Dros yr wythnosau diwethaf cynhaliwyd rhagbrofion ledled Cymru, ac erbyn hyn gellir cyhoeddi’r 4 band fydd yn brwydro am deitl grwp ifanc gorau Cymru. Y bandiau sydd wedi cyrraedd y ffeinal yw Gloria a’r Creiond Piws (enillwyr rhagbrawf Llyn), Zootechnics (enillwyr rhagbrawf Caernarfon), Amlder (enillwyr rhagbrawf Caerfyrddin), ac yn olaf Eusebio (enillwyr rhagbrawf Crymych).
Bydd nos Iau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe eleni yn ddathliad o gerddoriaeth hip-hop Cymraeg wrth i'r arloeswyr yn y maes, Llwybr Llaethog, berfformio set arbennig yng Nghlwb Barons i ddathlu 20 mlynedd ers iddyn nhw ryddhau'r deunydd rap cyntaf yn yr iaith.
Bydd cyn aelod y band Gorkys Zygotic Mynci, Euros Childs, yn perfformio yng nghlwb Barons yn Abertawe ar nos Fawrth 8fed Awst fel rhan o wythnos o gigs gwych fydd yn cael eu cynnal yno yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.
Bydd cyfle i ddilynwyr cerddoriaeth Gymraeg weld talentau’r dyfodol wrth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg gynnal rhagbrofion cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2006 dros y bythefnos nesaf.