Senedd y Gymdeithas

Senedd Cymdeithas yr Iaith

Y Senedd yw'r pwyllgor sy'n gyfrifol am oruchwylio holl waith y Gymdeithas.

Mae hawl gan unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith enwebu unrhyw aelod arall i wasanaethu fel aelod o'r Senedd. Gallwch ddarllen am gyfrifoldebau'r swyddogion gwahanol yma.

Bob Hydref, yn ystod Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas, etholir swyddogion a fydd yn gwasanaethu fel aelodau o'r Senedd am gyfnod o flwyddyn. Mae'r Swyddogion hyn yn gyfrifol am wahanol agweddau o waith y Gymdeithas. Caiff y Swyddogion sy'n gyfrifol am ranbarthau'r Gymdeithas eu hethol yng Nghyfarfodydd Blynyddol y rhanbarthau.

Dyddiadau cyfarfodydd 2025-26

Mae croeso i unrhyw aelod o Gymdeithas yr Iaith ddod i gyfarfodydd y Senedd a chyfrannu atynt, ond dim ond swyddogion etholedig a chyflogedig sydd â'r hawl i bleidleisio.

Nid  ydym wedi cadarnhau dyddiadau'r flwyddyn eto ond bydd y cyfarfod nesaf am 10.30, dydd Sadwrn, 8 Tachwedd yn Aberystwyth.

Aelodau'r Senedd

Cadeirydd Cenedlaethol: Owain Meirion (owain@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am reoli'r Gymdeithas rhwng cyfarfodydd Senedd

Is-gadeirydd Cyfathrebu: Mirain Owen (mirain@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am gydlynu gwaith cyfathrebu’r Gymdeithas

Is-gadeirydd Gweinyddol: gwag – yn gyfrifol am weinyddiaeth y Gymdeithas

Is-gadeirydd Ymgyrchoedd: Siân Howys (sian@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am gydlynu gwaith y grwpiau ymgyrchu

Trysorydd: Danny Grehan (danny@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am faterion ariannol y Gymdeithas

Golygydd y Tafod: Mared Llywelyn Williams (tafod@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am olygu cylchgrawn y Gymdeithas

Swyddog Codi Arian a Mentrau Masnachol: gwag – yn gyfrifol am weithgarwch codi arian y Gymdeithas, gan gynnwys nwyddau

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol: Jac Jolly (jac@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am ein presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol

Swyddog Cyswllt Colegau: Siôn Dafydd (sion@cymdeithas.cymru) - yn gyfrifol am ddenu pobl ifanc 16+ at waith y Gymdeithas

Swyddog Diwylliant: Aled Thomas (aledthomas@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am hyrwyddo ymgyrchu trwy ddulliau creadigol

Swyddog Dysgwyr: Richard Morse (richard@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am drefnu gweithgarwch i bobl sy'n dysgu'r iaith

Swyddog Rhyngwladol: Felix Parker-Price (felix@cymdeithas.cymru) – yn gyfrifol am feithrin cysylltiadau gydag ymgyrchwyr iaith eraill

Cadeirydd y Grŵp Addysg: Siôn Dafydd (sion@cymdeithas.cymru) – cadeirio cyfarfodydd y Grŵp a llefaru ar ei ran ac arwain ar ymgyrchoedd addysg

Is-gadeirydd y Grŵp Addysg: Kirran Lochhead Strang (kirran@cymdeithas.cymru) – cefnogi Cadeirydd y grŵp, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp

Cadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy: Jeff Smith (jeff@cymdeithas.cymru) – cadeirio cyfarfodydd y grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â thai, cynllunio a materion eraill sy'n effeithio ar gymunedau Cymraeg

Is-gadeirydd y Grŵp Cymunedau Cynaliadwy: Dylan Lewis-Rowlands (dylan@cymdeithas.cymru) – cefnogi Cadeirydd y grŵp, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp

Cadeirydd y Grŵp Dyfodol Digidol: Carl Morris (carl@cymdeithas.cymru) – cadeirio cyfarfodydd y grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â materion darlledu a phresenoldeb y Gymraeg arlein a materion eraill sy'n effeithio ar y Gymraeg yn y byd digidol

Is-gadeirydd Grŵp Dyfodol Digidol: Aled Thomas (aledthomas@cymdeithas.cymru) – cefnogi Cadeirydd y grŵp, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp

Cadeirydd y Grŵp Hawl i'r Gymraeg: Aled Thomas (aledthomas@cymdeithas.cymru) – cadeirio cyfarfodydd y grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â mynediad at wasanaethau yn Gymraeg a statws yr iaith

Is-gadeirydd Grŵp Hawl i'r Gymraeg: gwag – cefnogi Cadeirydd y grŵp, dirprwyo yn ôl yr angen a hwyluso gwaith y grŵp

Cadeirydd y Grŵp Iechyd a Lles:  Gwerfyl Roberts (gwerfyl@cymdeithas.cymru) – cadeirio cyfarfodydd y grŵp a llefaru ar ei ran; arwain ar ymgyrchoedd ynglŷn â mynediad at wasanaethau yn Gymraeg a statws yr iaith o fewn y meysydd iechyd a lles

Ynghyd â'r staff cyflogedig:

A'r swyddogion rhanbarthol:

  • Caerfyrddin-Penfro: cynrychiolydd y rhanbarth ar y Senedd: Ffred Ffransis (ffred@cymdeithas.cymru)
  • Ceredigion: cadeirydd y rhanbarth yw Jeff Smith (jeff@cymdeithas.cymru)
  • Glyndŵr: i'w gadarnhau
  • Gwynedd-Môn:cadeirydd y rhanbarth ar y Senedd yw Gwyn Siôn Ifan (gwyn@cymdeithas.cymru)
  • Morgannwg-Gwent: i'w gadarnhau
  • Powys: i'w gadarnhau

Mae cyfle hefyd i aelodau ymuno a’r Senedd yn un o’r swyddi hyn: Is-gadeirydd Gweinyddol, Swyddog Aelodaeth, Swyddog Codi Arian a Mentrau Masnachol neu Swyddog Dylunio.

Dogfennau perthnasol (cysylltwch os hoffech i ni anfon copi caled atoch trwy'r post):