Meddiannu Neuadd Pantycelyn

Gyda phryder o hyd am ddyfodol Neuadd Pantycelyn ym Mhrifysgol Aberystwyth mae myfyrwyr wedi meddiannu un o goridorau'r neuadd. Roedd disgwyl i breswylwyr adael y neuadd erbyn 10am heddiw (dydd Sul 14eg o Fehefin)

Dywedodd Gwilym Tudur, Cadeirydd Cell Pantycelyn Cymdeithas yr Iaith:
“Heddiw, mae myfyrwyr Neuadd Pantycelyn i fod symud allan o'r neuadd, ond mae rhai wedi penderfynu aros gan nad oes sicrwydd y byddwn ni'n cael dod nôl fis Medi – na wedi hynny. Er i'r Brifysgol addo llynedd y byddai Pantycelyn yn aros ar agor yn ddi-amod dyma nhw wedi bradychu myfyrwyr a staff y Neuadd.
Bydd Cyngor y Brifysgol yn cwrdd ddydd Llun nesaf (22ain o Fehefin) i benderfynu'n derfynol ar ddyfodol Pantycelyn. Rydyn ni'n galw ar bob un o aelodau'r Cyngor i beidio derbyn argymhellion y Brifysgol i gau y neuadd ond yn hytrach i ddiogelu un o unig gymunedau naturiol Gymraeg Cymru.”

 

Mwy o wybodaeth a sut i gefnogi: http://cymdeithas.cymru/newyddion/pryderon-am-neuadd-pantycelyn