Y tafod trydanaidd: Newyddion

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Newyddion
Rhifyn 264


CYFARFOD CYFFREDINOL

Mae Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas newydd fod, a chafwyd llond penwythnos o hwyl, sbri a gweithredu.

Bydd adroddiad llawn o'r Cyf Cyff yn ymddangos cyn bo hir, gan gynnwys sylw i'r cynigion amrywiol a drafodwyd. Mae cyfle i chi darllen adroddiadau blynyddol grwpiau Gymdeithas yn barod.

Anerchwyd y cyfarfod gan Allan Wynne Jones, Cadeirydd Biwro Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop, a Dafydd Thomas ar ran Cyfeillion y Ddaear. Etholwyd Cadeirydd newydd y Gymdeithas, sef Gareth Kiff.

Ac yn y prynhawn, cynhaliwyd rali hynod lwyddiannus ILDIWCH I'R GYMRAEG. Aeth dorf o amgylch tref Aberystwyth gan bastio posteri ILDIWCH I'R GYMRAEG ar siopau, banciau, cymdeithasau adeiladu, ac unrhyw sefydliad arall nad oedd yn defnyddio'r Gymraeg pchr yn ochr â'r Saesneg.

Aeth rhai ymhellach hyd yn oed: arestiwyd Siân Howys a Charlotte WIliiams am baentio ILDIWCH I'R GYMRAEG ar siop Spar y dref; arestiwyd Dafydd Morgan Lewis a Dylan Huws am droi flwch post yn wyrr; arestiwyd Aled Davies am baentio'r gair "Ildiwch" ar arwydd Give Way; ac arestiwyd Ffred Ffransis am gyflwyno arwydd uniaith Saesneg a ddiflannodd o Lanfihangel-ar-Arth rhai dyddiau ynghynt!


£1,000 O DDIFROD I'R SWYDDFA GYMREIG

Arestiwyd |wan Standley a Lleucu Meinir yng Nghaerdydd ar nos Sul, Mawrth 17eg, wedi iddynt fynd i Swyddfa'r Heddlu yno a chymryd cyfrifoldeb am y nifer sylweddol o slogannau a ymddangosodd ar waliau a drysau'r Swyddfa Gymreig rhai munudau ynghynt! Roedd y slogannau (mewn paent oren ffliresynt) yn datgan ILDIWCH I'R GYMRAEG. Bydd y ddau yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd yn y dyfodol agos.


ILDIWCH I'R GYMRAEG

Mae'r ymgyrch ILDIWCH I'R GYMRAEG yn parhau i dyfu ac ehangu, ond nid ydym wedi anghofio am yr arwyddion Give Way yna sydd o hyd yn uniaith Saesneg dros Gymru. Dyma faint ohonynt sydd wedi eu paentio â'r gair ILDIWCH:

Ynys Môn 14
Gwynedd 160
Hen Glwyd & Hiraethog 67
Ceredigion 144
Caerfyrddin 40
Morgannwg/Gwent 5
Penfro 0
Powys 9
CYFANSWM 439


LLAFUR YN CEFNOGI'R QUANGOS

Mae Cynghorwr Llafur o Sir Gaerfyrddin wedi gwrthwynebu beirniadu Quangos Torïaidd. Pan cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ddogfen am ddyfodol addysg Gymraeg ac addysg gymunedol y Sir i'r Pwyllgor Addysg, taflwyd yr argymhellion allan heb drafodaeth, ar y sail eu bod yn "rhy wleidyddol". Mae'r penderfyniad anhygoel yma yn ei gwneud hi'n amlwg bod polisi'r Blaid Lafur tuag at Quangos yn hollol anhrefnus ac aneglur, os oes un yn bodoli o gwbl.

Mae'r Gymdeithas wedi gofyn i arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin am esboniad o benderfyniad syn y Pwyllgor Addysg, a gyfarfu ar Fawrth y 4ydd. Mewn llythyr at y Cynghorydd Gerald Frederick Meyler, dywed Branwen Evans, Ysgrifennydd Ymgyrch Addysg Cymdeithas yr Iaith, "Mae'r Gymdeithas yn ymateb gyda syndod i benderfyniad y Pwyllgor Addysg. Mae'n anhygoel fod Cyngor wedi ei arwain gan Sosialwyr yn cwyno ein bod yn gwrthwynebu rheolaeth Quangos Torïaidd ar ein system addysg, ac yn defnyddio hwn yn esgus i beidio â thrafod argymhellion y mae sir gyfagos Ceredigion yn eu hystyried yn ddigon pwysig i'w hastudio'n fanwl gan is-bwyllgor arbennig.

Yr oeddem wedi gofyn i'r Pwyllgor gymryd tri phenderfyniad syml;

  1. I ffurfio Cynllun Addysg Cymunedol -- mewn trafodaeth a phawb yn y Sir, i ddamgos sut y gall pob ysgol, coleg a mudiad gwirfoddol gydweithio â'i gilydd. Dyma gyfrwng delfrydol i sicrhau fod pob sefydliad ac athrawon, rhieni, llywodraethwyr a myfyrwyr yn teimlo fod gyda hwy ran yn y broses o greu trefn addysg deg. Dyma ffordd o gael gwared yn syth o'r bygythion camarweiniol i optio allan.
  2. I sefydlu Is-Bwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg fel bod peirianwaith barhaol i gryfhau a hybu datblygiadau newydd a bod yn fforwm i drafod problemau fel swyddi athrawon bro.
  3. I gefnogi sefydliadau i greu Fforwm Addysg Democrataidd i Gymru i wrthbwyso grym y Quangos.

Yr ydym mewn trafodaethau gyda phymtheg o Siroedd Cymru -- ar lefel Cyfarwyddwyr Addysg a Chadeiryddion Pwyllgor -- am y camau ymarferol hynny. Sut y gellwch chi wrthod y cyfan, yn Sir Gaerfyrddin o bob man, ar sail y ffaith fod y rhagymadrodd i'n dogfen bolisi yn cynnwys sylwadau 'rhy wleidyddol'? Gobeithiwn o hyd am yr un driniaeth ddifrifol ag sydd mewn siroedd eraill a gofynnwn am gael cyfarfod gyda chi a'r Cyfarwyddwr Addysg i geisio sicrhau'r cydweithio mwyaf posibl rhwng pawb ar adeg o anesmwythyd mawr am addysg yn Sir Gaerfyrddin yn gyffredinol a bygythiad arbennig i'n hysgolion gwledig."

Pasiwyd cynnig yn y Cyfarfod Cyffredinol yn galw ar i'r Blaid Lafur egluro a chryfhau eu polisi tuag at Quangos Cymru.


SWYDDOG MAES NEWYDD

Mae Cymdeithas yr Iaith newydd benodi Meirion Davies o Gapel Seion, Aberystwyth, yn Swyddog Maes. Bydd yn gweithio yn ardaloedd Ceredigion, Caerfyrddin a Gorllewin Morgannwg. Ymysg ei ddiddordebau mae rasio beiciau, ac mae wedi rasio ar lefel rhyngwladol yn cynnwys ras tri diwrnod yn Iwerddon, a rasio tra yn aros yng nghanolfan chwaraeon byd enwog Club La Santa ar ynys Lanzarote. Mae ganddo radd BA o'r Coleg Normal, a gwnaeth draethawd hir tra yn y coleg ar 'Effaith Diwydiannau Hamdden a Thwristiaeth ar Ardal Llanberis.' Rhagor o hanes ei fywyd cyn bo hir!

^ lan |<nol | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar Ebrill 25ain, 1996.