Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang
Ers i mi fynd ar y Senedd gyntaf fel golygydd y Tafod roedd hi'n ymddangos i mi fod pob Cadeirydd yn mesur ei hamser neu ei amser yn y gadair yn ôl faint o erthyglau cadeiryddol oedd ar ôl i'w sgwennu i'r Tafod. Mae gen i ddau i fynd ...
'Ildiwch' ydi gair mawr yr wythnosau hyn. Gair sy'n cwmpasu cymaint o'r hyn sydd wrth wraidd Cymdeithas yr Iaith. Er mwyn i'r iaith gael cyfle i ffynnu mae'n rhaid i nifer o bethau, sy'n rhan mor gynhenid o'r hen drefn, ildio. Mae'n rhaid i gynghorau ildio, mae'n rhaid i'r Quangos ildio, ac mae'n rhaid i Lywodraeth ganolog ildio i Gymru ac i'r iaith Gymraeg gael ymryddhau. Mae'n rhaid i'r cyfleus-dodau ac i gwmnïau preifat yn gyffredinol ildio i alwadau pobl Cymru am ryddid.
Ar y llaw arall fe fyddai llawer o'r Cynghorau, a'r Quangos a'r Llywodraeth yn ddieithriad, yn dymuno i ni ildio. Gwnaed datganiadau amrywiol dros y blynyddoedd ar i ni wneud hynny. Yn ddiweddar galwyd arnom i ildio oherwydd bod deddfwriaeth Prydain Fawr bellach o'n plaid ni! Y gwir yw fod deddfwriaeth Prydain Fawr yn talu'n dda i ddwsin a rhagor o aelodau'r Quango Iaith ac mae eu gwaith hwy yw ein tawelu ni. Os nad ydym ni yn tawelu rydym yn rhwym o greu embaras iddynt, achos, Duw a'n gwaredo, o edrych ar Gymru drwy lygaid Llundain ganolog, yr un ydi pob Cymro Cymraeg, boed o'n Gadeirydd y Quango Iaith neu Gadeirydd Cymdeithas yr Iaith.
Felly 'don't rock the boat' ydi hi gyn belled a mae'r Quango a'i gaethweision yn y cwestiwn rhag ofn i ni golli yr hyn sydd gennym ni, yr hyn a enillwyd eisoes, rhaid bodloni bellach. Fe ellid fod wedi dweud hynny ar ôl protest Trefechan, gellid fod wedi dweud hynny ar ôl ennill arwyddion dwyieithog, fe ellid fod wedi dweud hynny yn wir fe ddywedwyd hynny ar ôl ennill y sianel ac mae nhw'n dal i ddweud hynny ers Deddf Iaith 1993. Mae'r Sefydliad wedi bod yn gweiddi ildiwch ar Gymdeithas yr Iaith yn gyson ers degau o flynyddoedd. Ein cyfrinach ni ydi na wnaethom ni erioed ildio, tra eu bod nhw yn Llywodraeth ganolog, yn llywodraeth leol ac yn gwmnïau preifat, bach a mawr, wedi ildio i ni drosodd a throsodd.
Felly pan glywch chi rybudd i beidio siglo'r cwch peidiwch a meddwl am funud mai dyna'r tro cyntaf i'r alwad honno gael ei gwneud fe'i gwnaed droeon dros y blynyddoedd. Yr hyn fyddwn i am i chi ei wneud, fel y gwnaed yn y gorffennol, yw mynd ati eto fyth i gynhyrfu'r dyfroedd!
Felly wrth fynd ati i baentio arwyddion Give Way gyda'r gair Ildiwch cofiwch fod ei arwyddocâd yn ehangach o lawer nag un gair ar arwydd anghysbell. Fe ddaw hynny yn amlycach wrth i'r ymgyrch ehangu.
Dau neu dri pwt wrth gloi ... pwy ddywedodd mai Torïaid oedd yn cael eu penodi i'r Quangos? Cymdeithas yr Iaith. Pwy wadodd? Y Quango Iaith. Pwy yw ymgeisydd Torïaidd Môn? Gwilym Owen. Ydi, mae Gwilym Owen ar y Quango Iaith ac mae ganddo bosteri'r Gymdeithas ar wal ei dy bach ... yn does Mrs Owen?!?
Braint ac anrhydedd yw fod y frenhines yn dod i Aberystwyth ddydd ola' Mai. I nodi'r achlysur trefnwyd dau gig yn Y Cwps; Nos Wener Mai 31, Meic Stevens; Nos Sadwrn Mehefin 1, Geraint Lövgreen. Dewch adra o Steddfod yr Urdd yn gynnar i ddathlu!
A cofiwch ddod i'r Cyf Cyff!
Yn ddi-ildio,
Rocet