Heddiw mi fydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cynnig 'peanuts' i fynychwyr cyfarfod Prosiect y Filltir Sgwar a gynhelir gan Cyngor Sir Caerfyrddin. Nôd y prosiect hwn ydy "Adeiladu ar adnoddau lleol presennol a galluoedd i gyfrannu at ddatblygiad economaidd ac adfywio Sir Gaerfyrddin i hybu pobl i aros yn yr ardal neu i ddychwelyd adref.
Yn gynnar y bore yma fe osodwyd cadwyni ar draws mynedfa swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin er mwyn rhwystro'r gweithwyr rhag mynd i'w gwaith. Parhaodd hyn am hanner awr cyn i'r heddlu gyrraedd a thorri'r protestwyr o'r cadwyni.