Y tafod trydanaidd: Erthyglau

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Adroddiadau Blynyddol Cymdeithas yr Iaith
1996



ADRODDIAD Y GRWP ADDYSG

Cefndir
Rhaid cael Trefn Addysg Annibynnol i Gymru. Nid ydym yn barod i ddioddef Llywodraeth sy'n rheoli trwy Quangos ac yn dileu pob corff democrataidd.

Strategaeth 1995-96

  1. Pwysau canolog ar Rod Richards; Crynhoi cefnogaeth dros Gyngor Addysg i Gymru. Cyhoeddwyd a dosbarthwyd poster "Rod Richards - Unben Addysg Cymru" angen eu codi'n ehangach. Cynhaliwyd achos llys yn Abergele (Tachwedd '95) yn dilyn gweithred 'Steddfod Abergele. Cafwyd dadl yn y Western Mail am natur Cyngor Addysg i Gymru. Cyfarfod cadarnhaol â Win Griffiths, Llefarydd y Blaid Lafur ar Addysg yng Nghymru.
  2. Pwyso ar Awdurdodau Addysg y Cynghorau Unedol newydd. Danfonwyd llythyrau at bob Cyfarwyddwr Addysg yn gofyn am:
    Ceredigion
    Paratowyd dogfen yn rhoi ein gofynion yng nghyd-destun y sir ar gyfer cynhadledd gyda'r Cyfarwyddwr Addysg, Cadeirydd y Pwyllgor Addysg, undebau, llywodraethwyr etc. pan gafwyd ymateb calonogol iawn. Cyflwynwyd gerbron Pwyllgor Addysg y Cyngor ym mis Chwefror -- ymateb ffafriol iawn eto. Mater i'w drafod yn llawnach mewn Is-Bwyllgor, a gobeithiwn am arweiniad cryf yma.
    Caerfyrddin
    Cyfarwyddwr yn barod i gyfarfod â ni ym mis Ebrill. Bydd y gofynion addysg yn ran o gynhadledd "Dyfodol Pentrefi Cymraeg Sir Gâr."
    Penfro
    Dim ateb.
    Morgannwg/Gwent
    Cyfarfodydd wedi eu trefnu yng Nghaerffili, Merthyr, Torfaen ac Abertawe. Bydd yn dod gerbron cyfarfod nesaf Pwyllgor Addysg Mynwy. Dim ateb gan Afan Nedd, Rhondda Cynon Tâf, Caerdydd, Penybont, Blaenau Gwent, Casnewydd, Bro Morgannwg.
    Clwyd
    Aberconwy a Cholwyn yn barod i gyfarfod. Dim ateb gan y lleill.
    Gwynedd
    Syniad o gyfarfod â grwp cynghorwyr Plaid Cymru sy'n rheoli'r Cyngor -- dim symud ffurfiol eto.
    Datblygiadau pellach i'w cyhoeddi yn y Cyf.Cyff. -- dyma gyfle i'n haelodau ymgyrchu yn eu hardaloedd eu hunain.
  3. Adeiladu ymwybyddiaeth o Ryddid i Gymru mewn Addysg. Cylchgrawn "Rhyddid" -- heb lwyddo i'w gyhoeddi. Angen golygydd -- mae potensial yma i fod yn gyfrwng dylanwadol.

U.F.A
Strategaeth Gadarhaol Dyfed ar gyfer ysgolion gwledig... Athrawon Bro...

Y Dyfodol
Deddf Addysg i Gymru -- o flaen Cyf.Cyff.'97? A yw hyn yn rhy gynnar ar ôl Deddf Iaith a Deddf Eiddo... trafodwch!

Ffred Ffransis
Branwen Brian Evans
Grwp Addysg

^ lan |<nol | * Cartref


ADRODDIAD Y GRWP STATWS

Mae'r chwe mis ers ethol swyddogion presennol y grwp wedi bod yn brysur, gweithgar a chyffrous iawn, gyda'r gwaith yn gydbwysedd o lunio dogfennau a strategaeth polisi, ac o ymgyrchu a gweithredu uniongyrchol.

Ein hymgyrch amlycaf yw ILDIWCH I'R GYMRAEG a fu'n ymgyrch weithredol ers dechrau mis Chwefror, ac wedi llwyddo i gadw momentwm ers hynny.

Ni wyddom ar hyn o bryd os bu'r ymgyrch gyntaf, sef targedu'r arwyddion Give Way, yn llwyddiant; hynny yw a fydd y Swyddfa Gymreig yn cytuno i'w gwneud yn ddwyieithog. Ond yn sicr o ran nifer y gweithredoedd, y cysylltiadau a chefnogaeth genedlaethol a enillwyd a'r sylw yn y wasg, yn enwedig y Daily Post, fe fu'n ymgyrch llwyddiannus, Diolch yn fawr i bawb a gymrodd ran mewn unrhyw ffordd.

O hyn ymlaen bwriadwn ehangu'r ymgyrch i gynnwys targedau eraill sydd â pholisïau dwyieithrwydd annigonnol, ac sy'n dangos gwendidau'r Ddeddf Iaith a'r Bwrdd Iaith a grëwyd yn ei sgîl. Dyna y bu Cell Caerdydd yn ei wneud eisoes ac maent yn cael cryn hwyl arni -- llawer mwy o lwyddiant na Bwrdd yr Iaith Gymraeg â'i gyflogau mawr, sylwer! Diolch yn fawr iddynt hwy.

Ymgyrch arall sydd ar y gweill yw pwyso ar yr Awdurdodau Unedol Newydd i gael polisïau iaith cryf wedi eu seilio ar egwyddor Dwyieithrwydd Naturiol Cymunedol. Yn gynnar yn y flwyddyn newydd anfonwyd llythyr i bob Awdurdod Unedol yng Nghymru yn datgan disgwyliadau'r Gymdeithas o'u polisïau iaith. Rydym ar hyn o bryd yn disgwyl ymateb.

Yn olaf anogaf bawb i ymuno â'r grwp ymgyrchu prysur yma. Mae'n hymgyrchoedd yn rhai sydd angen cefnogaeth nifer o bobl i gyrraedd eu potensial ac mae yna o hyd ddigonedd o waith i'w wneud yn y maes.

Haf Elgar
Dafydd Huws
Grwp Statws

^ lan |<nol | * Cartref


ADRODDIAD Y GRWP DIWYLLIANT

Yng Nghyfarfod Cyffredinol 1995 pasiwyd dau gynnig pwysig yn ymwneud â darlledu yn Nghymru, sef un yn ymwneud â ddarlledu digidol a'r llall yn ymwneud â Radio Cymru. Y mae'r grwp wedi bod yn gweithio yn y ddau faes yma.

Y mae'r grwp wedi bod yn tynnu sylw at ddiffygion cynlluniau'r Llywodraeth ar gyfer darlledu digidol yng Nghymru drwy lythyru â'r wasg. Ein prif nod yw cael cyfarfod gyda'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn y flwyddyn sy'n dod byddwn yn ceisio adeiladu gwrthwynebiad unedig i gynlluniau'r llywodraeth ym maes darlledu digidol trwy ymgyrchu a chynghreirio gyda mudiadau eraill ym maes darlledu yng Nghymru.

Y newidiadau ym mhatrwm darlledu Radio Cymru a ysgogodd yr ail gynnig yn y Cyfarfod Cyffredinol llynedd. Y mae'r newidiadau yma yn dal i gynhyrfu'r gynulleidfa radio yng Nghymru, er bod llawer o'r ymateb wedi bod yn geidwadol iawn. Y mae'r BBC wedi dangos diddordeb o ryw fath yn ein polisi a'n beirniadaeth; cafwyd cyfarfod gyda Aled Glynne, ond yr oedd ar y cyfan yn anfodlon derbyn ein beirniadaeth. Yr ydym yn dal i drafod a llythyru.

Llesteiriwyd tipyn ar waith y grwp yn gynnar yn y flwyddyn wrth fod yr ysgrifennydd wedi ymddiswyddo. Mae'r grwp yn dal i fod heb ysgrifennydd felly os oes diddordeb gan rhywun cysylltwch â'r Swyddfa.

