Y tafod trydanaidd: Gair o'r Gofod

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Cadeiryddol Y Tafod


Gair o Seibr Ofod: Croeso Arbennig i'r Tafod Trydanaidd
Gair o'r Gofod Rhagfyr 95: Rhifyn 262
Gair o'r Gofod Tachwedd 95: Tachwedd 261

^ lan | < nôl | * Cartref


Cadeiryddol Y Tafod Trydanaidd: Gair o Seibr Ofod
Croeso Arbennig i'r Tafod Trydanaidd


Go brin y byddwn i wedi dychmygu flwyddyn yn ôl wrth i Olygydd Y Tafod alw fy ngholofn i yn 'Gair o'r Gofod' ar gorn fy llys enw, Rocet, y byddai'r gair o'r gofod yn datblygu i fod yn Air o'r Seibr Ofod. Ond dyma ni, os oedd Y Tafod yn drydannol o ran ei gynnwys cyn hyn, mae o bellach yn drydannol ei fformat hefyd. Dyma un o'r ychydig prin o gylchgronau Cymraeg ar y We, ac mae Cymdeithas yr Iaith yn falch o allu gwthio ffiniau cyhoeddi yng Nghymru (a thu hwnt!).

Mae hwn yn air arbennig i chi grwydrwyr y We: bydd gweddill y cylchgrawn yr un fath â'r un fydd ar werth yn y siopau ond y bydd hwn ar gael i chi wythnos neu ddwy yng nghynt! Byddwch cystal â manteisio ar gyfleusterau'r We i gysylltu â ni i ymateb i erthyglau neu i sgwennu erthyglau newydd. Yn bwysicach fyth, cysylltwch â ni gydag enghreifftiau o anghyfertaledd ac anghyfiawnderau mae'r iaith Gymraeg yn eu dioddef, boed hynny yn y gwaith neu'r gymuned - mae pob un yn bwysig. Efallai bod Tafod y Ddraig a Chymdeithas yr Iaith yn bur ddieithr i chwi os digwyddoch ddod ar ein traws ni ar hap; os felly, a'ch bod am gael mwy o fanylion gyrrwch at un o'r cyfeiriadau E-Bost, neu'n well fyth llenwch y ffurflen aelodaeth a gyrru honno yn ôl.

Gan fod hon yn fenter newydd fe fyddem yn ddiolchgar o unrhyw gyngor, barn neu syniad newydd. Peidiwch â bod yn swil i gysylltu. Dyna ogoniant y cyfrwng newydd hwn, hwylustod y cysylltiad, cymaint gwell na'r post tost. Edrychwn ymlaen at glywed gennych - mwynhewch weddill Y Tafod.

Arwel Rocet Jones
arwel.jones@llgc.org.uk

^ lan | < nôl | * Cartref


Cadeiryddol Y Tafod: Rhagfyr 1995
Rhifyn: #262


Yn Y Tafod diwethaf roedd na lun pedwar ymennydd a'r lleiaf o'r rhai hyn oedd un Poly Toynby. Gellid cyhoeddi llun pedwar ymennydd yn Y Tafod hwn hefyd a'r lleiaf o'r rhai hynny, gryn dipyn yn llai nag un Toynby, fyddai un Betts. Twpdra rhywun estron diddeall oedd sail anwybodaeth Ms Toynby. Twpdra a dichell bwriadol 'newyddiadurwr' eilradd ddylai, a sydd, yn gwybod yn well oedd sail ymosodiadau rhyfeddol Betts.

Kate dwi'n credu ddywedodd fod y seiding bach rhydlyd yr yda ni ynddo fo, yn ôl Betts, yn seiding bach rhydlyd uffernol o brysur. Un peth gwerth sylwi arno fo dwi'n credu oedd canmoliaeth olsyllol Mr Betts, yn ein galw ni ymysg pethau eraill, yn 'former power house of the Welsh language movement' - chlywson ni erioed mo Betts yn dweud hyn mewn erthygl oedd yn gyfoes a'n grym rhyfeddol ni, fyddai hynny'n rhy beryglus wrth gwrs. Tybed be fydd ganddo fo i'w ddweud amdanom ni heddiw ymhen pum mlynedd neu fwy?

