Yn ystod y flwyddyn nesaf bydd Cymdeithas yr iaith yn trefnu nifer o ddigwyddiadau i nodi pen-blwydd y mudiad yn hanner cant ac i gydnabod pum degawd o ymgyrchu brwd o blaid y Gymraeg. Sefydlwyd y Gymdeithas ar y 4ydd Awst, 1962 ym Mhontarddulais. Roedd darlith Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, yn ysbrydoliaeth i sefydlu'r Gymdeithas.
Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle arbennig i bobl o bob cwr o Gymru, a thu hwnt, i ddathlu hanes ein hymgyrchu dros yr iaith Gymraeg. Rydyn ni yn y Gymdeithas yn fudiad o bobl sydd yn dibynnu ar weithredoedd a brwdfrydedd unigolion a chymunedau dros y Gymraeg. Dyma ein cyfle i ddweud diolch iddyn nhw am eu hymroddiad ac hefyd ysbrydoli cenhedlaeth newydd a fydd yn gallu symud iaith unigryw Cymru ymlaen.
Gwyl Hanner Cant
I nodi pen-blwydd Cymdeithas yr Iaith yn hanner cant, ac i ddathlu pum degawd o ymgyrchu brwd a hyrwyddo cerddoriaeth Gymraeg, bydd 50 o artistiaid Cymraeg blaenllaw yn perfformio mewn gig enfawr ym mhafiliwn enwog Pontrhydfendigaid. Hanner Cant fydd y digwyddiad mwyaf i’r sîn roc Gymraeg ei weld ers blynyddoedd. Byddwn yn cyhoeddi enwau’r artistiaid un bob wythnos rhwng nawr a’r penwythnos mawr. Gwybodaeth llawn ar hannercant.com
Munud i ddathlu: Ffilm Dorfol
Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn gwahodd pawb yng Nghymru i gyfrannu at ffilm dorfol arbennig am yr iaith fel rhan o ddathliadau hanner cant mlwyddiant y mudiad. Mae'r mudiad iaith yn galw ar Gymry Cymraeg i greu ffilmiau munud o hyd - gyda eu ffonau symudol neu gamerau - yn portreadu'r profiad o siarad Cymraeg. Bydd y ffilmiau yn cael eu golygu at ei gilydd i greu ffilm dorfol o'r enw 'Munud i Ddathlu', a fydd yn cael ei lansio i gyd-fynd â phen-blwydd pumdeg darlith Tynged yr Iaith, Saunders Lewis ym Mis Chwefror y flwyddyn nesaf. Manylion llawn yma cymdeithas.org