Gallai dyletswyddau newydd i gyrff ddarparu gwasanaeth Cymraeg gael eu hatal rhag pasio yn y Cynulliad os nad oes gwelliannau sylweddol iddyn nhw, dyna'r awgrym gan y tair gwrthblaid mewn llythyr ar y cyd at y Prif Weinidog a gafodd ei ryddhau heddiw (4ydd Chwefror).
Disgwylir i'r set gyntaf o safonau, a fydd yn creu hawliau iaith newydd wrth i bobl ddelio â chynghorau, Llywodraeth Cymru a'r parciau cenedlaethol, wynebu pleidlais ar lawr y Cynulliad rywbryd ym mis Mawrth.
Mae'r llythyr at y Prif Weinidog Carwyn Jones, gan lefarwyr iaith y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn galw ar i'r Llywodraeth gryfhau cynnwys y Safonau: "Credwn y dylech addasu’r Safonau ... fel bod cyrff yn gallu cael eu grymuso i wella dros y blynyddoedd nesaf yn hytrach nag aros yn eu hunfan. Mae angen i gyrff gynllunio'r gweithlu llawer yn well er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu cynnig yn Gymraeg ... Mae angen Safonau llawer cadarnach felly ynghylch polisïau recriwtio, gan nad oes dim byd sy'n symud cyrff ymlaen yn y safonau fel y maent. Dim ond drwy feddu ar nifer digonol o weithwyr sy’n medru’r Gymraeg y gall sefydliadau ymdrin â chwsmeriaid yn y Gymraeg, a darparu gwasanaeth Cymraeg digonol... [Ac] mae angen Safon neu Safonau a fyddai'n cymryd camau pendant yn achos rhai cyrff i symud at weinyddu’n fewnol drwy gyfrwng y Gymraeg.
Parha'r llythyr: "Mae angen Safon neu Safonau penodol sy'n rhoi dyletswydd ar sefydliadau i osod amodau iaith wrth gontractio gwaith allan i gwmnïau preifat a chyrff eraill, er mwyn rhoi eglurder am y dyletswyddau fydd ar y cyrff hynny. Gwneir llawer iawn o wariant cyhoeddus drwy gontractio, ac fe ddaw hyn yn bwysicach wrth i waith awdurdodau lleol, er enghraifft, gael ei roi i gwmnïau preifat a gwirfoddol... Yn yr un modd, mae angen Safon neu Safonau penodol sy'n rhoi dyletswydd ar sefydliadau i osod amodau iaith priodol wrth roi grantiau i unrhyw un arall."
Wrth groesawu'r llythyr gan yr Aelodau Cynulliad Suzy Davies, Simon Thomas ac Aled Roberts, meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Mae hyn yn rhybudd clir i Carwyn Jones bod angen gwella'r safonau'n sylweddol cyn iddo allu sicrhau cefnogaeth yn y Cynulliad. Hoffwn ddiolch i lefarwyr y pleidiau am gefnogi nifer o'n galwadau o ran gwella'r Safonau. Mae'n gam dewr, ac rydyn ni'n hynod o ddiolchgar iddyn nhw. Y perygl mawr gyda'r hawliau iaith newydd fel y safant yw nad oes ffordd o symud cyrff ymlaen, yn benodol, o ran eu polisïau recriwtio, ac o ran gweithio yn Gymraeg. Mae'r pethau hynny mor sylfaenol er mwyn sicrhau cynnydd o ran defnydd o'r Gymraeg ar lawr gwlad - mae gwendidau polisïau recriwtio wrth wraidd cymaint o broblemau.
"Ar ben hynny, mae nifer o fannau gwan o ran sicrhau bod gwasanaethau sy'n cael eu cynnal drwy grant neu drydydd parti, megis pyllau nofio, yn darparu'r gwasanaeth yn Gymraeg. Mae'r pwyntiau hyn wedi cael eu gwneud yn glir gan y Comisiynydd, ac yn ystod yr ymgynghoriadau'r llynedd, ac rydyn ni wedi cwrdd â swyddogion y Llywodraeth sawl gwaith yn ddiweddar gan bwyso am welliannau. Mae'n hen bryd iddyn nhw wrando."
Mae'r mudiad yn dadlau bod diffyg safon sy'n gosod amodau iaith ar gontractau a grantiau yn groes i strategaeth iaith y Llywodraeth sy'n addo: ‘sicrhau bod amodau priodol o ran y defnydd o’r Gymraeg yn cael eu cynnwys wrth i grantiau a chontractau gael eu dyfarnu i gwmnïau’r sector preifat gan gyrff cyhoeddus’. Mae hefyd yn mynd yn groes i gyngor Comisiynydd y Gymraeg.
Mae'r ymgynghoriad diweddaraf am yr ail set o Safonau iaith, sy'n gosod dyletswyddau newydd ar gyrff megis prifysgolion a'r heddlu, yn cau ddydd Gwener yma (Chwefror 6ed).