Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang
Yma, atgynhyrchwn ddatganiad olaf yr awdur a'r ymgyrchwr Ken Saro-Wiwa i'r Tribiwnlys Milwrol a wynebodd ym 1995. Fe'i ddi-enyddiwyd ychydig wedyn.
F'Arglwydd,
Cawn un ag oll ein barnu gan hanes. Rwy'n wr sy'n caru heddwch a syniadau. Wedi fy arswydo gan dlodi difenwol fy mhobl sy'n byw mewn gwlad gyfoethog; wedi fy nhrallodi gan y modd y cawsant eu hymylu yn wleidyddol a'u mygu yn economaidd; wedi fy nghynddeiriogi oherwydd y difrod wnaed i'w tir, eu hetifeddiaeth gain; yn pryderu tros eu hawl i fyw ac i fywyd gweddus, ac yn benderfynol o weld cyflwyno trefn deg a democrataidd drwy'r wlad yn gyfan, un fydd yn amddiffyn pawb a phob grwp ethnig gan roi i bob un ohonom hawl ddilys i fywyd gwâr, cysegrais fy adnoddau deallusol a materol, fy mywyd, i achos yr wyf yn credu'n angerddol ynddo, ac ni fynnaf gael fy nychryn na'm blacmêlio rhag cadw at yr argyhoeddiad hwn. Nid oes gennyf amheuaeth o gwbl mai llwyddo wnaiff fy achos yn y diwedd, waeth beth fyddai'r profedigaethau a'r gorthrymderau y dof i, a'r rhai sy'n rhannu fy ngweledigaeth, ar eu traws ar y daith. Ni all na charchariad na marwolaeth atal ein buddugoliaeth yn y pendraw.
Datganaf eto mai hanes fydd yn ein barnu. Nid fi a'm cyfeillion yw'r unig rai ar brawf yma. Mae Shell ar brawf yma hefyd, a da yw gweld fod eu cyfreithiwr yn y llys yn dyst i'r hyn a ddigwydd yma heddiw. Mae'r cwmni wedi llwyddo i osgoi yr achos arbennig hwn ond fe ddaw'n ddydd o brysur bwyso arnynt hwy ac efallai y bydd y gwersi y byddant yn eu dysgu yma heddiw o werth iddynt ddydd a ddaw, oherwydd nid oes amheuaeth yn fy meddwl y bydd yn rhaid iddynt ateb yn hwyr neu'n hwyrach am y rhyfel amgylcheddol a ymladdasant yn y delta. Bydd y Cwmni hefyd yn cael eu cosbi am y troseddau a gyflawnwyd yn erbyn pobloedd yr Ogoni.
Mae cenedl Nigeria hefyd ar brawf, ei rheolwyr presennol a'u cynorthwywyr nhw. Mae unrhyw genedl sy'n trin y gwan a'r diamddiffyn yn y modd y triniwyd yr Ogoni gan Nigeria yn colli'r hawl i annibyniaeth a rhyddid rhag dylanwadau o'r tu allan. Nid wyf yn un o'r rhai hynny sy'n ymatal rhag protestio yn erbyn anghyfiawnder a gormes trwy ddadlau mai dyna sydd i'w ddisgwyl mewn trefn filwrol. Nid yw'r fyddin yn gweithredu ar ei phen ei hun. Fe'i cefnogir gan haid o wleidyddion, cyfreithwyr, barnwyr, academyddion a dynion busnes, pob un yn cuddio tu ôl i'r honiad nad ydynt yn gwneud dim ond eu dyletswydd, gwy^r a gwragedd sy'n rhy ofnus i olchi'r piso o'u dillad isaf. Yr ydym i gyd ar brawf, fy arglwydd, canys trwy'n gweithredoedd yr ydym wedi difrïo ein gwlad a pheryglu dyfodol ein plant. Wrth i ni danysgrifio i'r is-normal a derbyn safonau dwbwl, wrth i ni ddweud celwydd a thwyllo'n agored, wrth i ni amddiffyn anghyfiawnder a gormes, yr ydym yn gwagio ein hysgolion, difrïo ein hysbytai, llenwi ein boliau â newyn a dewis cael ein gwneud yn gaethweision i rai sy'n arddel safonau uwch, sy'n geiswyr y gwirionedd, sy'n anrhydeddu cyfiawnder, rhyddid a gwaith caled. Rwy'n darogan y bydd yr olygfa a welir yma yn cael ei chwarae a'i hail chwarae gan genedlaethau sydd eto heb eu geni.
Mai rhai eisoes wedi dewis rôl dihirod, eraill yn anffodusion trist, mae gan eraill y cyfle o hyd i waredu eu hunain. Mae gan bob unigolyn ddewis. Rwy'n rhagweld y datrysir pos aber y Niger yn fuan. Mae'r agenda yn cael ei osod yn yr achos hwn. Mae llwyddiant y dulliau heddychlon yr wyf i yn eu harddel yn dibynnu ar ba benderfyniad y daw ein gormeswr iddo, pa arwyddion y bydd yn ei drosglwyddo i'r cyhoedd tu allan. Rwy'n ddieuog o'r cyhuddiadau ffug sydd yn fy erbyn, a galwaf yn daer ar i lwyth yr Ogoni, holl bobloedd glannau'r Niger, a'r holl leiafrifoedd a ormesir heddiw yn Nigeria i sefyll ac ymladd yn eofn ac yn heddychlon dros eu hawliau. Mae hanes o'u tu. Mae Duw o'u plaid. Fe ddywed y Quran yn Sura 42, adnod 41: "Nid yw'r sawl sy'n ymladd pan fyddant dan ormes yn euog, ond bydd Allah yn cosbi'r gormeswyr." Deued y dydd.
Ken Sara-Wiwa
Port Harcourt, Rivers State, Nigeria