Lyn Lewis Dafis
Grwp Diwylliant

^ lan |<nol | * Cartref


ADRODDIAD Y GRWP CYNLLUNIO ECONOMAIDD

Ni ellir sicrhau dyfodol i'r iaith Gymraeg heb sicrhau dyfodol i gymunedau Cymru -- dyna'r egwyddor sydd wedi bod yn sail i ymgyrchoedd y Gymdeithas ers yr 80au. Mae'r cysylltiad rhwng yr economi a pharhad yr cymunedau yn amlwg, ac felly mae'n gwbl glir y dylai'r Gymdeithas fod yn weithredol mewn ymgyrchoedd yn ymwenud â'r economi. Dim ond prin gyffwrdd â'r maes eang hwn ydym ni wedi'i wneud hyd yn hyn ac mae angen i waith y Grwp Cynllunio Economaidd dyfu'n sylweddol os ydym i fod yn effeithiol.

Yr egwyddor sy'n sail i waith y Grwp Cynllunio Economaidd yw bod yn rhaid ymyrryd â'r farchnad rydd er mwyn cynllunio amodau economaidd sy'n rhoi sefydlogrwydd a gobaith i'r dyfodol i gymunedau Cymru. Dros y flwyddyn diwethaf, bu'r grwp yn gweithredu ar y sail hon trwy:

Bydd angen i ragor o aelodau'r Gymdeithas ddod i mewn i weithgaredd y grwp er mwyn dwyn y gwaith uchod yn ei flaen, gan gynnwys pobl ymhob rhan o Gymru i bwyso ar eu CYngor Unedol newydd, ac i ymgymryd â gwaith newydd yn ôl anghenion lleol neu genedlaethol. Trefnir cyfres o gyfarfodydd grwp dros yr wythnosau nesaf yn y Gogledd a'r De, felly os oes gen ti ddiddordeb, cysyllta ag un o swyddogion y grwp neu â'r swyddfa yn Aberystwyth.

Aled Davies
Huw Gwyn
Grwp Cynllunio Economaidd

^ lan |<nol | * Cartref


ADRODDIAD Y GRWP DEMOCRATIAETH

Yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn mae'r grwp wedi bod yn edrych yn fanylach ar y cwestiwn o sut y dylai Cymru gael ei llywodraethu. Yn dilyn y cynnig yng Nghyfarfod Cyffredinol 1995 yn galw am gefnogaeth i'r ymgyrch dros Senedd i Gymru, mae'r grwp wedi edrych ar hyn yng nghyd-destun ehangach datganoli grym a sut mae modd sicrhau fod grym yn cyrraedd y gymuned. Mae hyn hefyd yn golygu edrych ar gyfrifoldebau yr Awdurdodau Unedol newydd a gwaith y Quangos, a cheisio creu strwythur sydd yn datganoli grym, yn atebol ac yn dod a grym yn nes at y cymunedau.

Ym 1994 roedd y Gymdeithas yn datgan Na i'r Quangos, ac ym 1995 yn datgan Rhyddid i Gymru Mewn Addysg, a'n bwriad erbyn Eisteddfod Genedlaethol 1996 fydd datgan Rhyddid i Gymru ym mhob maes. Rhwng rwan a hynny bydd y grwp yn paratoi â'r gwaith o baratoi dogfen esblygol fydd yn gosod ein gweledigaeth ni o sut mae grym yn treiddio o'r gwaelod i'r canol ac yna i'r Senedd Gymreig fydd yn goron ar hyn. Byddwn hefyd yn y cyfamser yn parhau i astudio syniadau pobl a mudiadau eraill fel y gallwn ddyrchafu yr ymgrch yma yn brif thema rhan olaf 1996.

Alun Llwyd
Toni Schiavone
Grwp Democratiaeth

^ lan |<nol | * Cartref


ADRODDIAD Y GWEITHGOR DEDDF EIDDO

Er y bu'r flwyddyn ddiwethaf yn gyfnod distaw yn gyhoeddus yn yr ymgyrch Deddf Eiddo, cafwyd datblygiadau a gweithgaredd pwysig a ddylai arwain at ail-danio'r ymgyrch. Gyda chyrhaeddiad oes newydd mewn llywodraeth leol, bachwyd ar y cyfle i ddwyn pwysau ar yr awdurdodau unedol i fabwysiadu egwyddorion Deddf Eiddo ac i'w cynnwys yn eu polisïau tai a chynllunio.