Beth bynnag, pam gwastraffu mwy o ofod ar y dyn bach rhyfedd hwn - digon yw dweud fod ei weithredoedd yn llefaru'n fwy croyw na'i eiriau achos go brin y byddai mudiad mor ddinod a diwerth â'r un ddisgrifir ganddo ef yn ei golofnau werth bron i ddwy dudalen gyfan o 'bapur cenedlaethol Cymru' a Sadwrn cyfan o amser un o newyddiadurwyr mwyaf blaenllaw ei gyfnod (sic).

Fe gododd sawl peth diddorol o gynigion y Cyf Cyff gan gynnwys cyfarfod â phennaeth Radio Cymru. Cewch drafodaeth ar y gwahanol gynigion a chyflwyniad i aelodau newydd y Senedd rhwng cloriau'r rhifyn hwn o'r Tafod. Un peth sydd yn codi yn syth yw'r penderfyniad i newid dyddiad y Cyf Cyff i'r Gwanwyn. Nid yn unig yr yda ni'n awyddus i newid y dyddiad ond hefyd newid ei fformat - os oes gennych syniadau plis peidiwch ag oedi cyn cysylltu â ni.

Os nad ydych chi'n awyddus i gysylltu â ni drwy'r post neu dros y ffôn mae gennych opsiwn arall erbyn hyn, sef defnydio'r E-Bost a'r We. Gallwch ddarllen Y Tafod bellach drwy gysylltu â'r tudalennau yma ar y We - dywedwch wrth eich ffrinidiau i gyd!

Mae'r rhai sydd wedi cychwyn swyddi ar y Senedd o'r Cyf Cyff eleni yn eu swyddi am flwyddyn a hanner, ond ysywaeth nid yw hynny'n wir am y Cadeirydd! Dwi wedi datgan fy mwriad i roi'r gorau iddi yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gwanwyn nesa. Does dim byd sinistr tu ôl i hyn, tydi'r man in a grey anorack ddim wedi awgrymu bod hi'n amser i mi dreulio mwy o amser efo 'nheulu, nac yn wir bod hi'n amser i mi gychwyn un. Tydi Aled ddim wedi ffrwyno holl bwerau'r fall a'r asgell dde i gael gwared â Red Rocket. Yn anffodus mae'r cyfan yn pwyso ar felltith cyflogaeth tymor penodol a'r ffaith bod fy nghytundeb i yn y gwaith yn dod i ben flwyddyn i fis Ebrill a mod i'n awyddus i drio canolbwyntio ar ambell i beth dwi heb ei gyflawni cyn bod fy nhymor i yn y swydd honno yn dod i ben. Roedd hi'n ddewis felly rhoi'r gorau iddi yn y Cyfarfod Cyffredinol diwethaf 'ma neu fentro y byddai'r cynnig ar symud y Cyf Cyff yn llwyddo a bachu ar fy nghyfle i fynd yr adeg honno gan roi digon o rybudd i bawb o'r bwriad hwnnw. Felly dyma fo: rhybudd o bum mis y byddwch chi angen Cadeirydd newydd erbyn diwedd Mawrth!

Ond fe fydd 'na sawl gair o'r gofod cyn hynny!

Hwyl am y tro

Arwel Rocet Jones
rej@aber.ac.uk

^ lan | < nôl | * Cartref


Cadeiryddol Y Tafod: Tachwedd 1995
Rhifyn: #261


Er bod yr Eisteddfod i weld yn bell iawn i ffwrdd erbyn hyn a bod Dolig bron a bod yr un mor agos mi hoffwn gychwyn drwy edrych yn ôl ar yr wythnos boeth honno yn Awst a diolch i bawb fu o gymorth i'w gwneud hi yn wythnos mor lwyddiannus.

