Y tafod trydanaidd: Erthyglau

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Ildiwch i'r Gymraeg


ILDIWCH!

Mae Grwp Statws Cymdeithas yr Iaith wedi cyhoeddi mis o ymgyrchu mawr o Chwefror y 1af i Fawrth y 1af. Gwahoddir pawb i fynd allan efo paent du i ychwanegu'r gair ILDIWCH i'r arwyddion uniaith Saesneg 'GIVE WAY' yn ystod y cyfnod gan fod y Swyddfa Gymreig mewn cyfnod o ymgynghori ynglyn ag arwyddion ffyrdd. Bydd hyn yn weithred sumbolaidd yn ogystal, gan adael neges glir ledled Cymru i'r Swyddfa Gymreig — Ildio i'r Gymraeg!

Ar hyn o bryd, paentiwyd 279 o arwyddion ledled Cymru, a bydd y gweithredu torcyfraith yma yn parhau'n ddi-dor hyd at y Cyfarfod Cyffredinol ym mis Mawrth, fel neges glir i'r Swyddfa Gymreig i ILDIO I'R GYMRAEG.

Gofynnwn iddynt gefnogi'n galwad i ddileu'r Bwrdd Iaith ar y sail ei fod yn Quango a sefydlwyd yn sgîl Deddf Iaith 1993 i wneud dim ond gweinyddu polisïau'r Torïaid ar yr iaith Gymraeg.

Mynnwn Ddeddf Iaith gadarn ac effeithiol sy'n rhoi statws cyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg ym mhob sector.

Ewch ati heno i baentio mwy o arwyddion, a chofiwch ffonio'r swyddfa yn Aberystwyth er mwyn i ni eu hychwanegu at y cyfanswm. Isod gwelir faint o arwyddion sydd wedi eu hardduno hyd yma, fesul rhanbarth. Dyma'ch cyfle chi i fynnu bod y Llywodraeth yn ILDIO I'R GYMRAEG.

Ynys Môn - 14
Gwynedd - 91
Hen Glwyd & Hiraethog - 52
Ceredigion - 86
Sir Gâr - 40
Morgannwg/Gwent - 1
Penfro - 0
Powys - 0
CYFANSWM - 284

^ lan |< nol | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar .