Yn gynnar y bore yma fe osodwyd cadwyni ar draws mynedfa swyddfeydd Llywodraeth Cymru yng Nghaerfyrddin er mwyn rhwystro'r gweithwyr rhag mynd i'w gwaith. Parhaodd hyn am hanner awr cyn i'r heddlu gyrraedd a thorri'r protestwyr o'r cadwyni.
Yn addas iawn roedd hyn ar y diwrnod yr oedd Canghellor y Trysorlys yn cyhoeddi ei bedwerydd Arolwg Gwariant sy'n cynnwys cyllideb y Cynulliad ar gyfer 2005-2008. Gobaith Cymdeithas yr Iaith yw y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn defnyddio canran uwch o'r gyllideb i'w wario ar y broblem dai yng Nghymru.Arhosodd y protestwyr yno am ddwyawr arall i bicedu'r adeilad. Roedd y weithred hefyd yn rhan o gyfres o weithgareddau a gynhelir dros yr haf er mwyn pwyso ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau penodol fyddai'n lliniaru effaith y cynnydd mewn prisiau tai ar gymunedau Cymru trwy:
Dywedodd Menna Machreth, un o'r protestwyr:"Rhaid sicrhau bod gan bobl hawl i fyw yn eu hardal leol os am sicrhau dyfodol i gymunedau Cymru. Byddai rhoi arian digonol i'r Cynllun Cymorth Prynu a sefydlu'r hawl i rentu yn rhoi cyfle i brynwyr tro-cyntaf gystadlu yn y farchnad dai ac yn galluogi pobl sydd eisoes wedi eu cau allan o'r farchnad i rentu ty yn eu hardal leol os ydynt yn dymuno."Ychwanegodd Menna Machreth:"Mae prisiau tai yn parhau i dyfu ar raddfa arswydus yng Nghymru ac o ganlyniad, mae nifer gynyddol o bobl yn wynebu trafferthion wrth geisio sefydlu cartref yn ei hardal leol. Mae'n hollbwysig felly bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar frys i leddfu effaith yr argyfwng tai ar gymunedau Cymru."Darllenwch mwy oddi ar wefan y Carmarthen Journal