Y tafod trydanaidd: Erthyglau

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Manion & Mwydod


BE SY'N DOD I FYNY? - Cerdd am goctel ieithyddol Radio Cymru, gan Myrddin ap Dafydd
GWIR POB GAIR - Anturiaethau diweddara'r Quango Iaith
CÂN O FAWL I HACS CYMRU - Clive Betts et al...

^ lan |< nol | * Cartref


Dyma un o'r cerddi a glywyd yn Sioe Beirdd 1995, Bol a Chyfri' Banc a fu o amgylch Cymru yn ddiweddar. Diolch iddynt hwy ac i Myrddin am gael cyhoeddi'r gerdd.

Be sy'n dod i fyny?

(a ninnau'n gwybod mai'r unig beth sy'n dod i fyny yn y Gymraeg ydi chwd)
YN GYFLWYNEDIG I 'JONESY'

Be sy'n dod i fyny ar Radio Cymru,
yn welw ei wedd ar ei newydd wedd?
Ambell i gês yn cynnig ei gwdyn,
ambell hen ben ac ambell ben rwdin
sy'n dod i fyny ar Radio Cymru.

Be sy'n dod i fyny ar Radio Cymru
o fore tan hwyr gyda'r adferiad llwyr?
Cystadlaethau ringio i mewn
i ennill beiro, o!, llawenhewn
yn yr hyn sy'n dod i fyny ar Radio Cymru.

Be sy'n dod i fyny ar Radio Cymru?
Lot o hysbys - programmes for us,
Be sy'n cymryd lle a be sydd ymlaen
Ydi'r gig yn dal ar ac yn y blaen
sy'n dod i fyny ar Radio Cymru.

Be sy'n dod i fyny ar Radio Cymru?
Lle ti'n dod o ffrind? Sut nath y penwythnos fynd?
Dwi'n gwbod y siop 'na rwyt ti yn sôn am.
Wyt ti'n teimlo'n Wenerol - ys gwn i pam?
Mae 'na rwbath yn dod i fyny ar Radio Cymru.

Be sy'n dod i fyny ar Radio Cymru?
Wyt ti'n y mw^d i glywed sw^n chw^d?
Coctel ieithyddol ar drafft yn y bar
Mwg yn dy glustiau a Chymraeg High Tar
Yn dweud be sy'n dod i fyny ar Radio Cymru.

Hynny sy'n dod i fyny ar Radio Cymru.

Myrddin ap Dafydd

^ lan |< nol | * Cartref


Gwir Pob Gair

Rhywun ym maes dysgu Cymraeg i oedolion yn cael ei orfodi i ffonio'r Bwrdd Iaith oherwydd ei waith. Mae'n deialu'r rhif i'w swyddfeydd moethus yn Stryd y Santes Fair, Caerdydd. Nid oes ateb.

Mae'n ceisio ffonio eto ymhen rhyw bum munud. Nid oes ateb o hyd. Yr un yw'r stori ychydig wedyn. Er ffonio a ffonio, does dal dim ateb ar ôl awr o geisio cysylltu ag arwyr yr iaith.

Gofynna i gyd-weithiwr iddo geisio ffonio hefyd, ond heb lwc. Mae ffôns y ddau yn dechrau poethi wrth iddynt ill dau ddechrau colli amynedd a ffonio bob yn ail, bob yn ail munud. Nid oes neb yn ateb yn swyddfeydd y Bwrdd Iaith.

Bellach mae'n ffrind yn dechrau pryderu: beth petai rhywbeth wedi mynd o'i le? Beth petai un o yrrwyr afreolus Caerdydd wedi plymio'i gar yn syth i fewn i swyddfeydd y Bwrdd Iaith, a lladd y gweithwyr i gyd? Beth petai achubydd y genedl, Dafydd Êl, wedi ei saethu gan derfysgwyr neu (yn waeth) genedlaetholwyr? Beth petai, och a gwae, yr hartan hir-ddisgwyliedig yna newydd fwrw ein hannwyl John Walter?

Na, diolch i Dduw, ni ddigwyddodd dim o'r fath. Ymhen rhai oriau o ffonio, mae'n cyfaill yn clywed llais bach tawel ar ben arall y llinell.

" 'Elo. Swffeyff y... ymmm, swffeyff y Fwf Iaff..."

"Lle ydach chi wedi bod?" mae'n ffrind yn gofyn yn betrusgar.

"Oooo, jysth dwaw yn y pyb," meddai'r ferch yn sigledig (er mai ond canol y prynhawn oedd hi), "woedd wywun o'r swyffa yn ngadel hefiw..."

Mae'r Mwydyn yn hynod o falch o gael gwybod am y digwyddiad bach yma, gan ein bod bellach yn gwybod i ble aeth grant CYD: i bocedi landlordiaid Caerdydd.

Ac wrth gwrs, mae'r Tafod bob tro yn fwy na hapus i gyhoeddi tystiolaeth o waith diwyd a diflino'r Quango Iaith dros y Gymraeg. Petawn ni'n gallu ffeindio fo...

^ lan |< nol | * Cartref


Cân o Fawl i Hacs Cymru

Fe'n breintiwyd fel Cymry drwy'r oesoedd di ri'
Gan ddewr dywysogion, gwlatgarwyr o fri.

Bu hwythau'r cantorion, yn llawn swyn ar y stêj;
Jac a Wil, Dave Datblygu, Côr y Rhos, Edward H.

Mawrygwn lenorion gyfoethogodd ein llên –
Kate Roberts a Chynan, Bobi Jones, Llywarch Hen.

Ond ein pennaf gyfraniad i wareiddiad y byd
Yw'n newyddiadurwyr a'u doniau llawn hud.

Ni fu hacs ardderchocach ar y ddaear erioed
Er pan ddysgodd ein teidiau wneud papur o goed.

Mae Hafina'n athrylith ac yn lliwgar ei rheg
Wrth bawb sy'n feirniadol o'i ffrind William Hague.

Mae Vaughan yntau'n ddyfal wrth y gwaith hynod bwysig
Yn puro'r Gymdeithas o'i Natsiaeth gwrthnysig.

Ond Clive yw'r pencampwr draw'n ei swyddfa 'Nghaerdydd
A'i fryd ar weld Gwalia o anarchwyr yn rhydd.

Mae nawr wedi cychwyn ar ymgyrch fawr gre'
I gael Cymru i arddel gwleidyddiaeth y Dde.

Dros y Bwrdd Iaith mae'n cenhadu â sêl
Gan ddweud mae'n hachubiaeth yw'r gwych Ddafydd Êl.

Bendith fu cael nwyddiadurwyr mor braff.
Gallwn gysgu yn dawel. Mae'r genedl yn saff.

'Playboy'
(Roedd pennill am Gwilym Owen yn y gerdd hon, ond fe'i dileuwyd wedi ei droedigaeth ddiweddar yn Golwg...)

^ lan |< nol | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar Dachwedd 19eg, 1995.