Mae 6 aelod o Gymdeithas yr Iaith wedi llwyddo i fynd ar dô Prifysgol Bangor i ymuno a'r 15 aelod sydd wedi bod ar dô Prifysgol Aberystwyth am yr awr ddiwethaf. Mae'r 21 aelod yma yn ogystal a 3 aelod pellach sydd yno'n cefnogi criw Bangor, yn cymeryd rhan mewn protest yn galw am Goleg Aml-safle Cymraeg.
Heddiw (Sadwrn 25, Mawrth), yng Nghyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth, bydd aelodau yn clywed bod dadleuon y mudiad o blaid Deddf Iaith Newydd bellach wedi ennill cefnogaeth eang ymhlith cyrff a phleidiau gwleidyddol ar draws Cymru. Ymhellach, clywir am dystiolaeth rhyngwladol sydd yn cadarnhau fod deddfwriaeth o’r fath yn allweddol os am ehangu’r defnydd o’r iaith Gymraeg.
Dydd Sadwrn yma, (Mawrth 25ain) bydd Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gynhelir yn Aberystwyth, yn cael cyfle i glywed tystiolaeth rhyngwladol o bwysigrwydd deddfwriaeth gadarn yn y dasg o adfer iaith leiafrifol.
Pan ddaw Rhodri Morgan - Prif Weinidog Cymru - i Neuadd Goffa Penparcau i annerch Plaid Lafur Aberystwyth (Nos Fercher 22ain), bydd yn dod wyneb yn wyneb â Gwenno Teifi, aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg a garcharwyd am bum niwrnod yr wythnos ddiwethaf am ei safiad dros Ddeddf Iaith newydd.
Daeth bron i 100 o bobl i orsaf drennau Aberystwyth am 3pm heddiw i groesawu Gwenno Teifi yn ol i Gymru, ar ol cyfnod mewn carchar yn Sir Gaerloyw.
Bydd 28 o fyfyriwr Prifysgol Cymru Aberystwyth a Bangor, yn cynnal ympryd rhwng 9yb heddiw hyd nes i Gwenno Teifi gael ei rhyddhau o'r carchar, er mwyn dangos cefnogaeth iddi a'i safiad dewr dros Ddeddf iaith Newydd, yn dilyn ei charchariad gan Llys Ynadon Caerfyrddin ddoe.
Mewn cyfarfod y prynhawn yma gyda phrif Swyddogion a Chynghorwyr Ceredigion, bydd dirprwyaeth o Gymdeithas yr Iaith yn llongyfarch y Cyngor ar eu hymrwymiad at ysgolion pentref sydd yn cymharu'n ffafriol iawn gyda pholisiau dinistriol Cyngor Sir Gar. Ond bydd y Gymdeithas yn dweud wrthynt bod gwendid sylfaenol yn eu hargymhellion i adolygu ysgolion, a gynhwysir mewn papur ymgynghorol cyfredol.