Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu penderfyniad Cyngor Sir Powys ar ddyfodol nifer o ysgolion gwledig yn y Sir. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran y Gymdeithas:"Yr ydym yn cydymdeimlo yn arw â rhieni a phlant yn ysgolion Thomas Stephens ym Mhontneddfechan ac Ysgol Gynradd Llangurig sy'n wynebu cael eu cau.
Fel rhan o’r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd bu aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Aberystwyth neithiwr yn glynu sticeri ar siopau cadwyn, banciau a Chymdeithasau Adeiladu yn y dref. Roedd y sticeri hyn yn galw am 'Ddeddf Iaith Newydd' .Ymysg y siopau a dargedwyd roedd Woolworth, Barclays, Abbey, Burtons, Subway a Dorothy Perkins.etc.