Gofyn am sicrwydd y bydd Comisiynydd newydd yn dysgu'r iaith

 

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi gofyn am sicrwydd y bydd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol yn dysgu'r Gymraeg i lefel sy'n golygu ei bod yn gweithio drwy gyfrwng yr iaith, wedi i'r Llywodraeth benodi rhywun nad yw'n medru'r Gymraeg i'r swydd. 

Roedd yr hysbyseb ar gyfer y swydd yn datgan: "Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Bydd disgwyl i’r rheini nad ydynt yn gallu cyfathrebu yn Gymraeg ddysgu’r iaith wrth eu gwaith." Mae'r Gymraeg yn un o nodau llesiant y ddeddfwriaeth a sefydlodd swydd y Comisiynydd. 

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg Jamie Bevan: 

"Mae'r Gymraeg yn rhan bwysig o swyddogaethau'r Comisiynydd newydd gan ei bod yn un o'r nodau llesiant yn y Ddeddf. Mae'n rhyfedd felly nad yw'r Llywodraeth wedi penodi unigolyn sy'n medru'r Gymraeg i swydd lle mae buddiannau'r Gymraeg yn ystyriaeth mor bwysig. Dylai'r Gymraeg fod yn sgil hanfodol i bob Comisiynydd.  

"Roedd yr hysbyseb swydd yn datgan bod dysgu'r Gymraeg yn amod i'r swydd. Byddwn ni'n ysgrifennu at y Llywodraeth a'r Comisiynydd newydd felly gan ofyn am fanylion o ran sut y bydd y Comisiynydd yn dod yn rhugl yn Gymraeg. Dylai fod dyddiad erbyn pryd y bydd hi'n gallu gweithio drwy'r Gymraeg. Byddwn ni hefyd yn gofyn am fanylion sut y bydd yn blaenoriaethu'r Gymraeg a chynaliadwyedd cymunedau yn ehangach yn ei rôl newydd."