Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang
Daeth cyfnod Arwel Jones ('Rocet' i'w ffrindiau) fel ugeinfed Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith i ben yn y Cyf Cyff ar Fawrth y 23ain '96. Aeth Y Tafod i gael gair ag ef...
Steddfod Genedlaethol Llangefni 1983.
Roedd Huw Gwyn wrthi'n llwgu ei hun, neu ar fin cerdded o Langefni i Gaerdydd neu rhywbeth; naill ffordd neu'r llall ro'n i'n recnio na fydda fo o gwmpas yn hir iawn a'i bod hi'n saff i mi ymaelodi -- ysywaeth ...
Na o ddifri dwi ddim yn gwbod. Chwilfrydedd? Greddf? Yn sicr doedd o ddim yn beth oedd pawb yn yr ysgol yn 'neud, felly doedd o ddim yn ffasiynol a doedd ddim yn beth oedd yn cael ei ddisgwyl ohona'i gan unrhyw aelod arall o 'nheulu.
Yn yr oed yna dwyt ti ddim yn gallu dadansoddi rhyw lawer arnat ti dy hun, jest bod. Mae'n debyg mod i wedi bod yn tipyn o Nashi ers blynyddoedd.
Y refferendwm, sgwâr Llangefni ar ôl ethol Keith Best yn 1979 a chyfarfod cyhoeddus i gefnogi Gwynfor yn ei safiad dros Sianel ydi rhai o'r 'profiadau mawr' cynta dwi'n cofio eu cael, a gan nad oedda ni yn deulu am fynd o steddfod i steddfod mae'n debyg mae steddfod Llangefni a champio yng ngardd gefn Anti Jini oedd un o'r cyfleoedd cynta ges i i ymaelodi. Beth bynnag, i ateb y cwestiwn, wn i ddim, yr unig beth wn i ydi nad ydw i ddim yn difaru am eiliad!
Fe'm ganwyd i yn 1968. Roedd hwn yn gyfnod o chwilfrydedd mawr ynglŷn â'r gofod, yn enwedig yn Rhos-y-bol am fod un o hogia'r pentra, Glyn Pen Parc, yn un o brif hogia'r orsaf yn Cape Canaveral. Roedd mam yn yr ysgol efo Glyn Pen Parc, oedd wedi crwydro mor bell o'i filltir sgwar, ac roedd hithau'n gwylio'r teledu bob nos i weld y datblygiadau diweddara yn y ras am y gofod. Ac fel mae rhai merched wrth ddisgwyl plentyn aeth hi'n eitha obsesd efo'r holl beth.
Pan anwyd fi roedd dad wrthi'n priddo rhesi tatws ac yn rhoi pricia i ddal y pys -- gweler ei ddyddiadur am 7 Mehefin 1968 -- a phan gyrhaeddodd o'r sbyty'r noson honno roedd mam eisoes wedi dechrau 'ngalw i'n Canaveral Jones (CJ i'm ffrindiau yn y ddau gryd bob ochr i mi). Rwan, roedd hi wedi blino ac ar ôl dadlau tipyn bach fe lwyddodd dad i ddal pen rheswm a chael mam i 'ngalw i'n Arwel (ddim yn anhebyg i Canaveral ar ôl saith awr o epidurals). Dychwelodd dad at ei ei datws a'i bys a phan aeth o i nôl y ddau ohona ni adra o'r sbyty ar y 15ed fe ddigwyddodd sylwi ar y tystysgrif geni. Roedd mam wedi cadw at yr Arwel ond mewn cam proffwydol ar ei rhan hi fe roddodd enw cynta i mi, Rocet. Pan fydd eich plant chi, ynghanol y ganrif nesa, yn galw eu plant nhw yn Rocet a Shuttle a phethau cyffelyb fe fyddwch chi'n meddwl am mam. A Rocet fûm i byth ers hynny, ac fel pawb arall, allai ddim newid fy enw yn hawdd iawn. R Arwel Jones sydd ar fy ngardiau credyd i -- wel fyddech chi'n rhoi credyd i rhywun o'r enw Rocet?
Wel nes ti ofyn!
Sylweddoli y teyrngarwch sydd yna i'r mudiad rhyfedd hwn da ni'n perthyn iddo fo. Yng ngwyneb ymosodiadau rhyfedd a di-sail o bob math o gyfeiriadau roedd pobl yn tynnu at ei gilydd ac yn dangos eu hymrwymiad i egwyddorion sylfaenol oedd ymhell tu hwnt i unrhyw feirniadaeth, o ble bynnag deuai hwnnw. Mewn cyfnodau llwm ac annodd mae teyrngarwch yn rhywbeth sy'n dod i'r amlwg fel clapiau o aur mewn rhidyll. Da ni yng nghanol cyfnod felly ac mae'r aur i'w weld ymhobman o'n cwmpas ni.
Er mod i wedi gwneud llond Chevette glas o'r enw Fflem o bethau gwallgo, pentwr go fawr o bethau gwyllt a llond casgen o bethau gwirion, a phob tro mae rhain yn cyfuno i fod yn wallgo gwyllt a gwirion bost elli di fentro bod Branwen ac Angharad nepell i ffwrdd; er mod i wedi gneud tomen o betha gwirion, y gwir ydi, a dwi yn meddwl hyn o ddifri, dwi ddim yn credu mod i'n difaru gwneud dim erioed. Heblaw trïo stopio tacsi yn Aberystwyth unwaith efallai ... ond stori arall ydi honno. A beth bynnag, dwi'n dal i neud petha gwirion felly fydd rhaid i chi ddisgwyl hanner can mlynedd arall cyn cael ateb iawn i'r cwestiwn!
Mered
Cwestiwn annheg iawn! Dwi'n cymryd mod i'n cael ateb o leiaf un o bob un.
Er bod Maya Angleou, Geralllt Lloyd Owen, R.S. Thomas, Steve Eaves a llawer iawn mwy yn y ras, Waldo sy'n ennill bob tro. Pa un cerdd? Anodd iawn a gan nad oes rheolau mi ddewisa'i ddau ddyfyniad o leia.
Pwy sydd yn galw pan fo'r dychymyg yn dihuno?
Cyfod, cerdd, dawnsia, wele'r bydysawd.
Pwy sydd yn ymguddio ynghanol y geiriau?
Yr oedd hyn ar Weun Parc y Blawd a Parc y Blawd.
(Mewn Dau Gae)
Beth yw byw? Cael neuadd fawr
Rhwng cyfyng furiau.
Beth yw adnabod? Cael un gwraidd
Dan y canghennau.
Beth yw credu? Gwarchod tref
Nes dyfod derbyn.
Beth yw maddau? Cael ffordd trwy'r drain
At ochr hen elyn.
Beth yw trefnu teyrnas? Crefft
Sydd eto yn cropian.
A'i harfogi? Rhoi'r cyllyll
Yn llaw baban.
Beth yw bod yn genedl? Dawn
Yn nwfn y galon.
Beth yw gwladgarwch? Cadw tŷ
Mewn cwmwl tystion.
Beth yw'r byd nerthol mawr?
Cylch yn treiglo.
Beth yw'r byd i blant y llawr?
Cryd yn siglo.
(Pa Beth yw Dyn?)
Petae ti'n gofyn pa un llinell sy'n mynd trwy fy meddwl i ar adegau anodd, yna Steve fyddai ar y blaen efo'r geiriau 'tyrd allan i ddawnsio'n y glaw a chodi dau fys ar y byd'. Mae Steve yn dynn wrth sodlau Waldo pan ddaw hi at ysbrydoliaeth. Ond 'Cymru'n Un' ydi y gerdd a hynny fwy neu lai am ei llinell gyntaf a'i llinell olaf. 'Ynof mae Cymru'n un. Y modd nis gwn' ... a'r hyn ddylai fod yn arwyddair i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg 'Gobaith fo'n meistr: rhoed amser inni'n was.'
