SWYDDI: am ymuno â thîm rhagorol sy’n ymgyrchu dros y Gymraeg?

Ydych chi am ymuno â thîm rhagorol sy’n ymgyrchu dros y Gymraeg?
 
Ydych chi’n berson trefnus?
 
Ydych chi’n angerddol dros ein hiaith?
 

O sefydlu S4C, ennill statws swyddogol i’r Gymraeg, a chreu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith wedi cyfrannu’n helaeth at barhad y Gymraeg. Rydyn ni’n chwilio am bobl i ymuno â’n tîm er mwyn chwyldroi sefyllfa’r Gymraeg a chymunedau Cymru.

Mae Cymdeithas yr Iaith am gyflogi 2 berson:
 
  • un i weithio yn ein swyddfa yng Nghaerdydd; ac
  • un yn ein prif swyddfa yn Aberystwyth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio i’r Gymdeithas, anfonwch eich CV safonol atom erbyn Gorffennaf 4ydd - post@cymdeithas.org neu ffoniwch 01970 624501. Ystyrir ceisiadau am swydd rhan neu lawn amser.
 
Am sgwrs anffurfiol, ffoniwch Colin ar 02920 486469
 
cymdeithas.org