Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang
Cyngor Ariannu Addysg Bellach Cymru
Lleoliad
Lambourne House
Park Busnes Caerdydd
Llanishen
Caerdydd
CF4 5GL
01222 761861(ffôn)
01222 763163 (ffacs)
Cadeirydd
Malcom Wallace
Cyflog: £9,900 y flwyddyn
Aelodau o'r Bwrdd
Jeff Cocks
Stephen Dunster
Huw Jones
David Margetts
Penelope Ryan
Sue Stanford
Ken Thomas
Grant Walshe
Dr John Walters
Richard Webster
Cyflog: £2,140 y flwyddyn yr un
Prif Weithredwr
Yr Athro John Andrews
Pennaeth yr Adran Gyllid a Gwasanaethau Cyffredinol
Richard Hirst
Pennaeth yr Adran Asesu Ansawdd
Mike Laugharne
Pennaeth yr Adran Ariannu Addysg Bellach
Linda Gainsbury
Sefydlwyd: Ym 1992 o dan Ddeddf Addysg Uwch A Phellach.
Cyfrifoldebau: Ariannu Addysg bellach dros 16 oed; ariannu Cymraeg i oedolion.
Ariannu: Derbyn grant gan y Swyddfa Gymreig.
Atebolrwydd: Mae'r Quango hwn fel pob Quango arall yn atebol i'r Swyddfa Gymreig trwy'r Ysgrifennydd Gwladol nid i bobl Cymru.
Gwendidau: Yn y cyfnod cyn Quangos, yr oedd Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am yr ystod cyfan o ddarpariaeth addysg ar gyfer y gymuned o Addysg Feithrin hyd at Gynradd, Uwchradd ac Addysg Bellach. Fodd bynnag wrth gymryd y grym oddi wrth Lywodraeth Leol, rhannwyd y cyfrifoldebau am wahanol feysydd yn y byd addysg ymysg y Quangos. Wrth rannu'r cyfrifoldebau ymysg cyrff annemocrataidd y Llywodraeth gwanhawyd rheolaeth pobl Cymru dros y system Addysg yng Nghymru yn fwy byth. Erbyn hyn nid oes unrhyw reolaeth democrataidd dros Addysg Bellach - mae'r holl gyfrifoldebau yn nwylo'r Quangos.
Mae gwendidau mawr i weld yn y ffordd mae FEFCW yn gweithredu. Y maent yn ariannu cyrsiau/colegau per capita, hynny yw, yn rhoi arian ar gyfer pob myfyriwr/wraig sydd wedi cofrestru. Mae hyn, yn amlwg, yn hybu cystadleuaeth rhwng colegau ac yn gorfodi'r colegau i gystadlu yn erbyn ei gilydd i gael myfyrwyr (sydd yn golygu arian) a llenwi eu cyrsiau, yn hytrach na chyd-weithio er mwyn darparu'r addysg orau bosib. Mae pwysau'r farchnad yn amlwg yn effeithio ar y Colegau a'r addysg a gynigir.
Mae sefydliadau Addysg Bellach i bob pwrpas yn cael eu gorfodi i weithio fel busnesau annibynnol a'r unig reolaeth allanol sydd ganddynt yw FEFCW. Enghraifft o hyn yw'r sefyllfa a welir yng Ngholeg Ceredigion ar hyn o bryd sydd mewn perygl o gael ei gau oherwydd diffyg ariannu. Dyma sefydliad addysgol sy'n angenrheidiol i ddyfodol addysgiadol ac economaidd yr ardal. Yn ˆl dull cyfalafol FEFCW o weithredu, anwybyddir anghenion y gymuned yn llwyr a rhoddir blaenoriaeth i egwyddorion y farchnad rydd, gan droi Colegau yn fusnesau cystadleuol sydd yn cael eu dileu oni bai eu bod yn "gost effeithiol."
Charlotte Williams