Sori! Nid llyfr ond llyfrau. Hynny yw, ag eithrio 'Dail Pren'. Cyfres hunangofianol maya Angelou sy'n cychwyn efo'r llyfr sgytwol hwnnw 'I Know Why the Caged Bird Sings'. Gyda llaw, mae ganddi gerdd o'r un enw ac mae honno ymhlith fy ffefrynnau hefyd!
Cân. Meic, Christy ... ond Steve sydd ar y blaen eto bron yn ddieithriad Mae ehangder y sbectrwm o Viva Reveloution Galesa i Croen Denau yn rhyfeddol. Rhywbeth ar gyfer bob dydd o'r flwyddyn. Ond mae na eithraid, a 'Chwysu fy hun yn oer' gan Hefin Huws ydi honno.
Pam fod rhaid i bob blydi cwestiwn fod yn yr unigol? Un gair! Geiriau! Gwallgo gwyllt a gwirion bost wrth gwrs. Mae rheina i gyd ar wahan yn golygu yr un peth bron, ond efo'i gilydd mae nhw'n golygu rhywbeth cwbl wahanol! 'Rhyfedd' ydi'r un gair fyddwn i'n ddewis -- er gwell ac er gwaeth, does na'r un mudiad mor rhyfedd â Chymdeithas yr Iaith!
Leciwn i weld Cymru yn dysgu unwaith ac am byth na enillwn i ddim byd dan y Saeson. Tydi cael 'ffafrgarwyr llariaidd eu gwên yn lle gwr' ddim wedi gweithio i ni hyd yma a weithith o ddim byth. Rhaid i ni anghofio'n gwaseidd-dra boed hynny'n sedd ar Quango Iaith neu'n wahoddiad i'r Frenhines i agor ein Llyfrgell Genedlaethol. Mae'r Quango iaith yn gorfod bod am fod y Saeson yn ein gweld ni fel Cenedl is-raddol. Mae'n Llyfrgell Genedlaethol ni yn cael grant cyn lleied ag ambell Lyfrgell Brifysgol yn Lloegr am fod y Saeson yn ein gweld ni fel Cenedl israddol. A be da ni'n neud? Gwasanaethu ar eu Quangos nhw a gwahodd pennaeth eu gwladwriaeth nhw i be ddylai fod yn un o brif seremonïau'r Genedl yn y gobaith y gwnaiff pethau wella!
Ella bod llawer o'r bobl yma'n dyheu am weld pethau'n newid ond eu bod nhw'n dewis gadael y gwaith i bobl eraill. Fatha ma mam, a phob rhiant arall am wn i, wastad yn deud 'dwi yn cytuno efo Cymdeithas yr Iaith ond pam fod rhaid i fy mab i dorri'r gyfraith?'
Mae diwedd y fileniwm yn swnio'n bell i ffwrdd; tydi o ddim. Fel dywedodd rhywun rhywdro mae'r mileniwm hwn wedi rhychwantu Hywel Dda a Hywel Gwynfryn! Tipyn o ddirywiad! Penderfyniad pob unigolun ydi mynd allan i 'ddawnsio'n y glaw a chodi dau fys ar y byd' ac os ydi 'gobaith inni'n feistr ac amser inni'n was' fe allen ni ddweud 'os nad nawr pryd? Os nad fi pwy?' a phenderfynu cefnu ar waseidd-dra, dioddef y canlyniadau, dysgu tri hoff ddyfyniad Rocet a mynd allan a gwneud rhywbeth am y peth!
Bydd y golofn achlysurol hon yn gofyn cwestiynau yr un mor dreiddgar i Gadeirydd newydd y Gymdeithas, Gareth Kiff, y tro nesaf...