Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang
Gyffrous! A Newydd!
Yn Llawn Antur a Diddannwch a Datganiadau GWIRION Gan Y Bwrdd Iaith!
A Pherfformiwyd Gyntaf Ar S4C Ar Y Pumed Diwrnod Ar Ddeg o'r Mis Ionawr Ym Mlwyddyn Ein Harglwydd 1996
Yr Hynn a Atgynhyrchir Yma Yn Y Cyhoeddiad Hwnn, Sef Tafod a Elwir Hefyd Tafod y Ddraig, At Bwrpafau Dangos Mor Ddi-Werth Ydi'r Quango, Y Sevydliad a Adnybyddir Yn Gyffredin Fel y Bwrdd Iaith.
Vaughan Roderick -- Gohebydd o fri i'r Gorfforaeth Ddar-lledu Brydeinig
Dewi Llwyd -- Cyd-weithiwr iddo, yr hwn sydd heddiw yn cyflwyno'r rhaglen deledu a elwir yn 'Newyddion'
Yr Arglwydd Dafydd Êl -- Un o anifeiliaid anwes yr Ysgrifennydd Gwladol, y Bonwr William Hague. Mae hwn yn ffrind ffyddlon i'w feistr, ond yn troi'n sarrug wrth eraill.
Angharad Tomos -- Tywysoges Llên Cymru ac ymgyrch-wraig ddiflino dros gyfiawnder a'r iaith Gymraeg. Holir hi gan y Bnr. Roderick.
John Walter Jones -- Un arall o anifeiliaid anwes yr Anrhyd-eddus Hague a'i blaid, y Gogoneddus Geidwadwyr. Ni ddëallir pam nad yw eto wedi cael ei ffrwyno neu ei ladd yn dilyn y 'Dangerous Dogs Act'.
[sef adroddiad gan Bnr. Roderick]
VAUGHAN: ...ond rhybuddiodd y Bwrdd y gallai ewyllys da tuag at yr iaith ddiflannu oherwydd eithafiaeth.
DAFYDD: ...yr adegau y mae angen torri'r gyfraith ydi pan mae'r gyfraith yn rhwystr; pan mae'r gyfraith yn erbyn. Pan mae'r gyfraith yn hyrwyddo hawliau pobl, yna does dim angen torri'r gyfraith. Mae'r gyfraith yn bleidiol i'r Gymraeg, a dyna ydi holl bwynt cael Bwrdd statudol i weithredu.
ANGHARAD: Mae 'na gymaint o angen protestio pan mae 'na anghyfiawnder ag sy' wedi bod erioed. Dwi'n meddwl mai cyfraniad Cymdeithas yr Iaith i'r frwydr boliticaidd ydi cynhyrfu'r dyfroedd. Dwi ddim yn meddwl mai tawelu pethau ddylia'n swyddogaeth ni fod. Dyna ydi dialectig y frwydr bod ni'n herio syniadau pobl ac yn peri i newid digwydd.
VAUGHAN: Mae'n anhebyg fod dyddiau'r protestiadau ar risiau'r Swyddfa Gymreig ar ben, beth bynnag ydi barn Cadeirydd y Bwrdd.
[sydd yn digwydd yn stiwdio'r 'Newyddion']
DEWI: Dyma John Walter Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith. Dewch i ni ddelio yn gyntaf â'r awgrym 'ma y dylid rhoi'r gorau i ymgyrchu. Ydach chi'n argyhoeddiedig fod hynny yn gwneud drwg i'r iaith?
JOHN: Dwi wedi bod yn argyhoeddiedig erioed. Dwi'm yn gweld fod o'n gwneud dim lles o gwbl. Ddarllenais i o yn rywle wsnos dwytha -- a dwi'n dyfynnu i'w gael o'n gywir -- taw swyddogaeth Cymdeithas yr Iaith ydi "chwalu'r drefn bresennol." Nid dyna swyddogaeth Deddf yr Iaith Gymraeg na chorff cyfrifol fel Bwrdd yr Iaith. Mae ganddon ni swyddogaeth dan Ddeddf Gwlad i hybu a hyrwyddo yr iaith Gymraeg. A dyna ydan ni'n ei wneud, a dwi'n gweld fod tor-cyfraith dan unrhyw amgylchiadau ddim yn dderbyniol.
DEWI: Da chi'n galw ar Gymdeithas yr Iaith i roi'r gorau iddi?
JOHN: Dwi 'di gofyn erioed. Dio'n gwneud dim lles o gwbl. Dwi ddim o blaid tor-cyfraith.
Nodiadau: Mae'n amlwg o eiriau'r dau gi o'r Quango Iaith eu bod am ddiogelu eu sefyllfa hwy eu hunain yn unig, ac yn mynd dros ben llestri wrth geisio ddarbwyllo eraill i ymmdiried yn y Bwrdd. Y broblem, wrth gwrs, ydi nad yw'r cyfryw Fwrdd wedi gwneud dim dros y Gymraeg.