Er bod gwleidyddion o bob lliw a llun yn derbyn deisebion mawr a bach yn gyson -- wedi'r cyfan, dydi derbyn deiseb ddim yr un fath a chytuno â hi, dydio ddim ond yn dangos parodrwydd i wrando ar lais carfan o'r boblogaeth -- mae Rod yn gorfod bod yn wahanol. Ond er na dderbyniodd o mo'r ddeiseb i'w law, does dim dwywaith na chafodd o a'i bennaeth y neges yn gwbl glir. Cafodd y ddau bob cyfle i dderbyn y ddeiseb ar faes y 'Steddfod ac yn y diwedd gorfu i ni fynd â'r neges at Rod yn ei swyddfa. Diolch yn fawr i Sioned Elin a Branwen Nicholas am gludo'r neges ar ein rhan ni ac ar ran y miloedd ar filoedd arwyddodd y ddeiseb. Cofiwch gymryd y cam nesa efo'r ddwy ohonyn nhw pan fyddan nhw yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Bae Colwyn yn y dyfodol agos.

Hoffai'r Tafod hefyd groesawu wyneb newydd i blith sylwebyddion gwleidyddol craffaf ein dydd: Richard Llewelyn Wyn Jones, Guto Harri, Huw Edwards, gwnewch le i neb llai, neb craffach na Hefina Clwyd! Braint ac addysg oedd darllen ei sylwadau treiddgar yn y Western Mail yn dilyn yr Eisteddfod -- bechod na fyddent wedi eu cyhoeddi cyn yr W^yl; efallai y gallen ni fod wedi osgoi llawer iawn o helbul. Gresynu oedd Ms Clwyd, ar ran 'miloedd o Eisteddfodwyr', ein bod wedi ymosod ar Mr Hague, 'blondyn bach del efo gwên ddigon o ryfeddod', rhinweddau gwleidyddol sylfaenol yn yr oes sydd ohoni -- well spotted Hefina. Yn ôl Hefs dylsem fod wedi rhoi cyfle i'r gwron hwn sydd 'nid yn cynrychioli y Cabinet yng Nghymru ond yn cynrychioli Cymru yn y Cabinet' i brofi ei werth i ni fel Cenedl. Tybed ai oherwydd ein hymosodiad ni y gwrthododd roi cymhorthdal i ardal Trawsfynydd yntau am ei fod o'n Dori bach ffiaidd sydd yn ddiwerth i wneud dim ond dilyn polisiau'r Trysorlys i daflu ardal allweddol o gefn gwlad Cymru ar y clwt? Diau na all Ms Clwyd gysgu'n dawel yn y sicrwydd ei bod hi wedi ein rhybuddio ni am gamweddau ein gweithredoedd.

Ond mae na reswm tu ôl i feirniadaeth Hefina. Y rheswm am gyfeiriad gwyrdroedig y Gymdeithas yw ein bod yn cael ein harwain gan 'griw o eithafwyr ynghlwm wrth werthoedd y saithdegau'. Roeddwn i'n ddyflwydd yn 1970 ac roedd fy nau Is-Gadeirydd rhywle yn y minws. Oes ma na rai 'hen wynebau' yn dal o gwmpas. Pa fudiad sydd heb ei hen wynebau? Pa fudiad fyddai'n meiddio dibrisio yr hen wynebau hynny? Mae pob mudiad yn gwerthfawrogi eu hen wynebau ynghanol llanw a thrai yr aelodaeth gyffredinol a tydi Cymdeithas yr Iaith yn ddim gwahanol i hynny. Cymaint mwy ydi'n parch ni at unigolion fel Ffred, Toni ac Angharad nac at bysgod aur byr eu cof a llac eu gafael ar egwyddor fel Rhodri Williams.

A dyna ateb un arall o'n beirniaid ôl eisteddfodol, y Bnr Harri Pritchard Jones, oedd yn cwyno am yr hen wynebau bondigrybwyll! Ga'i ychwanegu dau sylw. Yn gyntaf, er ei fod yn aelod ers deng mlynedd ar hugain (ei eiriau o), mae ei wyneb o yn ddigon dieithr i rengoedd gweithredol y Gymdeithas i gael ei gyfri'n wyneb newydd, ac yn ail os ydio am werthfawrogi talent newydd mewn unrhyw faes darllened fyfyrdodau gwleidyddol Hefina Clwyd.

Arwel Rocet Jones
rej@aber.ac.uk

^ lan | < nôl | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar Dachwedd 3ydd, 1995.