Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Democratiaeth, bu Alun Llwyd yn siarad yn y Cyfarfod Cyffredinol am weledigaeth Cymdeithas yr Iaith o Ryddid i Gymru. Dyma'r hyn oedd ganddo i'w ddweud.
Mae dyddiau datganoli grym yn dod yn nes. Dwn i ddim os ydach chi wedi sylwi hefyd ond mae bellach yn ymddangos yn ddoethach i baratoi ar gyfer datganoli yn hytrach na chanoli grym. Mae pawb wrthi yn datgan ei faniffesto yn barod i hawlio ei le neu ei lle yn y Gymru newydd. Ond yn niffyg syniadau eraill, mae'r bobl sydd am ein llywodraethu wedi penderfynu defnyddio'r drefn bresennol fel cynsail - ac o ganlyniad mae siâp yr hunan-lywodraeth arfaethedig yn dod yn haws ei adnabod.
Mae'r pleidiau yn amlwg wrthi. Mae Llafur yn paratoi i'n argyhoeddi na fydd Quangos yn Quangos os ydyn nhw'n llawn o bobl Lafur. Mae Plaid Cymru yn ymdrechu'n galed i fachu ei lle wrth y bwrdd mawr newydd yn y gobaith y bydd hwnnw'n Ewropeaidd ei natur. Ac mi rydan ni ynghanol y cyfnod hwnnw jyst cyn i'r dydd oleuo lle mae pob dim afreal yn edrych yn gwbl real a rhesymol. Dim ond i ni gael gwared â'r Toriaid, mi fydd popeth yn iawn ac mi ddaw democratiaeth yn rhan o'n bywydau. A dwi'n amau dim bod coelio hynny yn beryclach na chyfarfod DML ar noson dywyll wrth weiddi nad oes angen Cymdeithas yr Iaith bellach. Achos mae DML yn gwybod nad cael gwared â'r Toriaid ydi'r ateb i'n problemau ni.
Os baswn i'n rhoi darn o bapur i chi a gofyn i chi sgwennu eich 'fantasy league' hunan-lywodraeth Cymru - pwy fasa yn eich cabinet chi? John Walter (PM), Rhodri Glyn Jones (Trade and Industry efo Portfolio Small Businesses), Robin Gwyn (Youth and Culture), Eleri Carrog (the Welsh Language), Aled Glynne (National Heritage), Lyndon Jones (Chancellor)... Ydi, mae o'n jôc ac mae o'n gêm. Ond mae na wers yna i chi, blant.
Mi roedd cynnig bore yma ynglyn â chyfrifoldebau yr awdurdodau unedol newydd yn bwysig am ei fod yn gosod y cyfrifoldeb reit ar y gwaelod. Nid poeni am y statws, nid poeni am yr aelodaeth ond poeni sut yr oedd grym am gyrraedd y cymunedau. A dwi yn poeni bod y nod hwnnw yn diflannu o'r gôl hollbwysig honno a elwir yn ddatganoli grym. Wedi'r cyfan, o lle mae'r galw am ddatganoli grym wedi dod? Gwleidyddion? Quangos? Cymunedau Cymru? Cofiwch fod gan y tair carfan yna resymau gwahanol dros alw am ddatganoli grym. Dibynnu ar eich siniciaeth, ond a bod yn glên am change, mae'r gwleidyddion yn mynnu oherwydd eu rhwystredigaeth gyda'u hanallu i newid y sefyllfa, mae'r Quangos yn mynnu er mwyn diogelu a chynyddu eu safle eu hunain. Ond mae'r cymunedau yn mynnu achos eu bod nhw'n dioddef ac yn methu gwneud dim oll ynglyn â'r peth.
Yn ein sefyllfa bresennol fydd hunan-lywodraeth yn datrys dim. Coron ar drefn annemocrataidd fyddai hi. Ac mae hi yn fy mhoeni i bod yr angen i newid y drefn lywodraethol o'r gwaelod i fyny yn dechrau cael ei anghofio ar ein crwsâd i agor yr adeilad newydd hwnnw yng Nghaerdydd. Dyna pam bod y cynnig yna bore yma yn bwysig - am ei fod yn gosod cyfle i ni rwan. Yn y cynnig yna mae'r seiliau ar gyfer dymchwel y Quangos, seiliau ar gyfer datblygu democratiaeth yng ngwir ystyr y gair, a seiliau i ddangos ein bod yn barod am hunan-lywodraeth. Y perygl mwyaf i ni fyddai caniatáu i'r Bwrdd Iaith, Tai Cymru, Quangos Addysg ac yn y blaen fynnu cael hunan-lywodraeth. Achos sail yr hunan-lywodraeth hwnnw fyddai parhad eu rheolaeth hwy. A dydi'r ffaith mai Dafydd Wigley neu Ron Davies fyddai'n bennaeth ar y Quangos hynny ddim yn gwarantu y byddai'n ateb y broblem. Mi fyddai'r grym yn dal yn styc ar y top ac mi fyddai'r trydydd o'r tair carfan yna enwais i yn gynharach yn dal i drïo dyfalu lle aethon ni'n rong.
