Seibiant o'r gweithredu'n erbyn y Llywodraeth: canolbwyntio ar addysg Gymraeg i bawb a'r bil cynllunio

Mae swyddogion Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi datgan y bydd aelodau'r mudiad yn cymryd seibiant o'r gweithredu'n uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth Cymru, yn dilyn cyhoeddiad ystyriaeth gan bwyllgor rheoli'r gymdeithas o ddatganiad polisi iaith "Bwrw Ymlaen" y Prif Weinidog.

Mae'r mudiad wedi bod yn galw am 6 newid polisi byr tymor ers canlyniadau'r Cyfrifiad megis addysg Gymraeg i bawb, ailwampio'r drefn gynllunio er budd cymunedau a sicrhau bod y Gymraeg yn rhan o ddeddfwriaeth gynaliadwyedd. Cynhaliwyd cyfres o brotestiadau heddychlon yn erbyn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys meddiannu nifer o swyddfeydd y Llywodraeth a chynnal gwersyllfa.

Daw'r newyddion yn sgil datganiad Carwyn Jones ei fod yn cytuno mewn egwyddor gydag ymgyrch y mudiad dros addysg Gymraeg i bawb, ac ymrwymiad ganddo fe i ystyried 'pob cam ymarferol ar gyfer atgyfnerthu’r Gymraeg o fewn y system gynllunio'. Mae'r Gymraeg yn un o'r nodau llesiant statudol ym mil cynaliadwyedd y Llywodraeth.

Bydd cynnig mynd gerbron Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddydd Sadwrn Hydref 4ydd yn awgrymu bod y mudiad yn canolbwyntio ar y ddwy ymgyrch, addysg Gymraeg i bawb a sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog i Fil Cynllunio'r Llywodraeth.

Wrth esbonio'r penderfyniad, meddai Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r Prif Weinidog wedi methu yn ei gyfrifoldeb dros yr iaith. Dylai fod ganddo strategaeth gynhwysfawr er mwyn cryfhau'r iaith yn wyneb canlyniadau’r Cyfrifiad a gynhaliwyd dros dair blynedd yn ôl.

“Rydyn ni wedi cael ein calonogi, fodd bynnag, fod Carwyn Jones wedi datgan cefnogaeth yn bersonol i 2 o’r 6 pholisi y buon yn pwyso arno i’w dderbyn: yr egwyddor y dylid sefydlu elfen o addysg Gymraeg i bawb (gan ddileu cysyniad dilornus “Cymraeg ail iaith”), a'i fwriad i chwilio am ffordd ystyrlon i gynnwys y Gymraeg yn y Bil Cynllunio. Rydyn ni wedi penderfynu ei gymryd ar ei air. Rydym yn disgwyl iddo gyfarwyddo adolygiad Donaldson [o'r cwricwlwm addysg] i dderbyn egwyddor addysg Gymraeg i bawb, a sicrhau fod sefyllfa'r iaith a chymunedau Cymraeg yn rhan hanfodol o’r Bil Cynllunio. Rydyn ni'n disgwyl gweld y datblygiadau hyn eleni.

“Yn y cyfamser, rydyn ni'n annog ein rhanbarthau i fynnu bod awdurdodau lleol hefyd yn derbyn eu cyfrifoldeb nhw i sicrhau ffyniant y Gymraeg yn eu siroedd, gan na ellir dibynnu ar y llywodraeth ganolog am strategaeth gynhwysfawr. Gwelwyd llwyddiant yn ein hymdrechion i ddylanwadu ar gyngor sir Gâr, a byddwn ni'n dwyn pwysau ar Gyngor Gwynedd yn ein rali flynyddol ar y 4ydd Hydref ym Mhwllheli."