Y tafod trydanaidd: Erthyglau

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Golchi'r Llestri
Profiad Tony Haigh Mewn Llys


Ar brynhawn braf, hydref diwethaf, tra mod i'n golchi'r llestri yn y gegin, cerddodd yr heddlu i mewn gyda gwarant i chwilio'r tŷ. Yn anffodus, roedd fy nghynhaeaf cannabis yn sychu yn fy stafell wely. Felly, treuliais weddill y dydd a hanner y nos mewn cell yn nhwlc Aberteifi.

Yn naturiol, siaradais Gymraeg, ac roedd hyn yn ffodus, gan fod heddwas di-Gymraeg annymunol yn rhedeg y sioe, ac yn amlwg yn joio ei waith. Fe a holodd y bobl a arestiwyd gyda mi, ond roedd gen i hawl i wrthod siarad ag e. Ces i fy holi gan heddlu lleol llai annymunol, ac rwy'n dal i gofio un ohonynt yn dweud, "Sa i 'di 'neud hyn o'r blaen. Beth yw cannabis yn Gymraeg?"

Wedyn daeth yr achos llys. Bues i yn y llysoedd sawl gwaith dros ymgyrch Cymdeithas yr Iaith am Ddeddf iaith Newydd, ac roeddwn yn disgwyl achos Cymraeg heb drafferth, fel y cefais bryd hynny. I'm syndod, bu'r erlynwraig yn ddi-Gymraeg. Es i ymlaen, beth bynnag, gan fod y clerc a'r ynadon yn Gymraeg. Roeddwn wedi penderfynu mynnu cael gwrandawiad yn Llys y goron, felly chefais ohiriad.

Fy mwriad cyntaf oedd creu cymaint o drafferth a phosib iddynt am f'arestio dan gyfraith mor ormesol a dwyn fy nghannabis. Oed newidiais fy meddwl -- roedd hi'n ormdod o drafferth i minnau, ac hefyd nid oedd y papurau yn gallu cyhoeddi fy llythyron o brostest nes i'm achos dod i ben. Felly sgrifenais ar yr erlyniad, yn Gymraeg, i ddweud y byddaf yn fodlon pledio'n euog yn Llys yr Ynadon. Cymerais yn ganiatol y byddant wedi paratoi eu hachos yn Gymraeg erbyn hyn. Yntydw i'n wirion? Dyna'r un erlynwraig, a doedd hi heb ddysgu Cymraeg. Cwynais, ond dywedais fy mod am fynd ymlaen â'r achos, i'w gael e drosodd, a hithau'n siarad Saesneg.

Dechruais ddeall. O'm profiadau gyda Chymdeithas yr Iaith, roeddwn i wedi cymeryd bod y frwydr am driniaeth deg wedi'i ennill, o leiaf, yn y llysoedd. Ond nid felly roedd hi. Roedd yr awdurdodau wedi dysgu bod hi'n beryglus ein cythruddo ni. Ond, os digwyddodd rhyw hen hipi gael ei ddal am smocio cannabis, nid oedd rhaid becso. Y tro cyntaf gweithredais dros Gymdeithas yr Iaith, daeth y galwad o ddyn a oedd wedi'i ddal am drosedd gyrru, ac roedd e am brotestio am dderbyn yr un fath o driniaeth. Ers hynny, ar ôl blynyddoedd o brotestio, deddf iaith, Quango iaith, a honiadau bod brwydr yr iaith drosodd, beth oedd wedi newid?

Ar ôl yr achos, derbynais fy nogfen gyntaf Gymraeg! Hysbysiad am ddirwy oedd hi; llungopi, anodd ei ddarllen, o fersiwn wedi'i theipio o'r ffurflen daclus Saesneg. Ac, ar y fersiwn Saesneg, daeth eglurhad. "Cewch wrandawiad Cymraeg os oes arnoch ei heisiau. Dylech wneud cais yn ddi-oed i Glerc Llys yr Ynadon." Drueni nad oeddynt wedi dweud o'r blaen. Roeddwn wedi meddwl bod siarad dim ond Cymraeg o'r eiliad cerddodd yr heddlu i mewn yn ddigonol.

Rhyw ddydd, byddaf yn y llys eto. Mae'r erlyniad yn disgwyl y talaf £40 iddynt am eu gwaith campus. Ac rydw i fod i dalu £200 am fod mor haerllug â dewis cyffur saffach na'r alcohol a baco mae'r ynadon yn eu cymeryd. Bydd hi'n fraint i gael gwrthod talu, dros y ddau ymgyrch hawliau sifil agosaf at fy nghalon.

Mae'n rhyfedd, beth all digwydd tra bod chi'n golchi'r llestri.

Tony Haigh

^ lan |<nol | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar Ebrill 22ain, 1996.