Archif Newyddion

15/11/2016 - 18:08
Wrth ddathlu datganiad Kirsty Williams fod rhagdyb i fod yn y dyfodol yn erbyn cau ysgolion pentrefol, mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar arweinwyr Llywodraeth Leol i ymateb yn gadarnhaol, ac i "ddal ar y cyfle" i gyfrannu at barhad ein cymunedau gwledig Cymraeg.   
07/11/2016 - 19:07
Angen clustnodi hanner yr arian ar gyfer prosiectau Cymraeg eu hiaith medd Cymdeithas  Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei beirniadu'n hallt gan fudiad iaith am fuddsoddi ddim ond £40,000 yn ffilmiau Cymraeg ers 2011 tra'n gwario £7 miliwn ar ffilmiau Saesneg.  
07/11/2016 - 16:32
Wrth i Gabinet Cyngor Ceredigion drafod dyfodol ysgolion Dyffryn Aeron mewn cyfarfod Cabinet yfory (dydd Mawrth 8fed o Dachwedd) mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar gynghorwyr i ohirio eu penderfyniad nes bydd cyhoeddiad gan Ysgrifennydd Addysg y Cynulliad wythnos nesaf am ysgolion gweledig. Dywedodd Ffred Ffransis ar ran grŵp addysg Cymdeithas yr Iaith:
04/11/2016 - 07:03
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn chwilio am unigolyn brwdfrydig, gweithgar a threfnus fydd yn gyfrifol am ysbrydoli a hwyluso gweithgaredd gwirfoddol, annibynnol gan gelloedd a rhanbarthau, gan sicrhau bod y frwydr dros gryfhau'r Gymraeg yn digwydd yn y De.
02/11/2016 - 12:26
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi annog y grŵp sy'n adolygu gwaith y Coleg Cymraeg i weithredu'n gyflym er mwyn sicrhau bod yr holl bobl ifanc mewn addysg bellach yn cael yr hawl i addysg cyfrwng Cymraeg. 
31/10/2016 - 18:51
Mae ymgyrchwyr wedi cyflwyno deiseb, wedi ei llofnodi gan dros 750 o bobl, yn gwrthwynebu penderfyniad Llywodraeth Cymru i eithrio gwasanaethau gofal sylfaenol, megis meddygfeydd, o unrhyw ddyletswydd i ddarparu gwasanaeth Cymraeg.   
 
28/10/2016 - 09:00
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i'r newyddion am golledion ariannol y Mudiad Meithrin.  
26/10/2016 - 09:56
Herio'r Safonau gerbron Tribiwnlys yn 'sarhaus a gwastraffus' medd y mudiad 
18/10/2016 - 17:13
Mae mudiad iaith wedi croesawu'r buddsoddiad ychwanegol yn y Gymraeg a ddaw yn sgil bargen rhwng Plaid Cymru a'r Blaid Lafur ar y gyllideb gyhoeddwyd heddiw, gan alw am dargedu adnoddau ar ddysgu Cymraeg i weithwyr ym meysydd addysg a gofal iechyd.