Mae ymgyrchwyr iaith wedi ymgynnull y tu allan i swyddfeydd Cyngor Gwynedd heddiw mewn ymgais i atal toriadau i ganolfannau trochi iaith y sir.
Mae’r canolfannau yn trochi plant sy’n dod o’r tu allan i'r sir yn y Gymraeg fel eu bod yn medru astudio drwy’r Gymraeg yn yr ysgolion. Mae’r cyngor yn cynnig gwneud toriadau o £96,000 i gyllideb y canolfannau o fis Medi 2019 ymlaen.