Dros nos cafodd 25 o gwmniau preifat yn Aberystwyth megis Halifax, Millets, Dorothy Perkins, Burtons, Abbey a Woolworths eu targedu am yr eildro gan 30 aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, pan orchuddiwyd eu ffenestri â sticeri gludiog, sydd yn gofyn ‘Ble mae’r Gymraeg?’
Mae bwyty cadwyn Burgerking wedi addo mabwysiadu polisi dwyieithog erbyn y Nadolig. Dyna’r neges a dderbyniodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg heddiw gan reolwr Burgerking yn Aberystwyth.
Neithiwr, yn nhref Aberteifi, cafodd nifer o gwmniau megis Kwik Save, Bewise, Curries, Halifax, Dorothy Perkins, Boots, Woolworths, W H Smiths, Thomas Cook, Choices a Peacocks eu targedu gan aelodau o'r Gymdeithas..