Ymddangosodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith gerbron llys ynadon Aberystwyth heddiw (9yb, Dydd Mercher, Mehefin 11) yn dilyn protest yn erbyn diffyg gweithredu Llywodraeth Cymru yn sgil canlyniadau’r Cyfrifiad a ddangosodd gwymp yn nifer siaradwyr y Gymraeg.
Cafodd Robin Farrar a Bethan Williams, cadeirydd a chyn-gadeirydd y mudiad iaith, eu harestio wedi iddyn nhw baentio sloganau megis “Addysg Gymraeg i Bawb” ar wal adeilad Llywodraeth Cymru yn Aberystwyth. Roedd y brotest yn un o gyfres o brotestiadau yn galw ar y Llywodraeth i ymgorffori 6 phwynt sylfaenol yn ei pholisïau, gan gynnwys addysg Gymraeg i bawb, tegwch ariannol i'r iaith, a threfn gynllunio newydd, er mwyn cryfhau’r Gymraeg.
Dywedodd y ddau ymgyrchydd wrth y llys eu bod yn bwriadu cymryd rhan mewn gwylnos heddychlon y tu allan i’r Senedd yng Nghaerdydd, nos Sul yma (Mehefin 15). Yn sgil hynny, penderfynodd yr ynadon i ollwng amodau’r fechnïaeth oedd yn eu rhwystro rhag mynd o fewn 50 llath i adeiladau’r Llywodraeth a’r Cynulliad.
Yn siarad wedi’r gwrandawiad, lle dewisodd y ddau ymgyrchydd i beidio â phledio, dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: “Yn wyneb diffyg ymateb y Llywodraeth i’r argyfwng sy’n wynebu’r Gymraeg, doedd dim dewis gen i ond gweithredu yn y modd yma a derbyn y canlyniadau. Nid er lles personol fy hun na neb arall wnes i weithredu, ond er lles y Gymraeg. Rwy’n gobeithio y bydd ein protestiadau yn sbarduno Carwyn Jones i weithredu, a hynny ar frys. Gydag ewyllys gwleidyddol ac ymgyrchu cadarnhaol, gallwn ni newid tynged ein hiaith a sicrhau ei bod yn tyfu dros y blynyddoedd i ddod.
“Rwy’n bwriadu protestio eto gan fod yr amodau mechnïaeth wedi eu gollwng, a hynny’n heddychlon o flaen y Senedd. Rwy’n mynd i aros yno [tu allan i adeilad y Senedd] gan ddisgwyl i Carwyn Jones wneud y datganiad polisi, y mae wedi addo ei wneud ar ddydd Mawrth [Mehefin 17].”
Ym mis Hydref 2013, cyhoeddwyd casgliadau'r Gynhadledd Fawr – ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar sefyllfa'r iaith yn dilyn canlyniadau argyfyngus y Cyfrifiad. Ymysg y prif argymhellion roedd: cynyddu'r buddsoddiad ariannol yn y Gymraeg yn gyffredinol; newidiadau radical i addysg Gymraeg ail iaith; a newidiadau i'r gyfraith gynllunio. Yn lle, ym mis Tachwedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog y byddai'n lansio ymgyrch i annog pobl i ddefnyddio eu Cymraeg bum gwaith y dydd. Doedd dim un gair am y Gymraeg ym Mil Cynllunio drafft y Llywodraeth.
Disgwylir y cynhelir gwrandawiad llys llawn y ddau ymgyrchydd ar ddydd Gwener, Awst 1af yn Llys Ynadon Aberystwyth.