Archif Newyddion

15/09/2023 - 13:48
Mewn llythyr agored at aelodau Cabinet Cyngor Sir Gar, mae Cymdeithas yr Iaith wedi datgan cefnogaeth i'r egwyddor o gyflwyno "Cyfarwyddyd Erthygl 4" yn y sir, ond yn datgan pryder na fydd y Cyngor yn mynd yn ddigon pell nac yn symud yn ddigon buan i ddatrys yr argyfwng tai yn ein cymunedau lleol. Yn eu cyfarfod fore Llun 18 Medi, bydd Cabinet y Cyngor Sir yn trafod adroddiad cychwynnol gan swyddogion am gasglu tystiolaeth a fydd yn sail i gynnal ymgynghoriad rywbryd y flwyddyn nesaf ar gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn y sir.
15/09/2023 - 11:09
Wrth i Gyngor Powys gynllunio i aildrefnu addysg yn ardal Llanfair Caereinion a Llanfyllin/Gogledd y Trallwng mae Tegwen Bruce-Deans, Prifardd Eisteddfod yr Urdd Sir Gâr eleni, yn dweud ei bod hi am weld mwy o blant ym Mhowys yn derbyn yr un cyfleoedd ag y cafodd hi trwy addysg cyfrwng Cymraeg. 
06/09/2023 - 13:25
Mae Cymdeithas yr Iaith yn cydymdeimlo â theulu Gareth Miles o glywed am eu profedigaeth heddiw. Roedd Gareth Miles yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas, yn Gadeirydd ar y mudiad rhwng 1967 ac 1968, ac yn allweddol o ran cyflwyno'r egwyddor creiddiol bod y frwydr dros yr iaith yn rhan annatod o'r frwydr fyd-eang dros gyfiawnder cymdeithasol. Tra'n adlewyrchu ar lwyddiant Cymdeithas yr Iaith mewn cyfweliad diweddar gyda'r Gymdeithas, dywedodd Gareth Miles:
01/09/2023 - 09:38
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cynhadledd “Yr Hawl i Dai Di
14/08/2023 - 11:19
Mae Cymdeithas yr Iaith yn annog trigolion lleol i ymweld ag uned Cyngor Sir Môn yn Sioe Môn (Dydd Mawrth, 15 Awst a Dydd Mercher, 16 Awst) i'w holi a ydy'r Cyngor unwaith eto am geisio cau ysgolion gwledig yr ynys. Mae dogfen fewnol gan y Cyngor Sir wedi dod i feddiant y Gymdeithas sydd, fe ymddengys, yn argymell cau 14 o ysgolion cynradd cyn diwedd y ddegawd, a chreu tair ysgol newydd i ganoli addysg. Esboniodd Robat Idris, Cadeirydd Cenedlaethol y Gymdeithas:
10/08/2023 - 12:26
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio partneriaeth gyda Chyngres Undebau Llafur Cymru (TUC Cymru) mewn cam pwysig i hyrwyddo ac amddiffyn hawliau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Ar stondin y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 2.30yh ddydd Iau 10 Awst, arwyddodd Robat Idris, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, a Siân Gale, Llywydd Etholedig TUC Cymru, Femorandwm Dealltwriaeth i lansio’r bartneriaeth hon.
09/08/2023 - 15:32
Cyhoeddodd Walis George yn rali Nid yw Cymru ar Werth heddiw y bydd ‘Seminar Rhyngwladol ar yr Hawl i Dai Digonol a Deddf Eiddo’ yn cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith fis Hydref. 
09/08/2023 - 10:47
Yn rali Nid yw Cymru ar werth ar Faes yr Eisteddfod am 2yh ddydd Mercher (9 Awst), bydd Cymdeithas yr Iaith yn gwneud cyhoeddiad pwysig am ddigwyddiad rhyngwladol a fydd yn rhoi dimensiwn newydd i’r ymgyrch.
06/08/2023 - 21:30
Mewn sgwrs heddiw fe wnaeth Angharad Tomos, Tamsin Davies, Siân Howys, Enfys Llwyd, Helen Greenwood, Haf Elgar a Menna Machreth yn trafod eu profiadau fel merched o fewn ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith. Mae'r sgwrs yn rhagflaenu lansiad cyfrol, ‘Merched Peryglus’, yn hwyrach eleni. Mae pob un o gyfranwyr y gyfrol wedi gweithredu’n uniongyrchol dros hawliau i’r Gymraeg, ac yn achos Enfys Llwyd ac Angharad Tomos, wedi treulio amser yn y carchar dros yr Iaith. Dywedodd un o olygyddion y gyfrol, Tamsin Davies:
06/08/2023 - 13:23
Mae Ffred Ffransis yn dechrau ar ympryd 75 awr am 12yp heddiw (6 Awst). Bydd yn dod â’i ympryd i ben ar ddiwedd rali Deddf Eiddo Cymdeithas yr Iaith.  Yn siarad cyn yr ympryd dywedodd: