Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang
Mae Huw Gwyn bellach wedi ymadael o'i swydd fel Trefnydd y Gogledd Cymdeithas yr Iaith. Ers ddechrau ym mis Medi 1990, mae e wedi ei ddisgrifio fel "poen yn y tin" a "ff**in' idiot", ond DML ddywedodd rheiny wedi i'w bennau-gliniau gael eu ticlo ganddo, a dim ond weithiau wnaeth Huw hyn. Dymunwn ddiolch i Huw am ei holl waith caled, er gwaethaf ei synnwyr hiwmor gwallgof, a chyflwynwn deyrnged iddo yma yn y Tafod wedi ei hysgrifennu gan rywun a'i disgrifiodd yn y gorffennol fel "poen yn y tin" a "ff**in' idiot".
Myfyrwyr Ysgol Gwynedd
A'u dagrau hallt yn llyn.
Paham yr holl alaru?
"Collasom ein Huw Gwyn."
Mae'r rhai sy'n gwarchod gwinllan
A'i chadw rhag y chwyn
O'r farn na welwyd eto
Well garddwr na Huw Gwyn.
Cynhyrfu wnai John Redwood,
Rod Richards syllai'n syn,
Dim ond i rywun sibrwd
Yr enw hud -- Huw Gwyn.
Ac er nad yw yn gweithio
I'n mudiad erbyn hyn,
Fe wyddom na fydd darfod
Ar egni brwd Huw Gwyn.
Llosgwyd yr Ysgol Fomio
Dro'n ôl gan daid Huw Gwyn,
A'r w^yr fu'r un mor ddyfal
Yn cadw'r fflam ynghyn.
Llongyfarchiadau i Bwyllgor Addysg Ceredigion am roi arweiniad i Gynghorau Unedol eraill Cymru trwy groesawu argymhellion y Gymdeithas i:
Galwn nawr ar i bob Cyngor Unedol arall ddilyn esiampl Ceredigion trwy greu Cynllun Addysg Cymunedol, sefydlu Is-Bwyllgor Datblygu Addysg Gymraeg, a hybu datblygu Fforwm Addysg i Gymru.
Mae Cyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ar y gorwel, yn ei safle newydd ym mis Mawrth.
Cofiwch ddod draw i Aberystwyth am y penwythnos i drafod a phenderfynu ar ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith am y flwyddyn i ddod ac i fynychu'r rali yn y prynhawn. Hefyd, cyhoeddir pwy fydd 21ain Cadeirydd y mudiad (bydd aelodau yn derbyn ffurflenni pleidleisio trwy'r post yn fuan, os nad ydych wedi eisoes), a thrafodaeth Merched Peryglus. Y siaradwr gwâdd eleni fydd Allan Wynne Jones, Cadeirydd Biwro Ieithoedd Lleiafrifol Ewrop. Hyn, a digon a adloniant hefyd!
Efallai y cofiwch i Rhys Owen a Lleucu Meinir beri difrod i Swydda Bwrdd yr Iaith dros flwyddyn a mwy yn ôl. Cawsant ddirwy drom a phenderfynodd Rhys na fyddai yn ei thalu. Bu o flaen llys fwy nag unwaith ac ym mis Rhagfyr roedd yn barod i wynebu dedfryd o garchar. Daeth ei deulu a chyfeillion i'w gefnogi, ond ni wrandawyd ei achos nes diwedd y p'nawn. Penderfyniad mainc Caernarfon yn y diwedd oedd tynnu dwy bunt yr wythnos o fudd-dal Rhys. I glirio'r ddyled, bydd rhaid i Rhys wenud heb y swm yma am gant ac ugain o wythnosau.
Mae tynnu dirwyon o fudd-dal yn gam newydd gan y Wladwriaeth ac yn dangos nad oes gan berson di-waith yr hawl hyd yn oed i wrthod talu dirwy.
I ychwanegu sen at sen, derbyniodd Rhys ffurflenni uniaith Saesneg gan Lys Ynadon Caernarfon. Pan wnaeth gais am rai Cymraeg, rhai o safon eilradd iawn oeddynt. Siawns nad ydym wedi ennill y frwydr honno bellach. Unwaith mae ffurflen wedi ei chyfieithu ar gyfer un, pam na fedr hi gael ei chyhoeddi yn yr un diwyg safanol â'r Saesneg?