Gwynedd Mon

Galw ar y Gweinidog Addysg i atal cyngor rhag dial ar ysgolion Ynys Môn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams AC, i gamu i mewn yn syth i atal Cyngor Ynys Môn rhag dial ar ddwy ysgol wledig Gymraeg a arbedwyd ganddi lai na blwyddyn yn ôl. 

Lai na blwyddyn ar ôl i Gyngor Ynys Môn orfod tynnu nôl eu cynnig i gau ysgolion Bodffordd a Thalwrn wedi i'r Gweinidog anfon swyddogion i ymchwilio, mae'r Cyngor yn ailgychwyn y broses eto yr wythnos nesaf gydag union yr un cynnig i bob pwrpas.

Pryder am yrru claf Cymraeg o Gymru i ysbyty yn Lloegr

Mae siaradwr Cymraeg 82 mlwydd oed o Ynys Môn sy'n dioddef o dementia yn wynebu cael ei symud i ysbyty yn Stafford er nad oes gwasanaeth Cymraeg yno. 

Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd-Môn

23/06/2025 - 19:00

7.00, nos Lun, 23 Mehefin 2025
Palas Print, Caernarfon ac ar-lein

Croeso i unrhyw aelod yn y rhanbarth i ymuno – dewch i glywed beth sy'n digwydd yn yr ardal ac i drafod sut gall y Gymdeithas weithredu.
 

Byddwn ni'n parhau i drafod ymgyrchoedd am dai, materion addysg a sut i gael mwy o aelodau gweithredol. Ond rhowch wybod os oes unrhyw faterion eraill yr hoffech eu trafod.

Miloedd o dai i weithwyr Wylfa-B er iddi gael ei chanslo?

Mae cynghorwyr yn Ynys Môn a Gwynedd wedi eu rhybuddio i beidio â chadw at gynllun i adeliadu miloedd o dai ar gyfer gweithwyr i Wylfa-B er bod y prosiect wedi eu canslo, wrth iddyn nhw ystyried diwygio eu Cynllun Datblygu Lleol. 

KFC Bangor - ymateb Cymdeithas

Mae mudiad iaith wedi ymateb i honiadau sydd wedi eu hadrodd yn y wasg bod siop KFC ym Mangor wedi atal gweithiwr rhag siarad Cymraeg gyda chwsmeriaid. 

Cyngor Gwynedd yn ‘bygwth’ cynghorwyr i beidio â mynd i sgwrs am asesiadau effaith iaith

Mae mudiad iaith wedi cyhuddo arweinyddiaeth cyngor Gwynedd o ‘fygwth’ cynghorwyr er mwyn osgoi trafodaeth ar ei gynlluniau i atal asesiadau effaith iaith ar y rhan helaeth o geisiadau cynllunio.

Cynllun anghyfreithlon Cynghorau i atal asesu effaith iaith datblygiadau tai

Mae Cyngor Gwynedd yn wynebu her gyfreithiol os yw’n bwrw ymlaen gyda newid polisi a fyddai’n atal cynghorwyr rhag comisiynu asesiadau effaith iaith ar y rhan helaeth o geisiadau cynllunio, yn ôl bargyfreithiwr.

Ysgolion Ynys Môn - Amser Diolch

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu penderfyniad Pwyllgor Gwaith Cyngor Ynys Môn heddiw i ddiddymu'r penderfyniad i gau ysgolion Bodffordd, Talwrn a Biwmares.

Dywedodd Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith:

"Mae'r swyddogion a'r cynghorwyr wedi bod yn ddewr yn ymddiheuro'n agored oherwydd eu bod, yng ngeiriau'r Prif Weithredwr Dr Gwynne Jones, 'am barchu'r cymunedau yr ydym yn cydweithio â nhw'.

Tai haf: yr ‘annhegwch presennol yn rhemp’

Daeth ymgyrchwyr ynghyd ym Mhenrhyndeudraeth heddiw i drafod camau polisi i ddelio ag effaith ail gartrefi ar y Gymraeg.

O dan gadeiryddiaeth y pensaer, y gweithredwr cymdeithasol a’r ymgyrchydd iaith Sel Jones, trafododd Liz Saville Roberts AS, Elfed Roberts ac Elin Hywel wahanol agweddau o’r pwnc. Yn ôl ystadegau diweddar, roedd 39% o’r tai a werthwyd yng Ngwynedd yn 2017/18 yn ail gartrefi.

Yn siarad ar ôl y digwyddiad, dywedodd Robat Idris o Gymdeithas yr Iaith:

Achub Ysgol Bodffordd - croesawu tro pedol Cyngor Ynys Môn

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi croesawu’n wresog dro pedol Cyngor Ynys Môn sy’n golygu na fyddan nhw’n cau Ysgol Bodffordd.