Archif Newyddion

13/05/2024 - 16:18
Dyfarnodd llys yn Aberystwyth yn erbyn yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone heddiw (13 Mai) a chaniatau i gwmni parcio One Parking
08/05/2024 - 13:25
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar Gyngor Ceredigion i drin ysgolion gwledig y sir gydag agwedd “cadarnhaol” yn lle eu trin fel “problemau” yn dilyn pryderon dros ddyfodol rhai ohonyn nhw. Mewn ymateb i gais am gefnogaeth gan Lywodraethwyr Ysgol Llangwyryfon, cysylltodd y mudiad gyda Dirprwy Brif Swyddog Addysg Cyngor Ceredigion, Clive Williams, i bwysleisio nad yw dull presennol y Cyngor o drin dyfodol nifer o ysgolion gwledig y sir yn gyson â'i ddyletswyddau statudol dan y Cod Trefniadaeth Ysgolion (2018).
04/05/2024 - 17:49
Mynychoedd gannoedd rali a gorymdaith Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog heddiw (4 Mai) i alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf Eiddo fyddai’n mynd at wraidd yr argyfwng tai, a sicrhau bod tai yn 
01/05/2024 - 13:47
Mewn ymateb i adroddiadau a phryderon bod dyfodol nifer o ysgolion cynradd gwledig Ceredigion dan fygythiad, dywedodd Jeff Smith, Cadeirydd Rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith:
29/04/2024 - 10:31
Bydd yr ymgyrchydd iaith Toni Schiavone yn ymddangos gerbron llys yn Aberystwyth am y pedwerydd tro ar ddydd Llun, 13 Mai am iddo wrthod talu rhybudd parcio uniaith Saesneg, wedi i’r cwmni parcio One Parking Solution ennill apêl i ailgyflwyno’r achos fis Ionawr.
20/04/2024 - 10:32
Mewn Cyfarfod Arferol ar nos Lun, 11 Mawrth, cytunodd Cyngor Tref Blaenau Ffestiniog yn unfrydol i basio cynnig yn ‘datgan cefnogaeth i alwad Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf Eiddo’. Daw y cyhoeddiad o flaen rali fawr Nid yw Cymru ar Werth yn y dref ar 4 Mai, lle bydd Beth Winter AS, Mabon ap Gwynfor AoS a’r cynghorydd Craig ab Iago ymysg rheiny fydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno ‘Ddeddf Eiddo - Dim Llai’ i fynd i’r afael â’r argyfwng tai a sicrhau bod tai yn cael eu trin fel cartrefi.
18/04/2024 - 14:14
Mewn sesiwn briffio yn y Senedd heddiw (18 Ebrill), lansiodd Cymdeithas yr Iaith waith ystadegol yn dangos llwybr cynnydd i sicrhau addysg Gymraeg i bawb erbyn 2050.
10/04/2024 - 11:04
Mewn sesiwn briffio yn y Senedd wythnos nesaf bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio gwaith ystadegol sy’n dangos y cynnydd sydd angen ei weld mewn addysg cyfrwng Cymraeg i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru’n ei dderbyn erbyn 2050.
03/04/2024 - 16:40
Ni fydd gweithredu radical i ddatrys yr argyfwng tai yng Nghymru a diogelu cymunedau Cymraeg oni bai i bobl ddod mewn nifer mawr i Rali Nid yw Cymru ar Werth ym Mlaenau Ffestiniog ar Fai 4 i ddangos cryfder teimladau Mae pryderon ymysg ymgyrchwyr iaith nad yw’r Llywodraeth yn deall maint yr argyfwng sy’n wynebu cymunedau Cymraeg, a na fydd polisïau digon blaengar i fynd at wraidd y broblem yn cael eu mabwysiadu.
21/03/2024 - 19:56
Wrth ymateb i gyhoeddi cabinet newydd Llywodraeth Cymru dywedodd Joseff Gnagbo, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: