'Peidiwch â cholli cyfle hanesyddol' - Adolygiad Donaldson

Mudiad iaith yn pwyso am 'addysg Gymraeg i bawb' 

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Llywodraeth i beidio â cholli cyfle hanesyddol i greu cwricwlwm cyffrous newydd i ysgolion Cymru, ac i derfynu'r "rhagfarnu" yn erbyn mwyafrif y disgyblion.  

Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud y bydd yn cyhoeddi adroddiad yr Athro Donaldson ar gwricwlwm Cymru ddydd Mercher nesaf y 25ain o Chwefror. Heddiw y mae'r Gymdeithas wedi cyhoeddi yr hyn maen nhw'n disgwyl ei weld yn yr argymhellion am gwricwlwm newydd. 

Yn benodol, mae'r Gymdeithas wedi galw am weithredu brys ar argymhellion adroddiad yr Athro Sioned Davies a gyflwynwyd i'r Llywodraeth ym mis Medi 2013 ar "Cymraeg ail Iaith". Galwodd yr adroddiad am ddileu'r cysyniad o ystyried y Gymraeg yn "ail iaith" a datblygu yn hytrach gontinwwm fel bod pob disgybl yn datblygu'r sgil i fedru cyfathrebu yn Gymraeg. Er mwyn gwireddu hyn, mae'r Gymdeithas wedi galw am i ran o'r cwricwlwm ym mhob ysgol gael ei chyflwyno'n Gymraeg fel y dysga disgyblion yr iaith trwy ei defnyddio. Gelwir hefyd am ddechrau brys ar raglen i sicrhau bod digonedd o athrawon i weithredu'r datblygiad dros gyfnod rhesymol o amser. 

Dywedodd Toni Schiavone ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:  

"Siom mawr i ni oedd nad oedd y llywodraeth wedi gweithredu argymhellion yr Athro Davies yn rhan gyntaf yr Adolygiad Cwricwlwm ar Lythrennedd a Chyfathrebu llynedd. Yn hytrach, trosglwyddwyd y cyfan i adolygiad Donaldson edrych unwaith eto arno, ac yn y cyfamser, mae'r cwricwlwm yn parhau i amddifadu mwyafrif ein disgyblion o'r sgil addysgol hanfodol i fedru cyfathrebu a gweithio yn nwy iaith Cymru." 

Ychwanegodd: "Er mwyn hybu datblygiadau mawr fel y rhain y sefydlwyd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a disgwyliwn gynigion blaengar. Pwysleisiwn ein bod yn gosod datblygu'r gallu i gyfathrebu'n Gymraeg yng nghanol ystod o sgiliau newydd y dylid eu meithrin yn ein pobl ifainc er mwyn eu galluogi i fod yn rhan o'r ddemocratiaeth newydd yng Nghymru. Yn union fel y mae Cymraeg ail iaith wedi methu, y mae "Addysg Bersonol a Chymdeithasol" eilradd hefyd wedi methu. 

"Rydyn ni wedi gweithredu arolwg yn ystod y mis diwethaf o ddisgyblion ysgol, ac mae'r canlyniadau yn dangos yn glir nad yw'r cwricwlwm presennol yn eu dysgu fawr ddim am ddatblygiadau cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru nac am bynciau gwleidyddol fel llymder (ac atebion amgen). Nid yw'r cwricwlwm chwaith yn meithrin ynddynt ddealltwriaeth o sut i ddylanwadu ar Gynlluniau Datblygu Lleol nac ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae angen i'r cwricwlwm newydd fod yn siarter ar gyfer democratiaeth fywiog yn y ddwy iaith, yn hytrach na bod yn gynnyrch gwasanaeth sifil ceidwadol."