Aeth tocynnau ar gyfer Gigs Tafod Steddfod 2007 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar werth heddiw. Mae’r tocynnau ar gael o flaen llaw drwy gysylltu a Swyddfa’r Gymdeithas yn Aberystwyth (01970 624501, dafydd@cymdeithas.org) neu drwy alw heibio i’r Bar Smwddi ar Stryd Wrecsam yng nghanol tref Yr Wyddgrug.
Am 1pm heddiw, tu allan i Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio Deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd.
Bydd cynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith yn protestio gyda rhiant heddiw, o flaen Ysgol Breifat Howell i ferched yn Ninbych ar ddiwrnod derbyn disgyblion newydd. Byddwn yn tynnu sylw at y ffaith fod ysgolion preifat yng Nghymru’n cael amddifadu’u disgyblion yn gyfangwbl o addysg Gymraeg ac o bob elfen o’r cwricwlwm Cymreig. Nid oes lle i drefn o’r fath yn y Gymru gyfoes.
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi galw ar Gyngor Sir Caerfyrddin i ddilyn esiampl Cyngor Sir Ddinbych, sydd wedi rhoi heibio am y tro eu cynlluniau i gau llawer o ysgolion pentrefol Cymraeg, ac i ymgynghori yn hytrach gyda'r cymunedau lleol.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi danfon e-bost at bob aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Dinbych o flaen eu cyfarfod Ddydd Mawrth pan fyddant yn ystyried y bosibiliad o gau hyd 11 o ysgolion pentre - y mwyafrif ohonynt yn rhai Cymraeg eu cyfrwng.
Neithiwr (nos Wener 24/9/04), yn nhref y Fflint, dechreuodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar gyfnod o bwyso gweithredol cyson, er mwyn tynnu sylw at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.