Y tafod trydanaidd: Erthyglau

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Cysylltiadau Rhyngwladol


NÔL O NICARAGUA

Mae dirprwyaeth Gymreig -- nifer ohonynt yn aelodau o Gymdeithas yr Iaith -- wedi cyrraedd yn ôl o Nicaragua wedi ymweliad pythefnos â'r wlad.

Treuliwyd wythnos ar arfordir yr Atlantig, lle buont yn ymweld â chymunedau diarffordd iawn. Dyma'r tro cyntaf i unrhyw Gymry deithio cyn belled i'r Rio Grande, a threuliwyd noson ym mhentref Karawala. Er fod tlodi eithafol ymysg y bobl hyn, cafwyd croeso cynnes, ac o ddiddordeb arbennig i'r Cymry oedd gweld y prosiect dwyieithog ar waith mewn ysgolion. Tan yn ddiweddar, dim ond addysg Sbaeneg a ganiatawyd, ond dan y cynllun hwn, caiff plant addysg mewn Saesneg, Creole, Miskito ac ieithoedd ethnig eraill. O ganlyniad i haelioni pobl Cymru, dosbarthwyd papur, pensiliau a llyfrau i naw ysgol oedd wedi eu hamddifadu bron yn llwyr o ddeunydd addysgol.

Codwyd dwy fil o bunnau mewn cyfraniadau, a'r bwriad yw gofyn i Lys-gennad Prydain yn Nicaragua i ddyblu'r swm ar gyfer prosiectau ar yr arfordir. Ddwy flynedd yn ôl, cafwyd cyfraniad gan y Llys-gennad i helpu gyda'r cynllun i gynhyrchu llyfr o chwedlau i blant yr arfordir, a dosbarthwyd copïau i'r Cymry. Meddai Angharad Tomos, "Mae rhoi chwedlau i blant yn eu mamiaith yn sylfaen gref i'w hunaniaeth a'u hyder."

Pan ymwelodd y ddirprwyaeth gyntaf â Nicaragua ym 1994, roedd sôn am sefydlu Prifysgol yn Bluefields, ar arfordir yr Atlantig. Uchafbwynt yr ymweliad yma oedd gweld y Brifysgol wedi ei hagor a chyrsiau yn cael eu cynnig mewn coedwigaeth a bioleg y môr. Enwyd y Brifysgol yn URRACAN, wedi corwynt mawr 1988. Mae mwy nag un aelod o'r ddirprwyaeth, sydd ar staff Prifysgol Cymru, wedi mynegi awydd i ddychwelyd i Bluefields i dreulio cyfnod fel darlithwyr yn y Brifysgol. Meddai un ohonynt, "Mae gobaith y bobl yma yn wyneb anawsterau fil yn ysbrydoliaeth inni. Mae pob ymdrech fechan yn help, ac mae gan Gymru gyfraniad pendant i'w gynnig."

Cymru yw'r wlad gyntaf yn Ewrop i wneud cysylltiadau ffurfiol â Phrifysgol Urracan.

Gan fod deg o ferched ar y ddirprwyaeth, cafwyd seminar i fenywod Nicaragua a Chymru drafod yr hyn sy'n debyg rhyngddynt. Roedd hyn yn ddilyniant i seminar debyg a gynhaliwyd ym Mangor y llynedd. Y bwriad y flwyddyn nesaf yw anfon dirprwyaeth o ieuenctid o Gymru ac mae rhai eisoes wedi rhoi eu henwau ar gyfer ymweliad '97.

Wedi'r ymweliad yma, mae mwy o ddiddordeb nag erioed yn cael ei ddangos gan Gymru yn Nicaragua, ac mae cynlluniau ar droed i gael uned yn yr Eisteddfod. Yn ei anerchiad ar ddydd Gwyl Ddewi, saith mil o filltiroedd o Gymru, dyma oedd neges Ben Gregory, Ysgrifennydd NSC Cymru: "Byddwn yn gwylio canlyniadau etholiadau Nicaragua yr hydref hwn gyda diddoedeb mawr. Credwn yn bendant fod dyfodol y cymunedau hyn yn dibynnu ar fuddugoliaeth y blaid sosialaidd, yr FSLN."

Y rhai aeth ar yr ymweliad oedd Branwen Nicholas, Charlotte Williams, Huw Gwyn, Angharad Tomos, Llinos Non Parri, Elin Haf Gruffydd Jones, Denzil John, Ben Gregory, Shan Ashton, Sheila Bennell, Sandra Sherwood, Pat Daniel a Sara Harman.

Bydd erthygl ar eu profiadau yn ymddangos yn Y Tafod cyn bo hir.

^ lan |<nol | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar Ebrill 23ain, 1996.