Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu datganiad Cyngor Sir Caerfyrddin heddiw y bydd ymgynghori ar greu strategaeth newydd i gynnal cymunedau gwledig, ond wedi galw ar bobl y sir i gyfrannu "syniadau o'r newydd".
Mewn ymateb i gyhoeddiad y Cyng. Cefin Campbell ar faes y Ffair Aeaf yn Llanelwedd, dywedodd David Williams, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gaerfyrddin:
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar i Lywodraeth Cymru gynnig rhagor o gymorth i bapur y Cymro wrth longyfarch gwirfoddolwyr ar eu cynlluniau i'w ail-sefydlu flwyddyn nesaf.
Dywedodd Aled Powell, cadeirydd grŵp digidol Cymdeithas yr Iaith
Mae grŵp o ymarferwyr iechyd wedi galw am hawliau clir i gleifion gael derbyn gwasanaethau yn Gymraeg gan ddarparwyr gofal sylfaenol fel meddygon teulu a fferyllwyr, mewn llythyr agored at Lywodraeth Cymru heddiw (Dydd Llun 27ain Tachwedd).
Mae mudiad iaith wedi croesawu llythyr gan Gymdeithas Rhyngwladol y Comisiynwyr Iaith yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â diddymu Comisiynydd y Gymraeg.
Mae dros 1,000 o bobl yn galw am ddatganoli darlledu i Gymru, mewn deiseb a gyflwynwyd heddiw i Gadeirydd adolygiad annibynnol S4C. Yn ystod haf a hydref 2017, casglodd ymgyrchwyr dros 1,000 o lofnodion ar ddeiseb gyda'r geiriad canlynol: "Rydym yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli darlledu i Senedd Cymru."