Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang
Yn sgîl cyhoeddi canlyniadau pôl piniwn ar agweddau tuag at y Gymraeg dewisodd yr Arglwydd Dafydd Ellis Thomas fynd ati unwaith eto i ymosod ar Gymdeithas yr Iaith a cheisio ei orau glas (hynny yw, Tôri blw) i danseilio ymdrechion mudiadau protest yng Nghymru yn gyffredinol.
Iawn, mae'n hollol amlwg ers tro byd bod Dafydd Êl wedi hen flino ar "frwydr yr iaith". Brwydrau pobl eraill ar draws y byd dros ryddid a chyfiawnder -- dim problem; rhaid yn wir iddo ddangos cefnogaeth (darllener ei genadaethau eangfrydig a thrawswladol yn ei golofn wythnosol yn yr Herald Gymraeg). Ond, jyst am fod Dafydd Êl wedi penderfynu ei fod am optio allan o'r broses drafferthus honno o greu trefn newydd yng Nghymru a "hyrwyddo" chwyldro yn hytrach na bocsys te dwyieithog, yna does bosib bod disgwyl i'r gweddill ohonom lyncu gweledigaethau ffantasïol a thra cyfnewidiol y cyn-gefnogwr streiciau dros hawliau gweithwyr a chym-unedau a symudiadau ymgyrchol/protestgar cyffelyb.
A beth am ganlyniadau'r pôl a laniodd fel mana o'r nefoedd ar ddesg John Walter? Wel, cefnogaeth eang led-led Cymru ar ddefnyddio'r Gymraeg (71%). Cytundeb eang y dylai Cymraeg a Saesneg gael statws cyfartal yng Nghymru (75%). Cytundeb eang ar bwysigrwydd addysg Gymraeg (80%). Cytunai 83% y dylai pob corff cyhoeddus allu delio â phobl yn y ddwy iaith. 45% yn dweud nad yw'r sector breifat yn defnyddio digon ar y Gymraeg. Wedyn, yn ôl blyrb y Bwrdd, "mae pwyntiau eraill yn dangos ambell her sy'n wynebu'r iaith" dim ond 41% a gredai bod dyfodol i'r iaith Gymraeg yn eu hardal hwy. Dim ond 18% a deimlai eu bod yn rhugl yn y Gymraeg. Llai na chwarter yn dewis darllen a sgwennu Cymraeg.
Y fath ystadegau yw'r prawf digamsyniol yn ôl mytholeg y Bwrdd bod oes newydd wedi gwawrio, bod Deddf yr Iaith Gymraeg 1991 yn ddi-fai a di-feth a bod pobl fel Cymdeithas yr Iaith yn "filitants" drwg a pheryglus sy'n siwr o sbwylio'r sioe i gyd wrth fynnu parhad i ymgyrchu tor-cyfraith a gwrthod ymddiried yn naioni a doethineb y Bwrdd a Llywodraeth haelionus (Dorïaidd) y dydd. Mewn geiriau eraill -- STOPIWCH SIGLO'R CWCH A CHYDYMFFURFIWCH Y FFYLIAID DWL...
Ac wele'r Quango Iaith yn gwneud gwaith brwnt y Torïaid yng Nghymru (sef holl bwynt sefydlu Quangos os na allwch ennill grym trwy etholiadau), yn lledu twyll a rhagrith fel wna'r WDA, Tai Cymru, yr Ymddiriedolaethau Iechyd, yr Ysgolion sydd wedi eithrio a'r Swyddfa Gymreig ei hun, yr Arch Quango. Diweithdra? Di-gartrefedd? Argyfwng Iaith? Peidiwch â bod mor sinicaidd. Dewch gyda ni i fyw ffantasïau'r Farchnad Fawr lle mae popeth yn "nwydd" i'w brynu a'i werthu a'r dyfodol yn un loteri fawr o optimistiaeth hyrwyddol y tocyn hud.
Be wnawn ni te? Dilyn y Pied Piper Ellis Thomas?
Y drwg ydi, ar wahân i'r gwrthdrawiad sylfaenol wleidyddol sydd wrth wraidd yr holl frwydr syniadol yma rhwng y Bwrdd a'r Gymdeithas mae yna un snag anferth -- dydi pethe ddim wedi newid yn sgîl y Ddeddf Iaith a gafwyd.
Banciau, siopau bach a mawr, BT, y Swyddfa Drethi, yr Asiantaeth Budd-dal Plant, Cymdeithasau Adeiladu, Nwy Cymru, y Swyddfa Gymreig ac yn y blaen ac yn y blaen; mae'r rhain i gyd yn parhau i wrthod darparu gwasanaeth cyflawn a theilwng trwy gyfrwng y Gymraeg.
Ac ar ben hynny, mae'r Gymraeg yn llythrennol yn dal i golli tir yn ei chymunedau yn sgîl polisïau tai a phenderfyniadau cynllunio, yn sgîl tlodi Cymru ac yn sgîl chwalfa holl effaith athroniaeth farchnad rydd y Llywodraeth Dorïaidd.
Ac yn y pen draw, dagrau pethe yw petai pob copa gwalltog yn credu o waelod calon y dylai'r Gymraeg fod o fewn cyrraedd pawb ac y dylai popeth fod ar gael yn Gymraeg, byddai hynny ynddo'i hun ddim yn gwneud affliw o wahaniaeth mewn gwirionedd. Oherwydd heb rym gwleidyddol i reoli'n dyfodol fel cenedl does dim modd yn y byd y gallwn wir "hyrwyddo" ein dyheadau a'n delfrydau mwyaf gwerthfawr.
Yn wyneb ymosodiadau y Quango Iaith a'i Arglwydd, yn wyneb diffyg ymroddiad gonest y Bwrdd a'i ffydd naïf mewn cynlluniau/canllawiau a pherswâd does ganddom ni ddim dewis ond dwysáu ein hymgyrchu uniongyrchol di-drais. Rhaid inni barhau i fynnu newidiadau radical a gwirioneddol er lles y Gymraeg a'n cymunedau. Rhaid inni wthio ymlaen dros Drefn Addysg i Gymru, Deddf Eiddo, ac ie, Deddf Iaith Gyflawn Gref.
Yn sgîl un mlynedd ar bymtheg o Dorïaeth, yn sgîl adwaith ac ymdrechion dan dîn i'n difrio a'n hymylu dyw hi ddim yn hawdd i ddal ati. Ond, dros y blynyddoedd dan ni wedi hen arfer bod o dan lach Dafydd Êl, Dafydd Iwan, Cynog Dafis, Wyn Roberts, George Thomas, Kim Howells ac yn y blaen... beth yw'r cysylltiad rhyngddynt 'sgwn i?
'S dim byd arall i'w ddweud, gochelwn gau broffwydi. Mynnwn fod yn afresymol.
Siân Howys
Ionawr 1996