Y tafod trydanaidd: Erthyglau

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Merched Peryglus yn Herio Rod Richards
Dros Ryddid i Gymru Mewn Addysg


Yn ystod yr Eisteddfod yn Abergele llynedd, torrodd Branwen Nicholas a Sioned Elin i fewn i Swyddfa Etholaeth Rod Richards, yr Is-Ysgrifennydd yn y Swyddfa Gymreig, i brotestio yn erbyn polisïau addysg y Torïaid.

Roedd Rod Richards wedi gwrthod, dro ar ôl tro, derbyn deiseb addysg y Gymdeithas, ac felly yr unig ffordd o fynnu ei fod yn talu sylw i ddymuniadau pobl Cymru oedd mynd â'r ddeiseb at ei swyddfa yn bersonol.

Dyma araith Branwen Nicholas i Ynadon Abergele yn yr achos llys a ddilynodd ym mis Tachwedd, lle mae'n esbonio ei rhesymau hi dros ymgyrchu gyda Chymdeithas yr Iaith dros Ryddid i Gymru Mewn Addysg.


Ddydd Llun, mi fydd fy mab i'n dair oed, ac yn dechrau yn yr Ysgol Feithrin. Bydd yn dechrau cyfnod newydd yn llawn cyfleoedd a phrofiadau newydd. Fel mam, yn naturiol, 'dwi yn llawn dyheadau a gobeithion wrth iddo fentro i'r sustem addysg a chymryd un o'r camau mwyaf yn ei fywyd.

Mi hoffwn y sicrwydd y bydd ysgol Cai yn ysgol gymunedol gref â dyfodol diogel ac y bydd yn derbyn addysg gyflawn Gymraeg. 'Dwi eisiau i Cai a'i gyfoedion fedru derbyn addysg berthnasol fydd yn fodd iddynt ddatblygu meddwl agored, dadansoddiadol. Hoffwn feddwl amdanynt yn magu perspectif eang ar fyd ac ar fywyd, perspectif wedi ei seilio ar werthoedd a phrofiadau eu cymuned. Byddai'n braf petaent yn cael eu hannog i gyd-weithio a chyd-gyfrannu, a hynny mewn ysgol hapus ag adnoddau digonol.

Yn anffodus, fel y gwyddom, nid dyna ydi realiti yn ein hysgolion, gydag athrawon yn gorfod ymdrechu a brwydro o dan amgylchiadau anodd a di-gefnogaeth. Mae natur yr addysg yn newid yn flynyddol a'r plant yn mynd yn fwyfwy o fictims i agenda gudd y Torïaid yng Nghymru. Magu cymdeithas o bobl ddylai fod pwrpas addysg, ac nid canolbwyntio ar gynhyrchu cyfrifiaduron a pheiriannau ateb ffôn yr Unfed Ganrif ar Hugain.

Taswn i heb weithredu mi faswn i'n derbyn yn dawel y math o ddyfodol addysgol mae'r Blaid Dorïaidd yn ei wthio ar Cai, ei ffrindiau, a holl blant a phobl ifanc Cymru. Mi fyddwn yn euog o gynnal y sustem anghyfiawn ac annemocrataidd bresennol. Dyna'r rheswm, felly, y torrais i i mewn i swyddfa Rod Richards fis Awst a dyna pam yr ydym fel Cymdeithas yn galw am Drefn Addysg Annibynnol a Democrataidd i Gymru. Ac nid breuddwyd rhiant ddylai hynny fod, na delfryd gwleidyddol, ond nod realistig a hawl naturiol plant y presennol a'r dyfodol.

Branwen Nicholas
Llys Ynadon Abergele
Tachwedd 17eg, 1995


Wedi'r achos llys, aeth Branwen a Sioned, a'r cefnogwyr oedd yn y llys, draw unwaith eto i swyddfa Rod Richards ym Mae Colwyn, a meddiannu'r adeilad am rai oriau, gan lansio posteri newydd Grwp Addysg Cymdeithas yr Iaith — ROD RICHARDS: UNBEN ADDYSG CYMRU.

Poster rod richards - unben addysg Cymru

^ lan |< nol | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar Chwefror 22ain 1996.