Gyrrwyd crynodeb o Ddeddf Eiddo at bob awdurdod unedol gan alw arnynt i bwyso ar y llywodraeth ganol am fwy o rym gweithredol yn eu hardaloedd ac i ystyried anghenion cymunedau wrth lunio polisïau tai. Gobeithiwn y byddai hyn yn rhoi terfyn ar ddatblygiadau di-anghenraid mewn gwahanol ardaloedd. Parhawn i ddisgwyl am ymateb gan y mwyafrif ond mae ymateb rhai eisoes wedi bod yn bositif gan fynegi diddordeb mewn derbyn mwy o wybodaeth ynglŷn â Deddf Eiddo. Bydd yn rhaid aros i weld pa fath o ymateb ymarferol a geid gan yr awdurdodau'n gyffredinol. Yn sgîl y ddogfen, anfonwyd llythyr/datganiad at nifer helaeth o bapurau newydd lleol a chenedlaethol. Yr oedd yr ymateb i'r llythyr, yn ôl y golwg, yn siomedig dros ben; yn bersonol nid wyf wedi clywed iddo ymddangos mewn unrhyw bapur.

Yn ddiweddar cyhoeddwyd papur gwyn y llywodraeth ar gymunedau yng nghefn gwlad Cymru. Nodwyd fod yna ddigon o eiddo gwag a ellid ei addasu yn gartrefi mewn nifer helaeth o ardaloedd heb fynd ati'n ddi-reolaeth i adeiladu ystadau o dai drud ar gyrion penterfi. Onid yw hwn yn bwynt cyfarwydd ac un a ail-adroddwyd gennym yn fynych. Mae rhai o'r 'atebion' a gynigir yn beryglus iawn i ddyfodol cymunedau. Er enghraifft, y dylid rhoi yr hawl i ffermwyr adeiladu tai ar eu tir ar gyfer ymddeol neu ar gyfer aelodau o'u teuluoedd. Beth fydd yn digwydd i'r tai hynny yn y dyfodol? Os ydi arolygon yn dangos y ceid tai gwag sydd angen eu hadnewyddu o fewn y cymunedau pam na ellid darparu arian er mwyn gwireddu hyn yn hytrach na chodi mwy o dai a fydd yn ychwanegu at y brovlem mewn amser i ddo? Mae'r papur gwyn hefyd yn gofyn am syniadau ar sut y gellid datrys y problemau sy'n bodoli. Oes gan Ysgrifennydd Cymru gynghorwyr yn y Swyddfa Gymreig neu Dai Cymru? Mae syniadau a chynllun cynhwysfawr ar gael yn Llawlyfr Deddf Eiddo. Ni ddylid di-ystyru pwysigrwydd yr adroddiad a'r cyfle i roi cyhoeddusrwydd pellach, ar wahoddiad y llywodraeth, i egwyddorion Deddf Eiddo a'r chwe pwynt fel ateb i'r sefyllfa dai yng Nghymru gyfan.

Mae'r Gweithgor Deddf Eiddo yn grwp bychan (select!) ac oherwydd anawsterau daearyddol ac eraill ni fedrwyd cael gymaint o gyfarfodydd ac a fyddai'n ddelfrydol. Er nad ydi proffil cyhoeddus y grwp wedi bod yn amlwg mae'r gwaith yn parhau i gael ei wneud. Os oes gan unrhyw rai ddiddordeb mewn ymuno â'r gweithgor gellid gadael neges i mi yn y swyddfa yn Aberystwyth.

John Pritchard
Gweithgor Deddf Eiddo

^ lan |<nol | * Cartref


ADRODDIAD MENTRAU MASNACHOL

Er mwyn paratoi a chynllunio ymlaen llaw, dibynna'n amlach na pheidio ar themâu y ddwy Eisteddfod -- ac felly i ryw raddau fe gyfyngir ar ein gwariant. Pan yn cynllunio ar gyfer crysau tî, dibynnir hefyd ar ffasiwn. Byddwn eleni hefyd yn ceisio ehangu'r ymgyrch Ildiwch drwy ein nwyddau yn ogystal ag unrhyw ymgyrch bwysig arall. Ein bwriad yw gweithredu'r isod:

