Y tafod trydanaidd: Erthyglau

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Colofn Cysylltiadau Rhyngwladol


Benvinguts, ongi etorri a chroeso i golofn sefydlog y Grwp Cysylltiadau Rhyngwladol yn y Tafod, Llengüa, Gjuhë, Teod, Jezik, Mingain.

Y peth cyntaf i'w nodi yw cyfarfod nesaf y Grwp:
LLE: Tafarn y Cwps, Aberystwyth
PRYD: 6.00 o'r gloch Dydd Sul, Rhagfyr 3ydd.

Os oes angen lifft arnoch, cysylltwch â'r swyddfa - 01970 624501. Yn amlwg, mae croeso i holl aelodau'r Gymdeithas. Os yw'r dyddiad neu'r lleoliad yn anghyfleus, cysylltwch â'r swyddfa er mwyn i ni drefnu'r cyfarfod nesaf mewn man neu ar amser mwy cyfleus. Dewch â syniadau a brwdfrydedd efo chi.

Rydym hefyd yn chwilio am bobl i gyfieithu rhai o daflenni'r Gymdeithas i ieithoedd eraill; rhowch wybod i ba ieithoedd (mawr a bach) y gallwch gyfieithu.

Mae'r Grwp am ddod â newyddion am frwydrau pobloedd, mudiadau a ieithoedd eraill i dudalennau'r Tafod. Os oes gennwch chi newyddion i'w cyfrannu at y tudalennau – gorau'n byd.

Achos llys yn Llydaw - 45 o Lydawiaid ar brawf

Efallai eich bod yn cofio i nifer o Lydawiaid gael eu harestio ym mis Medi y llynedd yn dilyn cyrchoedd arestio gan heddlu Ffrainc. Rhoddwyd rhywfaint o sylw i hyn yn y cyfryngau Cymraeg. Ers 1992, mae 120 o bobl wedi cael eu holi gan yr heddlu o dan amheuaeth o fod wedi rhoi lloches i derfysgwyr ETA.

Athrawon yn yr ysgolion Diwan, sef yr ysgolion cyfrwng Llydaweg, oedd nifer o'r Llydawyr hynny. Roedd rhai hefyd â phlant ifanc iawn, wedi eu llusgo i'r orsaf heddlu yn ystod oriau mân y bore. Holwyd nifer o'r plant heb i'w rhieni fod yn bresennol. Cipiwyd un ddynes 78 oed o'i chartref i'r ddalfa, ac fe gafodd ei rhyddhau heb gyhuddiad yn fuan wedyn.

Yn sefyll eu prawf ym mis Tachwedd eleni bydd 45 o Lydawiaid – wedi eu cyhuddo o 'gynnig lloches achlysurol, ymwneud â throseddwyr ac â mudiad terfysgol'. Y mudiad terfysgol dan sylw yw ETA. Fe fydd y '45 Llydaw' yn sefyll eu prawf ynghyd â 40 o bobl eraill – Basgiaid, pobl o Baris, ac o lefydd eraill. Dim pwyntiau am ddyfalu ym mha ddinas y cynhelir yr achos llys – Paris? mais oui!

Mae nifer ohonynt wedi eu cadw yn y ddalfa ers 3 mlynedd yn aros i'r heddlu a'r barnwr Laurence Le Vert, sydd â'i harbenigedd ym maes y frwydr yn erbyn ETA, gasglu tystiolaeth.

Mae gan y Llydawiaid draddodiad cryf o gynnig lloches i alltudion. Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen ac yna yn oes Franco, roedd y Basgiaid yn aml yn ffoi i Lydaw ac yn cael lloches yno. Hefyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, bu raid i nifer o Lydawiaid ffoi, i Gymru ac Iwerddon yn bennaf. Heddiw mae rhyw 600 o bobl o wlad y Basg ar ffo yn Ffrainc, a nifer helaeth ohonynt yn Llydaw. Mae ystod eang o fudiadau yn cynnig cymorth iddynt – mudiadau diwylliannol, ecolegol, heddychwyr ac ati. Mae cefnogaeth swyddogol iddynt – mae cyngor tref Carhaix wedi trefnu i 6 o'r Basgiaid gael ty cyngor. Yn amlwg felly, roedd y cyrch diweddar yn sioc i Lydaw. Mae rhai gwleidyddion a chefnogwyr y diffynyddion yn dweud bod criminaleiddio lloches i'r Basgiaid yn arwydd o erydu'r hawl i loches wleidyddol.

Cynhaliwyd rali ar Dachwedd 11eg ym Mharis, yng ngorsaf Montparnasse, sef yr orsaf sy'n cysylltu Paris a Llydaw. Crëwyd pwyllgor cefnogi teuluoedd y rhai a arestiwyd, Skoazell Vreizh:

Skoazell Vreizh,
3 rue Aristide Briand,
44350 Guérande, Breizh

^ lan |< nol | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar Dachwedd 19eg, 1995.