Y tafod trydanaidd: Erthyglau

Cylchgrawn Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar y We Fyd-Eang


Gair o'r Gofod
Rhifyn 264


Roedd fy nhad yn ddyn o egwyddor. Felly hefyd fy nhaid a fy hen daid. Wn i ddim am y cenedlaethau cyn hynny. Efallai na chefais glywed amdanyn nhw am nad oedden nhw yn wyr a gwragedd o egwyddor fawr. Beth bynnag, wn i ddim yn union ar ba gangen o'r goeden achau dwi'n sefyll ar hyn o bryd, os newch chi faddau i mi am gymysgu delweddau am eiliad; wn i ddim os ydw i yng nghorlan y defaid gwynion neu'r defaid duon ('da chi'n gweld, roedd hi'n anodd gosod dafad ar goeden, neu frigyn, neu mewn nyth, yn doedd?). Lle bynnag y gesyd fy hanes teuluol dwi'n gobeithio fod rhyw gymaint o egwyddor a gweithredu uniongyrchol fy nghyndeidiau wedi gwaddodi yn fy ngwythiennau i. Rhoddodd fy hen daid, oedd yn gapelwr, dirwestwr ac undebwr selog ac ar ei ffordd adra o'r capel efo'r casgliad am y Sul yn ei boced, rhyw leidr pen ffordd ar wastad ei gefn unwaith am fynnu ei arian neu ei fywyd; ' 'run o'r ddau ngwas i!' oedd ateb George Jones cyn rhoi clec i'r lleidr a phedlo i ffwrdd ar ei feic ...

Dwi di cael achos i orfod meddwl yn ddiweddar! Ddigwyddith hynny ddim yn aml. Fyddwn i'n gobeithio ein bod ni i gyd fel aelodau Cymdeithas yr Iaith, er efallai yn ymateb yn reddfol i sefyllfa, yn hyderus fod y reddf honno wedi ei seilio ar egwyddor o hir ymarfer. Doedd George Jones ddim yn un am ddefnyddio'i ddyrnau, hyd y gwn i, ond fe wyddai mai arbed casgliad y Sul hwnnw oedd bwysica iddo fo.

Mae hyn wedi digwydd i mi cyn hyn. O ddod i gyfarfyddiad annisgwyl â David Hunt, John Redwood neu Wyn Roberts fe ddigwyddais i ymateb mewn ffordd cwbl reddfol, dwi'n cydnabod hynny. O neidio i'r car at Redwood neu weiddi ar ôl Hunt doeddwn i ddim wedi eistedd i lawr a meddwl am hyn yn ofalus, ddim yn yr achos penodol hwn. Roeddwn i wedi gwneud hynny rhywbryd, ond ddim y bore hwnnw dros fy Rice Crispies. Canlyniad hyn oll? Yn yr achos cynta, ar anterth carchariad Alun a Branwen ym mis Tachwedd 1991, fe glywyd Hunt yn holi 'who are these people?' a ddigwyddodd na ddim byd i mi. Yn yr ail achos fe wynebais achos llys pur ddifrifol, a chael fy rhyddhau, ac fe dreuliodd Dafydd Morgan Lewis hanner awr yn siarad efo Spock.

Yr hyn sydd wedi bod yn fy mhoeni i'n ddiweddar ydi hyn. Oeddwn i'n gweithredu'n reddfol yn sicr o f'egwyddor 'ta oeddwn i'n gweithredu ac wedyn yn cymhwyso'r egwyddor i gyfiawnhau fy ngweithredoedd?

Llythyr gan y frenhines wnaeth i mi feddwl am hyn. Sgwenish i ati hi yn holi fyddai ganddi awydd dod am beint bach i'r Cwps. Cefais ateb yn dweud y bydda hi wrth ei bodd ond yn anffodus nad oedd y dyddiad yn gyfleus! A'r dyddiad? Diwrnod agor trydydd adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth. Mae Cell Gogled Cerdigion wedi bod yn ystyried pa fath o wrthwynebiad ellid ei ddangos i 'r ymweliad brenhinol. Er i aelodau a swyddogion y gell fod yn sensitif iawn i ddymuniadau yr aelodau hynny oedd yn gweithio yn y Llyfrgell penderfynwyd mynd ati i wthio'r cwch i'r dr gyda llythyr agored yn y Wasg. Hynny ar ben Gwyl Twll Tîn i'r Cwîn (31 Mai -- 1 Mehefin).

Fe arwyddodd nifer ohona ni sydd yn aelodau o staff y Llyfrgell y llythyr. Efallai i mi wneud hynny yn reddfol fel yn union y sgwenish i ati hi yn holi am ddêt yn y Cwps. Ond a oedd hynny wedi ei seilio ar egwyddor yntau ar falais yn erbyn fy nghyflogwyr?

Nes i holi fy hun a fyddwn i'n cefnogi agor sefydliad Cenedlaethol arall gan y cwîn? Na fyddwn? Petae Cell Gogledd Ceredigion heb gynnig eu gwrthwynebiad neu petae Cell Gogledd Ceredigion ddim yn bod o gwbl a fyddwn i fy hun wedi bodloni ar ddistawrwydd? Na fyddwn, fe fyddwn i wedi gwneud rhywbeth am y peth fy hun. Felly fydda 'na ddim sail yn y byd dros wrthod arwyddo er mwyn diogelu 'enw da', 'parchusrwydd' a 'sicrwydd swydd' yn y Llyfrgell os fyddai hynny yn golygu hepgor fy enw da yng ngolwg fy ffrindiau, fy hunan barch a'm sicrwydd swydd ar Senedd y Gymdeithas!

Picil personol i mi oedd hwn. Roedd rhaid i mi fod yn hapus â mi fy hun os oeddwn i'n gwneud y peth iawn ai peidio. Fyddwn i'n gobeithio bod llawer yn gwneud hynny o ddydd i ddydd mewn sawl swydd mewn sawl sefyllfa amrywiol ble mae'n hegwyddorion ni fel aelodau o'r Gymdeithas yn dod i wrthdrawiad a'n buddianau personol ni yn ein lle gwaith. Nid pledio achos rhyw aberth arwrol ydw i ond pledio achos glynnu at egwyddor. Gobeithio na wela'i mo'r dydd y bydd y geiriau hyn yn cael eu hedliw i mi ...

A dyma fo ... y gair olaf o'r gofod.

Diolch am bopeth!

Hwyl Fawr!

Rocet

^ lan |<nol | * Cartref


Golygydd a Chynhyrchydd y tudalennau yma yw Iwan Standley (iwan@cymdeithas.com).
Newidiwyd ddiwethaf ar Ebrill 22ain 1996.