  1. Cael cynllun teidi ar gyfer creu crys tî newydd i'r Gymdeithas. Ni fydd slogan na dim ar hwn -- dim ond 'Cymdeithas yr Iaith Gymraeg'. Gofynnwyd i Huw Jones Prestatyn ac Iwan Standley am gynlluniau -- fel bod digon o ddewis gennym ar gyfer heddiw ar dyfodol.
  2. Mae'n rhaid creu 'siop' o fewn yr uned yn arbennig yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Er mwyn cael digon o elw sylweddol mae'n rhaid cael un â'i: Byddai'r rheolwr yn gyfrifol am gadw cyfrif manwl o'r holl bryniant yn ystod yr wythnos gan gadw gwyliadwriaeth fanwl ar y stoc yn ogystal. Dim ond y rheolwr/wraig fyddai a'r hawl i ymyrryd â'r siop dros y cyfnod/au y byddai yno. Y gobaith yw y bydd y syniad hwn yn ychwanegu at y gwerthiant yn sylweddol.
  3. Penderfynwyd ar gynllun o greu crys tî llewys hir o nifer cyfyngedig. Hwn fyddai crys tî dryta'r Eisteddfod. Byddai iddo gynllun arbennig iawn. Ni ellir datgelu hynny yma.

Cyfarfod o'r Grwp Mentrau Masnachol yn y swyddfa ym Mhen Roc Nos Wener Mawrth 8fed.

Sioned Elin
Gwyn Sion Ifan
Grwp Mentrau Masnachol

^ lan |<nol | * Cartref


ADRODDIAD Y TAFOD

Y Sefyllfa ar Hyn o Bryd
Yn anffodus, efallai oherwydd diffyg gweithgaredd yn gyffredinol, ac yn bendant oherwydd diffyg cyfraniadau(!), mae cyhoeddi'r Tafod wedi bod braidd yn anwadal yn ddiweddar. Ers mis Hydref llynedd, rydym wedi cymryd y camau canlynol i geisio gwella'r sefyllfa:

  1. Sefydlu Bwrdd Golygyddol sy'n cwrdd yn fisol.
  2. Paratoi amserlen o ddyddiadau cyhoeddi hyd at ddiwedd 1996 i sicrhau deg rhifyn y flwyddyn (dau ohonynt yn rifynnau dwbwl). Er ein bod ychydig ar ei hôl hi, byddwn wedi dal i fyny erbyn cyhoeddi'r rhifyn nesaf.
  3. Sefydlu nifer o golofnau rheolaidd i sicrhau erthyglau cyson -- eisoes mae colofnau Cysylltiadau Rhyngwladol a Pwy Uffar Yw...? wedi ymuno ag eitemau rheolaidd eraill fel y Cadeiryddol a thudalen Mr Mwydyn. Cyn bo hir bydd tudalen gerddoriaeth yn niffyg unrhyw sylw gwerth chweil gan y cyfryngau Cymraeg eraill, a thudalen yn canolbwyntio ar un cell/rhanbarth pob rhifyn.
  4. Lleihau nifer y tudalennau ym mhob rhifyn er mwyn torri i lawr ar gostau argraffu (sydd wedi codi yn fawr yn ddiweddar). Er bod hyn yn ymddangos fel petai'r Tafod yn llai, mae maint y print hefyd wedi lleihau, felly maint y cynnwys union yr un peth!

Y Dyfodol
Y gobaith yw gallu mynd ar ôl hysbysebwyr er mwyn cael ychydig mwy o incwm, a cheisio cynyddu nifer y tanysgrifwyr, sydd wedi gostwng yn ddiweddar oherwydd y cyhoeddi anghyson.

Y Tafod Trydanaidd
Mae'r Gymdeithas bob tro ar y blaen i bawb arall, a dyma un ymgorffiad arall o hynny: ers Tachwedd 1995 (mis cyn i'r Times gwneud rhywbeth tebyg!) mae'r Tafod yn cael ei gyhoeddi wythnos cyn cyrraedd y siopau ar y We Fyd-Eang, sy'n galluogi unrhywun yn y byd sydd â chysylltiad i'r Rhyngrwyd i ddarllen y cylchgrawn. Yn ogystal, mae tudalennau cyffredinol ar y Gymdeithas a'i hymgyrchoedd. Mae hyn wedi esgor ar nifer o ymholiadau a negeseuon o gefnogaeth o bob ran o Gymru a'r byd (neges o Senegal ydi'r un mwyaf annisgwyl hyd yma!), ac mae nifer wedi cyfrannu'n ariannol wedi darllen y tudalennau.

Yn y dyfodol, gobeithir ehangu'r wefan i gynnwys tudalennau mewn ieithoedd eraill (dim ond Cymraeg a Saesneg sydd ar hyn o bryd), a chynnig mwy o wybodaeth fyth -- bydd fersiwn electronig o Faniffesto'r Gymdeithas ar gael i'r byd erbyn yr Haf.

