Y tafod trydanaidd: Newyddion

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Holl hanes yr achosion llys, protestiadau, digwyddiadau, ac unrhywbeth arall...


Newyddion Tachwedd 1995

Cyfarfod Cyffredinol
Merched Peryglus!
Rali yn y Fali
Taro Banciau Aberystwyth
Bwrdd Du Statws

^ lan | < nôl | * Cartref


Cyfarfod Cyffredinol

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith ar Hydref yr 20fed a'r 21ain. Llenwyd neuadd Gwesty'r Talbot ar y Dydd Sadwrn, a phasiwyd nifer fawr o gynigion pwysig, gan gynnwys;

* Cynnig gan y Grwp Addysg yn condemio Rod Richards am wrthod hyd yn oed i dderbyn y ddeiseb yn galw am Ryddid i Gymru mewn Addysg. Bydd y Grwp Addysg nawr yn dechrau ymgyrch gref yn erbyn Unben Addysg Cymru a'r Quangos, a thros Gyngor Addysg i Gymru.

* Â'r Cynghorau Unedol newydd wrthi'n paratoi ar gyfer grym, cyhoeddodd y Pwyllgor Democratiaeth restr o ofynion iddynt i sicrhau eu bod yn gweithredu'n gadarn dros y Gymraeg, gan gynnwys cyflwyno polisi iaith cadarn; llunio Cynllun Addysg Cymunedol; creu strategaeth dai a chynllunio; sefydlu Pwyllgor Datblygu Economaidd; ffurfio Fforwm Ieuenctid i'r Sir; a sicrhau cydweithio ymhlith y Cynghorau i greu Fforwm Cenedlaethol i ddwyn gwir bwysau ar y Llywodraeth Ganolog mewn meysydd tebyg i addysg a thai, ac yn y pen draw i gymryd lle'r Quangos.

* Galwyd ar i ysgolion Cymru i wrthod pwysau newydd eleni gan y Toriaid i optio allan o'r gymuned leol ac i mewn i reolaeth uniongyrchol gan y Toriaid a'u Quangos.

* Cyflwynodd Gweithogr Rhyddid i'r Ifanc gynnig yn galw am docynnau wythnos rhad (iawn!) ar gyfer mynediad i bobl ifanc i Faes yr Eisteddfod. Ar hyn o bryd collir llawer o Gymry ifainc o'r ymdrafod pwysig ar Faes yr Eisteddfod am resymau ariannol.

* Penderfynwyd symud y Cyfarfod Cyffredinol o'i slot arferol ym mis Hydref i fis Mawrth neu Ebrill. Byddai hyn yn rhoi cyfle gwell i'r holl aelodau drafod a phenderfynu ar strategaeth i'w chyflwyno i'r cyhoedd yn ystod yr haf ac i weithredu arni yn yr hydref.

* Ac ail-ddatganwyd egwyddorion sylfaenol Cymdeithas yr Iaith mewn cynnig gan Angharad Tomos a Dafydd Morgan Lewis, sef bod Cymdeithas yr Iaith yn fudiad sosialaidd, ei bod yn fudiad di-drais sy'n credu mewn heddychiaeth ymosodol ac yn cymryd cyfrifoldeb am ei weithredoedd. Pwysleisiwyd yr angen am danseilio'r drefn sydd ohoni er mwyn sicrhau hinsawdd wleidyddol lle all yr iaith Gymraeg ffynnu, a chyfarwyddwyd y Pwyllgor Democratiaeth i ystyried y dulliau mwyaf effeithiol y gall Cymdeithas yr Iaith gyfrannu tuag at yr ymgyrch dros Senedd i Gymru (sylwer, Mr Clive "Cymdeithas opposes plans for assembly or parliament" Betts).

* Bu dau gynnig brys: un yn datgan pryder y Gymdeithas ynglyn â phapur gwyrdd y Llywodraeth ar ddarlledu digidol, sy'n fygythiad gwirioneddol i S4C; a'r ail yn condemio'r BBC am eu newidiadau diweddar i Radio Cymru sydd wedi troi'r orsaf yn wasanaeth o raglenni Saesneg wedi eu cyfieithu.

Hefyd yn y Cyf Cyff, etholwyd Senedd Newydd i'r Gymdeithas.

^ lan | < nôl | * Cartref


Merched Peryglus

Erbyn i chi ddarllen hwn, bydd cynhadledd Merched Peryglus Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn Aberystwyth. Bydd adroddiad llawn o'r gynhadledd yn ymddangos cyn bo hir. Cofiwch fod crysau-T y Merched Peryglus ar gael o'r Brif Swyddfa am £6.50 (a hanner can ceiniog i bostio). Dim ond nifer cyfyngedig sydd ar gael, felly archebwch rwan!

^ lan | < nôl | * Cartref


Rali yn y Fali

Er gwaetha'r glaw a'r gwynt, daeth dros hanner cant ynghyd yn nghanolfan yr awyrlu yn y Fali ar ddydd Sadwrn yr 11eg o Dachwedd. Cynhaliwyd y rali i brotestio yn erbyn gwerthu awyrennau Hawks i Indonesia, a hyfforddi'r peilotiaid yn y Fali - mae Indonesia wedi bod yn defnyddio'r awyrennau i ormesu pobl Dwyrain Timor, ac wedi lladd traean o'r boblogaeth yno ers 1975.

Cerddodd y protestwyr ar draws tir gwaharddiedig yr awyrlu i blannu croes fel symbol o heddwch a gwrthwynebiad i'r fath ormes.

Bydd yr ymgyrch yn parhau, gyda lobi wedi ei drefnu yn y Senedd yn Llundain ar Ragfyr y 7fed.

^ lan | < nôl | * Cartref


Taro Banciau Aberystwyth

Bu Cell Colegau Aberystwyth am dro o amgylch banciau a chymdeithasau adeiladu'r dref ychydig yn ôl (Dydd Mercher, Tachwedd y 1af) i weld os oeddynt yn gweithredu polisiau dwyieithog llawn.

Yn anffodus, roedd pob un o'r banciau a chymdeithasau adeiladu (ag eithrio'r NatWest) wedi gwrthod gwneud hyn, er i'r Gell eu rhybuddio nhw rhyw chwe mis yn ôl, ac er i Gell Caerdydd ymgyrchu yn eu herbyn ers amser. Bu raid, felly, casglu'r holl daflenni, ffurflenni ac unrhyw ddeunydd arall nad oedd ar gael yn Gymraeg o'u swyddfeydd. Yn wir, roedd y rhan helaethaf o'r cymdeithasau adeiladu heb yr un gair o Gymraeg ar gyfyl y lle. Er i'r rhan fwyaf o staff y sefydliadiau yma rythu'n hurt ar y gweithgaredd, heb cweit sylweddoli beth oedd yn mynd ymlaen, bu rhai'n ymateb yn fwy egniol: clowyd carfan yn y Woolwich gan y rheolwr, a mynnodd eu bod yn dychwelyd ei slipiau talu mewn am nad oedd ganddo ragor, ac y byddai'n rhaid iddo gau am weddil yr wythnos!

Serch hynny, casglwyd llond dwsin o sachau sbwriel o daflenni, ac aethpwyd ati bum niwrnod yn ddiweddarach - Tachwedd y 5ed! - i'w llosgi ar draeth Aberystwyth.

^ lan | < nôl | * Cartref


Bwrdd Du Statws

Yn y darn yma o'r Tafod Trydanaidd byddwn yn edrych ar engreifftiau o fethiant llwyr y Ddeddf Iaith diwethaf a'i Quango, y Bwrdd Iaith. Mae'r ddau achos yma unwaith eto yn tanlinellu'r ffaith nad yw'r Gymraeg yn gyfartal â'r Saesneg yng Nghymru, a hynny er gwaetha'r ffaith bod y Ddeddf Iaith wedi'i phasio ers dwy flynedd. Mae'n hen bryd i aelodau'r Quango Iaith sylweddoli nad yw brwydr yr iaith drosodd. Dim ond Deddf Iaith gref all sicrhau cyfiawnder i'r iaith, ac nid y Quango diddannedd sydd gennym ar hyn o bryd.

Swyddfa Bost yn dweud celwyddau?

Bu Charlotte Williams i'r Swyddfa Bost yn Aberystwyth i brynu trwydded deledu yn ddiweddar. Wedi methu â dod o hyd i ffurflen Gymraeg, tybiodd eu bod nhw unwaith yn rhagor yn cael eu cadw o dan y cownter. Fodd bynnag, er mawr syndod dywedodd y Cymro tu ôl i'r ddesg nad oedd y fath beth ar gael yn Gymraeg. Wedi gwylltio'n gacwn, ffoniodd hi'r rhif ar waelod y ffurflen Saesneg a dechrau pregethu ynglyn â hawliau Cymry Cymraeg i dderbyn gwasanaeth dwyieithog yn eu gwlad eu hunain. Fe'i rhwystrwyd, fodd bynnag, gan lais bach cwrtais ar ochr arall y ffôn yn datgan bod y ffurflenni ar gael yn y Gymraeg a bod dyletswydd ar y Swyddfa Bost i wneud cais pan fo angen mwy ohonynt. Ai aneffeithlonrwydd ar ran y Swyddfa Bost yw hyn, yntau ai dweud celwydd oeddynt?

Howells yn gwrthod derbyn siec yn Gymraeg

Ar Ddydd Gwener yr 20fed o Hydref, gwrthododd un o brif siopau Caerdydd â derbyn siec gan gwsmer - a hynny am ei bod wedi'i hysgrifennu yn Gymraeg. Roedd Saran Nicholas o Gaerdydd yn ceisio talu am nwyddau werth £22.95 yn siop Howells yn y brifddinas. Ond gwrthodwyd ei siec, ac ni chafwyd hyd i unrhywun arall yn y siop a oedd yn gallu siarad Cymraeg.

^ lan | < nôl | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar Dachwedd 16eg, 1995.