Dydi democratiaeth ddim yn golygu cael yr hawl i anfon Cynog i Gaerdydd yn lle Llundain. Mae democratiaeth ynghlwm â rhoi'r grym yn ôl yn nwylo cymunedau. Mae'n golygu bod y gymuned gyfan yn rheoli tai, addysg, iaith, diwylliant ayyb. Mae'n golygu bod popeth yn cael ei reoli yn lleol er budd pobl leol. Drwy ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith mae'r nod yna yn gyffredin - Deddf Eiddo, system addysg annibynnol, Deddf iaith o werth - felly dydi'n galwadau yn ddim byd newydd. Yr hyn sy'n radical amdanynt ydy ein bod ni'n datgan mai yn lleol y dylid rheoli ac nad yw cael pencadlysoedd - yn Llundain na Chaerdydd - yn ateb yr anghenion. Ac mae'r diffiniad yna'n bwysig, achos mi ddaw y dydd pan fydd y Bwrdd Iaith ayyb yn galw am hunan-lywodraeth, pan fyddan nhw'n sylweddoli y ca'n nhw lawer mwy o fudd o gael ei rheoli gan Senedd Gymreig. Yr her fawr sy'n ein wynebu rwan ydi dangos na fydd lle i Quangos yng Nghymru'r dyfodol. Na fydd angen Tai Cymru gan y bydd cyfrifoldeb tai yn nwylo cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol; na fydd angen Quangos addysg gan y bydd yna system addysg annibynnol ac na fydd angen Bwrdd Iaith oherwydd y bydd deddf iaith fydd yn dod â dwyieithrwydd yn naturiol.
Wrth gwrs y bydd yna gyrff canolog i gydlynu polisi a chyllidebau, ond cyrff i ateb gofynion y cymunedau fydd rheiny. Mi fydd trefn y Quangos wedi eu diarfogi. Mi fydd gan gymunedau Cymru yr hawl i ddweud wrth John Walter Jones am bacio ei gês. Am y tro cyntaf mi fydd y bobl yn y cyrff newydd yma yn atebol. Ac iddyn nhw, dydi bod yn atebol ddim hanner mor secsi â bod yn unben.
Bob Cyf Cyff bellach dwi'n teimlo 'mod i'n crybwyll Golwg a dydi eleni ddim yn eithriad. Eleni dwi isio diolch i Golwg am gymryd un o gynigion y Cyf Cyff, ffonio pobl i ffeindio gwrthwynebiad, ac yna creu 'rhwyg' yng Nghymdeithas yr Iaith ar dudalennau hardd eu cylchgrawn nhw. Does na ddim gwrthdaro na gwrthddweud yn ein maniffesto a'n neges ni. Does na ddim anghysondeb yn y ffaith 'mod i'n aelod o Bwyllgor Democratiaeth o fewn Cymdeithas yr Iaith.
Democratiaeth ydi hawl cymunedau i reoli eu dyfodol eu hunain.
Iaith fyw ydi iaith sy'n amlwg ac yn cael ei siarad yn y cymunedau hynny.
Iaith yn perthyn i bawb ydi gallu siarad a defnyddio a gweld y Gymraeg heb wneud cais penodol am hynny.
Iaith yn perthyn i ychydig ydi cae Steddfod, S4C ac ychydig sefydliadau eraill.
O dan drefn y Quangos mae'r iaith yn perthyn i ychydig. Drwy'n ymgyrchoedd ni mi fydd yr iaith yn perthyn i bawb.
Dydi'r drefn bresennol o roi y Gymraeg yn nwylo rhai unigolion ddim yn ei diogelu na'i datblygu. Ac os mai newid y drefn ydi'r unig ffordd o newid hynny yna mae'n amlwg mai dyna'r unig ddewis sydd gan rhywun. Yr unig iaith mae genna'i ddiddordeb mewn ymgyrchu drosti ydi iaith sydd yn fyw o fewn cymunedau. Does genna'i ddim diddordeb mewn iaith sy'n lythyr i ofyn ffafr gan y Bwrdd Iaith.
