Bala ddirwy o £450 am beintio’r slogan ‘Deddf Iaith’ ar y wal.
Bu cyfarfod llwyddiannus iawn, gyda'r stafell gynhadleddau yn llawn, yng nghanolfan y Mileniwm neithiwr i drafod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd . Cafwyd ymateb candarhaol gan yr holl wrth-bleidiau a oedd yn bresennol, ac roedd consensws barn yn benodol am yr angen am statws swyddogol i'r Gymraeg, hawliau i'r Gymraeg a'r angen am gomisiynydd iaith annibynol.
Nos Fawrth, 24ain o Ionawr yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd bydd Cyfarfod Cyhoeddus yn cael ei gynnal er mwyn ymgynghori ar yr angen am Ddeddfwriaeth Newydd ym maes y Gymraeg. Daw’r cyfarfod yn dilyn cyfnod o drafodaeth wleidyddol ac ymgynghori â phleidiau gwleidyddol.
Fe ymddangosodd Gwenno Teifi, aelod 18 oed o Gymdeithas yr Iaith yn Llys Ynadon Caerfyrddin ddydd Llun diwethaf 9/1, am iddi wrthod talu iawndal a chostau llys o £200 yn dilyn protest yn stiwdio Radio Sir Gar yn 2004.
Daeth dau gant o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i Rali Calan y Mudiad gynhaliwyd yng Nghaerdydd heddiw. Yn y rali datganodd Steffan Webb, Rheolwr Menter Iaith Rhondda Cynon Taf, ei gefnogaeth i Ddeddf Iaith Newydd.
Am 2 o'r gloch heddiw bydd Rali-brotest Deddf Iaith yn cael ei chynnal ar Stryd y Frehnines, Caerdydd (cychwyn ger cerflun Aneurin Bevan). Bwriad y rali yw crisialu holl ymgyrchoedd gwahanol Cymdeithas yr Iaith a fu’n tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.