Y tafod trydanaidd: Erthyglau

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Mr Mwydyn
Rhifyn 264

Peidiwch â chredu yr hyn 'da chi'n darllen yn y papurau...

O, helo, su' mae? Da chi nôl yn barod? Dwi di cael mis bach tawel o ddarllen y papurau, ac wedi sylwi ar ambell i erthygl difyr iawn...

O'r Western Mail ar Chwefror y 29ain -- mae'r Blaid Geidwadol mor desprêt am bres gyda brwydr etholiad cyffredinol ar y gorwel fel eu bod wedi hed-hyntio Trysorydd y Gymdeithas, Lyndon Jones, i gynnig help...

Adroddiad papur Newydd

O'r Melody Maker ar Fawrth y 6ed -- yn ôl y Super Furry Animals, mae Alun Llwyd wedi bod yn weithgar iawn heb yn wybod i ni...

Adroddiad papur Newydd


Y Gornel Cerddi
Ta Ta, Rocet; Rocet, Ta Ta...

Cerdd ffarwél i Rocet wrth iddo ddweud Ta Ta i'r gadair...

Mae'n mudiad yn galaru,
Mae deigryn ar bob rudd.
Paham yr holl wylofain?
Paham fod pawb mor brudd?

Mewn tristwch rhaid ffarwelio
Ag Arwel Jones y bardd,
Cadeirydd tra urddasol,
Y llanc â wyneb hardd.

Ers dyddiau y Llyw Olaf,
A'r milwr dewr Glyndwr,
Ni welodd Cymru arwr
Hafal i hwn mae'n siwr.

Bu'n gadarn ym mhob brwydr,
Yn flaengar yn y gad.
Ar ôl tri pheint o seidar
Heriai bob sen a brad.

Ei haeddiant nawr yw gorffwys,
Cilio o'r cwffio blin,
A threulio'i ymddeoliad
Yng nghwmni ei ffrind, 'The Queen.'

Bardd y Bwrdd Coffi

^ lan |<nol | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar Ebrill 22ain, 1996.