Ac mae iaith y Gymdeithas yn dychryn ein targedau; yn dychryn y bobl sydd ers rhai misoedd yn ffurfio eu llywodraeth fach eu hunain i gynnal y status quo. Achos mae'n hymgyrchoedd ni yn bygwth eu byd bach nhw. Mae'n hymgyrchoedd ni yn dwyn y grym oddi arnyn nhw - yn golygu na allan nhw wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar ein bywydau heb ymgynghori. Mae'n golygu mai'r rheswm dros y penderfyniadau hynny fyddai budd cymunedau Cymru, nid y status quo presennol. A phan mae hynny'n digwydd dydi cymryd y penderfyniadau ddim hanner mor atyniadol iddyn nhw ac yr oedd o.
A diolch i'r Tôris mae'r cyfle i wneud hynny yn cychwyn gyda'r awdurdodau lleol newydd y mae nhw wedi eu creu. Mae gan yr awdurdodau yma y cyfle i ailfeddiannu grym. Fel mae portread Golwg (mensh no. 2) o Rocet yn ei ddweud mai "gyrru dogfen bolisi sych at awdurdodau lleol" y mae'r Gymdeithas - ond mae'r potensial yma, yn y flwyddyn nesaf, o weddnewid sut mae Cymru yn cael ei rheoli.
Mi oedd Golwg yn iawn ar un mater - mi ydan ni'n cael ein hynysu. A dydi hi ddim yn gofyn am frên anhygoel i sylweddoli pam. Bellach mae'r holl bobl oedd yn ffurfio unrhyw fath o 'ffrynt' dros y Gymraeg yn ystod yr 80au wedi penderfynu mai'r ffordd orau o barhau â'r frwydr yw trwy geisio dwyn eu darn bach o rym oddi fewn i'r drefn bresennol. Anghofiwn y sylw roddwyd i'r datganiad "mae'r frwydr drosodd" oherwydd celu datblygiad llawer mwy brawychus y mae hynny. Dwi'n gosod her i'r pleidiau ac i'r holl bobl sydd wedi datgan bod y Gymdeithas ar y llwybr anghywir - dros be ydach chi'n sefyll bellach? Oherwydd o be wela' i, mi rydach chi dros Gymraeg sydd wedi ei hysgaru o'i gwreiddiau cymunedol a thros Gymraeg fydd heb unrhyw rym yn y dyfodol. Sylweddoliad pwysicaf Cymdeithas yr Iaith oedd gweld na ellid ysgaru'r iaith o'i chyd-destun economaidd a chymdeithasol. Hyd yn oed ym 1995 dydi hynny ddim yn bosib - os rhywbeth mae'n bwysicach fyth. I'n beirniad ni mae'r cwestiynnau yr un mor berthnasol - beth sydd wedi newid? Pwy sydd wedi newid? Agenda pwy sydd wedi newid? Pan mae sefyllfaoedd fel hyn yn codi, mae'r ffaith ein bod wedi ein hynysu yn siarad cyfrolau; ond nid amdano ni.
Y peth pwysicaf y gallwn ni ei wneud rwan yw parhau gyda'n polisïau a'n hymgyrchoedd, gan wybod fod yr hyn yr ydan ni yn ei wneud yn mynd i newid pethau. Nid er mwyn newid pethau er mwyn newid; nid er mwyn cael ymwneud â chyfalafiaeth; nid er mwyn cael rhwygiadau - ond er mwyn sicrhau bod gennym ni iaith fyw, nid yn ddibynnol ar ffafrau a chonsesiynau, ond yn fyw o fewn cymunedau a bod y grym i gadw'r sefyllfa yna yn nwylo'r cymunedau eu hunain.
Ydi, mae'r beirniaid yn uchel eu cloch ar hyn o bryd, ond mae nhw'n deall bod ein hymgyrchoedd ni bellach yn aeddfetach. Dwi'n aros yn eiddgar i weld pa un o'r beirniaid yna fydd y cyntaf i ddatgan ein bod wedi'n hynysu gan bobl sydd â'u buddiannau personol ynghlwm ym machau'r drefn bresennol.
Dwi'n gofyn eto. Pwy sydd wedi newid? 'Dros iaith a chymuned' oedd slogan Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar ddechrau'r wythdegau.
Alun Llwyd