Iwan Standley
Bwrdd Golygyddol Y Tafod

^ lan |<nol | * Cartref


ADRODDIAD Y SWYDDOG AELODAETH

Gwaith Swyddog Aelodaeth Cenedlaethol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yw gofalu amaelodaeth y Mudiad. Ers sawl blwyddyn bellach rydym yn gweithredu system sy'n golygu ein bod yn atgoffa pob aelod ei bod yn amser iddynt ail ymaelodi bob 12 Mis. Rwyf hefyd yn gyfrifol am baratoi rhestrau aelodaeth (fesul rhanbarth, cell, coleg, ysgol ac ati) a labeli aelodaeth yn ôl y galw.

Bellach mae'r Gymdeithas hefyd wedi ethol Swyddog Aelodaeth ymhob Rhanbarth. Ein gobaith yn awr yw dechrau cynyddu aelodaeth y mudiad ymhellach trwy greu ymgyrchoedd aelodaeth yn y gwahanol ranbarthau mewn cydweithrediad efallai â'r Swyddog Ymgyrchoedd, Charlie Williams. Efallai y gallem ganolbwyntio ar ardaloedd arbennig ar adegau penodol, e.e. Rhanbarth Clwyd adeg Prifwyl yr Urdd ym Mro Maelor; Rhanbarth Caerfyrddin adeg Eisteddfod Genedlaethol Llandeilo; colegau ar ddechrau tymor ac ati.

Grwp Gweinyddol a Senedd y Gymdeithas sydd yn trafod gwaith y Swyddog Aelodaeth. Os oes gennych unrhyw syniadau, awgrymiadau, cwynion, sylwadau, cysylltwch â ni os gwelwch yn dda -- byddem yn falch o glywed oddi wrthych.

Helen Greenwood
Swyddog Aelodaeth Cenedlaethol

^ lan |<nol | * Cartref


ADRODDIAD O'R SWYDDFA

Mae dau swyddog llawn amser yn gweithio o'r Brif Swyddfa yn Aberystwyth sef y Swyddog Gweinyddol (Dafydd) a'r swyddog Ymgyrchoedd (Charlie). Ymddengys y bydd y Swyddog Maes (Meirion ) yn gweithio i ni am gyfnod o'r Swyddfa hon hefyd. Y Swyddog Gweinyddol sy'n gyfrifol am yr ochr weinyddol i weithgarwch y Gymdeithas -- golyga gydweithredu â'r Swyddogion Codi Arian, Mentrau Masnachol, Aelodaeth a'r Trysorydd. Mae'r Swyddog hefyd yn cydweithio gyda'r Grwp Dysgwyr, yn delio a materion sy'n ymwneud ag Eisteddfodau, Cyfarfod Cyffredinol ac ef sy'n llefaru ar ran Senedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg. Mae gan y Swyddog Ymgyrchoedd wedyn gyfrifoldeb dros y Grwpiau Craidd, gan wneud gwaith ymchwil ar eu rhan, rhyddhau datganiadau i'r wasg a chysylltu â'r aelodaeth yn gyffredinol ar ran y grwpiau craidd. Y Swyddog Ymgyrchoedd yw'r ymbarél sy'n gysgod dros grwpiau ymgyrchol y Gymdeithas a bydd yn gweithio'n agos gyda'r Swyddog Maes. Pan fydd arian yn caniatau bwriedir cyflogi Swyddog Maes arall.

Mae llawer o weithgarwch gwirfoddol yn mynd ymlaen yn y Swyddfa hefyd. Cyfeiriwn yn arbennig at weithgarwch Iwan Standley, Branwen Evans, Dylan Phillips ac aelodau eraill o Senedd Cymdeithas yr Iaith sy'n byw yng nghyffiniau Aberystwyth. Mae hyn yn codi'r angen am swyddfa llawer mwy. Rhaid hefyd wrth fwy o gyfrifiaduron. Mae dau gennym ar hyn o bryd a dim ond un ohonynt sy'n gweithio yn foddhaol. Mae angen sicrhau fod ffôn Dafydd a Charlie ar y rhif 624501 fel y gellir rhyddhau'r llinell arall i'r ffacs.

Dafydd Morgan Lewis
Swyddog Gweinyddol

^ lan |<nol | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar Ebrill 24ain, 1996.