Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb i gyhoeddiad polisi Plaid Cymru ynghylch yr iaith Gymraeg.
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod Plaid Cymru wedi cyhoeddi cynigion, a chyfrannu at y ddadl gyhoeddus ynghylch sut i sicrhau twf y Gymraeg dros y blynyddoedd i ddod. Mae'r addewidion yn cyffwrdd â nifer o feysydd rydyn ni wedi amlygu yn ein hymgyrchoedd ers canlyniadau'r Cyfrifiad - yn enwedig yr angen i sicrhau addysg Gymraeg i bawb, ariannu hyrwyddo'r iaith yn iawn a'r system gynllunio. Mae sicrhau bod pob plentyn, o bob oedran, yn gallu cyfathrebu'n rhugl yn Gymraeg yn faes mae angen gweithredu arno fe ar fyrder - allwn ni ddim cael mesurau gwan neu dameidiog os yw'r Gymraeg i ffynnu ym mhob rhan o'r wlad.
"Byddwn ni'n asesu cynigion yr holl bleidiau cyn etholiad 2016, a chyhoeddi dadansoddiad fel bod siaradwyr Cymraeg yn gallu asesu pa blaid sy'n cynnig y fargen orau i'r iaith. Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau â'n deialog gyda phob plaid yn y Cynulliad er mwyn sicrhau bod Llywodraeth nesaf Cymru yn blaenoriaethu'r Gymraeg yn llawer mwy na'r un bresennol. Byddwn ni'n cyhoeddi ein cynigion manwl ein hunain maes o law ar gyfer etholiadau'r Cynulliad, ac yn gofyn i'r pleidiau ymateb i'r pwyntiau hynny.
"O ran y maes darlledu, rydyn ni'n falch bod y blaid yn cefnogi datganoli'r maes, wrth gwrs, mae llawer y gellid ei wneud er mwyn sefydlu ail wasanaeth Gymraeg heb bwerau ychwanegol. Mae'n rhaid i'r gwasanaeth newydd weithredu, o'r cychwyn cyntaf, ar draws nifer o blatfformau gwahanol er mwyn cyffwrdd bywydau pobl o bob oedran, ond yn enwedig pobl yn eu harddegau lle mae yna heriau iaith penodol - dylai fe hefyd fod yn annibynnol o'r BBC."