Heddiw, 13/6/04, mae Radio Carmarthenshire yn dechrau darlledu go iawn yn Sir Gâr, ac ar drothwy’r digwyddiad hwn fe gododd aelodau o Gymdeithas yr Iaith faner ar fast trosglwyddo Carmel ger Cross Hands. Mae’r neges ar y faner yn syml – “ni’n gwrando”.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cael ar ddeall fod Tîm Rheoli Swyddogion Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cymryd arnynt eu hunain - heb ofyn i gynghorwyr etholedig - i fabwysiadu cynllun dadleuol a allai olygu cau llawer o ysgolion pentrefol yn y sir.
Urdd's principlesSIR - Glyn Davies's condemnation of the peace protest on the Urdd Eisteddfod field (The Western Mail June 3) shows that the AM has little understanding of the movement's long-standing commitment to peace and international co-operation.
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi cysylltu â phob un o'r 178 ymgeisydd sy'n sefyll yn yr etholiadau ar gyfer Cyngor Sir Caerfyrddin ddydd Iau nesaf yn gofyn iddynt daflu Cynllun Datblygu Unedol y Sir i'r neilltu a dechrau eto.
Mewn protest ar faes Eisteddfod yr Urdd heddiw (Dydd Gwener 04/06/04), bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn datgan na ddylai y cwango addysg ELWA ymyrryd gyda'n hysgolion uwchradd trwy eu hamddifadu o'r chweched dosbarth. Bydd y brotest yma yn cychwyn wrth uned Cymdeithas yr Iaith am 1 o'r gloch.
Ar hyn o bryd mae'r Asiantiaeth Safonau Gyrru yn methu cynnig gwasanaeth Cymraeg i Gymry ifanc sydd am ddysgu gyrru. Mae hyn wedi digwydd er fod gan yr Asiantiaeth Ddysgu Gyrru Gynllun Iaith sydd wedi ei gymeradwyo gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.
Bydd Cymdeithas yr Iaith yn lansio deiseb 'Gyrrwch yn Gymraeg ar y Dydd Llun, yn lansio gwefan newydd ar y Dydd Mercher a'n cynnal protest yn erbyn Elwa ar y Dydd Gwener. Uned Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar Faes Eisteddfod yr Urdd 29-30
Mae Cymdeithas yr Iaith yn ddigon hy heddiw (Mercher 19eg) i gyhoeddi pamffled polisi newydd yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad, a'r Cynghorau Sir newydd y mis nesaf, nid yn unig i gydnabod llwyddiant Ysgolion Pentrefol ond hefyd i fabwysiadu fformiwla eu llwyddiant fel sylfaen strategaeth ar gyfer yr sardaloedd trefol hefyd o ran sicrhau llwyddiant addysgol ac adfywiad cymunedol.