Y tafod trydanaidd: Erthyglau

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Diwrnod i'r Frenhines:
Twll Tîn i'r Cwîn


Mae nhw wrthi fel lladd nadroedd yn y Llyfrgell Genedlaethol. Pawb wrthi yn eiddgar awyddus yn paratoi ar gyfer ymweliad Ei Mawrhydi Elizabeth Windsor ar Fai 31ain. Daw yno i agor ail estyniad y Llyfrgell, a'r Cyfarwyddwr Gweinyddol Mr Maiwaring, aelod brwd o Fyddin yr Iachawdwriaeth, sy'n dweud fod pawb wrth eu bodd.

Ychydig wyr Mr Mainwaring am dueddiadau gwleidyddol ei staff. Mae llawer ohonynt wedi arwyddo llythyr agored at swyddogion y Llyfrgell yn gofyn iddyn dynnu'r gwahoddiad yn ôl a chynnig yr anrhydedd i rhywun mwy cymwys. Rhywun sydd wedi gwneud defnydd o adnoddau'r Llyfrgell er mwyn cyfoethogi bywyd ein cenedl.

Pan ddaeth taid y Frenhines yma ddechrau'r ganrif i osod carreg sylfaen y Llyfrgell roedd pawb yn Frenhinwyr pybyr. Gellir dweud fod hynny yr un mor wir pan alwodd ei thad heibio yn 1937. Bu'r Frenhines ei hun yma yn 1955 a phe bai aelod o'r staff wedi meiddio beirniadu'r ymweliad fe fyddai wedi colli ei swydd yn y fan ar lle.

Yr ymweliad brenhinol o bwys gafwyd yn Aberystwyth ddiwethaf oedd yn 1969 pan ddaeth ddaeth Charles i'r Brifysgol lle gwnaeth ymdrech llai na llwyddiannus i ddysgu Cymraeg. Bryd hynny Cymdeithas yr Iaith oedd ar flaen y gad yn yr ymgyrch yn erbyn yr Arwisgo. Digon dirmygus oedd trigolion y dre o'n safiad. Erbyn hyn mae pethau wedi newid yn arw. Cynrychiolir Ceredigion yn y Senedd gan Aelod Seneddol Plaid Cymru ac mae caffis y dre yn llawn o bobl ifanc radicalaidd sy'n trafod syniadau gweriniaethol. Mae'r bobl hynny oedd yn ein gwawdio yn '69 heddiw yn dod atom ar y stryd ac yn ein llongyfarch am gymryd safbwynt gwrth-frenhinol.

Gwrthwynebir yr ymweliad am sawl rheswm. Mae Gorsedd Lloegr yn sumbol o undod Prydain Fawr. Undod y mae trwch etholwyr Ceredigion am ei weld yn llacio ac yn darfod. Mae'r goron yno i'n hatgoffa bob dydd mai cenedl wedi ein goresgyn ydym. Yn ail mae'r frenhiniaeth yn arwydd o'r diffyg democratiaeth yn ein gwlad, yr annhegwch cymdeithasol ac amharodrwydd y drefn wleidyddol i addasu a moderneiddio. Yn olaf mae'r frenhines ei hun yn berson cwbl anghymwys i'r gwaith o agor estyniad y Llyfrgell gan ei bod yn greadures cwbl ddiddiwylliant -- un o philistiaid amlycaf Prydain. Ni fydd yn mynychu na chyngerdd nac opera. Nid yw'n mynd i'r theatr na'r bale ac nid yw'n darllen llyfr os nad yw'n digwydd bod am ei hoff bwnc -- marchogaeth ceffylau. Yn ôl Philip ei gŵr nid oes ganddi ddiddordeb mewn dim os nad yw'n rhechu a bwyta glaswellt.

Dylai'r anrhydedd o agor y Llyfrgell fynd i rhywun sydd wedi cyfoethogi ein bywydau. Mewn llythyr yn Y Cymro mae'r Athro DJ Bowen (un sy'n haeddu'r anrhydedd ei hun) yn cynnig enw Meredydd Evans. Clywais enwau R S Thomas, Dr John Davies, Mari Ellis a K O Morgan yn cael eu hawgrymu hefyd.

Nid Elizabeth yw'r wraig i gyflawni'r dasg. Ar ôl iddi agor yr estyniad gall fynd lawr i'r promenâd at y mulod bach. O wybod am ei chefndir bydd yn llawer hapusach yn eu cwmni hwy nac yng nghwmni'r Llyfrgellwyr.


Cofiwch am y penwythnos o ddathlu llawen yn Aberystwyth wrth i'w Mawrhydi ymweld â'r dref -- penwythnos Twll Tîn i'r Cwîn, a gynhelir yn y Cwps. Y prif ddigwyddiadau fydd:

Nos Wener, Mai 31ain

Bob Delyn a'r Ebillion

Nos Sadwrn, Mehefin 1af

Geraint Lövgreen a'r Enw Da

Cyhoeddir mwy o fanylion yn agosach at y dyddiad!

Mae'r Frenhines eisoes wedi cael gwahoddiad, ond yn anffodus, ni fydd yn gallu mynychu, er ei bod wedi dymuno pob llwyddiant i'r digwyddiadau!

^ lan |<nol | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar Ebrill 22ain, 1996.